Datblygu Sgiliau Iaith
A ydych chi'n ansicr neu'n ddihyder pan fydd angen i chi ysgrifennu yn Gymraeg, yn enwedig yn eich gwaith?
A ydych chi'n ansicr o'r cywair neu'r ieithwedd briodol wrth siarad neu ysgrifennu yn Gymraeg?
A ydych yn teimlo nad yw eich Cymraeg chi'n 'ddigon da'?
Os ydych chi wedi ateb 'ydw' i unrhyw un o'r cwestiynau uchod, yna mae'n debyg y byddai cwrs Sgiliau Iaith yn ddefnyddiol i chi.
Mae Canolfan Bedwyr yn darparu nifer o gyrsiau sgiliau iaith i'ch helpu i ddod yn fwy hyderus wrth ddefnyddio'r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae'r cyrsiau hyn yn cael eu darparu ar gyfer:
- myfyrwyr Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
- staff Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
- cwmnïau, asiantaethau a sefydliadau allanol sy'n awyddus i weld eu staff yn datblygu eu hyder i ddefnyddio'r Gymraeg yn y gweithle
Mae tîm tiwtoriaid Canolfan Bedwyr hefyd yn gyfrifol am y Cynllun Sabothol ar gyfer Hyfforddiant Iaith Gymraeg i athrawon a darlithwyr.