Llinell Amser Canolfan Bedwyr
Sefydlu Canolfan Bedwyr
Cafodd y ganolfan ei sefydlu ar y cyntaf o Awst 1996 fel rhan o'r broses o uno Prifysgol Cymru 亚洲色吧 a'r Coleg Normal. Cafodd y ganolfan ei henwi ar 么l y diweddar Athro Bedwyr Lewis Jones a'i hagor yn swyddogol gan ei weddw, Mrs Eleri Wynne Jones.
1996Cymarfer ar CD-Rom
Yn 1999, cafodd y cyntaf o sawl pecyn cyfrifiadurol rhyngweithiol ar gyfer datblygu sgiliau Cymraeg ei gyhoeddi. O dan y teitl 'Cymarfer', cyhoeddwyd cyfres o becynnau ar wahanol lefelau ar gyfer myfyrwyr ac ar gyfer y gweithle.
Cyhoeddi Llyfryn Cymraeg Clir
Gyda chyhoeddi'r llyfr hwn o waith Cen Williams, gosodwyd sail ar gyfer datblygu gwaith hyfforddi, cyfieithu a golygu Uned Cymraeg Clir y ganolfan.
Geraint Wyn wrth y llyw
Yn ystod cyfnod o ddwy flynedd rhwng 2000-2002, secondwyd Dr Cen Wiliams i arwain gwaith yr Uned Datblygu Addysg Cyfrwng Cymraeg ar ran Prifysgol Cymru a daeth Dr Geraint Wyn Jones i arwain Canolfan Bedwyr yn ei le.
2000Sefydlu'r Uned e-Gymraeg
Roedd sefydlu'r uned newydd hon yn dwyn ynghyd y Ganolfan Safoni Termau (a oedd wedi'i lleoli gynt yn yr Ysgol Addysg) a nifer o brojectau Peirianneg Iaith (a oedd wedi'u lleoli yn yr Ysgol Seicoleg, Canolfan Ymchwil Cymru a Chanolfan Bedwyr). Dan arweiniad Delyth Prys, adeiladwyd ar ar y seiliau hyn, ac yn 2006, cafodd yr uned ei hail-enwi yn Uned Technolegau Iaith.
2001Cyhoeddi Gwirydd Sillafu Cymraeg Microsoft
Ym mis Hydref 2001, lansiodd Microsft wirydd sillafu a chysylltnodydd Cymraeg ar gyfer meddalwedd Office XP. Cafodd y gwirydd ei ddatblygu mewn partneriaeth rhwng Canolfan Bedwyr, Microsoft a Bwrdd yr Iaith Gymraeg.
2001Uned Gyfieithu'r Brifysgol yn dod yn rhan o Ganolfan Bedwyr
Yn ystod 2002, symudodd Uned Gyfieithu'r Brifysgol o'r Gofrestrfa Academaidd i Ganolfan Bedwyr wrth i'r Brifysgol anelu at ddod 芒'r gwaith polisi, hyfforddi a chyfieithu at ei gilydd mewn ffordd integredig.
2002Technoleg Lleferydd Cymraeg
Dechreuodd y gwaith ymchwil technoleg lleferydd Cymraeg a Gwyddeleg drwy broject WISPR, dan nawdd yr Undeb Ewropeaidd.
2003Lexicelt
Cafodd Lexicelt, geiriadur a llyfr ymadroddion ar-lein Cymraeg/Gwyddeleg ei gyhoeddi. Roedd y project yn ffrwyth cydweithio rhwng yr Uned Technolegau Iaith a Phrifysgol UCD, Dulyn.
2004Symud i Bryn Haul
Wrth i gylch gorchwyl y ganolfan ehangu ac wrth i niferoedd staff gynyddu, symudodd y ganolfan o Neuadd Aethwy ar Ffordd y Coleg i adeilad Bryn Haul ar Rodfa Victoria.
Staff y ganolfan y tu allan i Bryn Haul
Cyhoeddi Pecyn Cysgliad
Yn Eisteddfod Genedlaethol Casnewydd 2004 lansiwyd pecyn Cysgliad. Roedd cyhoeddi'r pecyn hwn yn dwyn ynghyd y gwirydd sillafu a gramadeg Cysill a'r geiriadur electronig Cysgeir i greu un adnodd allweddol ar gyfer ysgrifennu yn Gymraeg.
Cynhadledd NAACLT
Cynhaliwyd cynhadledd flynyddol NAACLT (Cymdeithas Athrawon Ieithoedd Celtaidd Gogledd America) ym Mangor dan lywyddiaeth Delyth Prys.
2005Datblygu'r Cynllun Sabothol Cenedlaethol
Yn 2005 gofynnodd Adran Addysg y Llywodraeth i'r ganolfan ddatblygu cwrs iaith dwys ar gyfer athrawon a darlithwyr er mwyn ymateb i'r galw cynyddol am ymarferwyr cyfrwng Cymraeg. Peilotwyd y cwrs am y tro cyntaf ym mis Ionawr 2006. Erbyn heddiw, mae cyrsiau'r cynllun yn cael eu cynnig ar draws Cymru.
Un o'r criwiau cynharaf o ymarferwyr gyda'r tiwtoriaid.
2006
Ieithgi i'r BBC
Cyhoeddodd y BBC 'Ieithgi', sef cyfres o gemau iaith ar-lein a ddatblygwyd gan yr Uned Technolegau Iaith.
2006Cyhoeddi Y Termiadur
Cyhoeddodd ACCAC Y Termiadur: Termau wedi鈥檜 safoni, sef fersiwn diwygiedig a helaethach o Y Termiadur Ysgol (1998), ffrwyth ymchwil yr Uned Technolegau Iaith.
2006Ymddeoliad Cen Williams
Ym mis Gorffennaf 2007 ymddeolodd Dr Cen Williams o'i swydd fel Cyfarwyddwr y ganolfan a phenodwyd y Cyfarwyddwr presennol, Dr Llion Jones, yn ei le.
2007Symud i Safle'r Normal
Yn dilyn penderfyniad y Brifysgol i werthu Bryn Haul, symudodd y ganolfan i Adeilad Meirion ar Safle'r Normal.
Staff y ganolfan y tu allan i Meirion adeg ymweliad gan Alun Ffred Jones, y Gweinidog dros Ddiwylliant ar y pryd.
EnwauCymru ar-lein
Cafodd cronfa ar-lein EnwauCymru ei chyhoeddi, sef ffynhonnell o enwau lleoedd Cymraeg a Saesneg yng Nghymru.
2007Cyhoeddi Canllawiau Safoni Termau
Gwaith a gynhyrchwyd gan yr Uned Technolegau Iaith ar gyfer Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cynulliad Cymru a Bwrdd yr Iaith Gymraeg oedd Canllawiau Safoni Termau.
2007Y Gyfraith yn Gymraeg
Dysgu modiwl cydweithredol Y Gyfraith yn Gymraeg am y tro cyntaf, ar y cyd ag Ysgol y Gyfraith, Prifysgol 亚洲色吧. Mae myfyrwyr o brifysgolion 亚洲色吧, Aberystwyth a De Cymru yn dal i gael cynnig y modiwl bob blwyddyn.
2008Llawlyfr Gloywi ar newydd wedd
Cafodd Llawlyfr Gloywi Iaith poblogaidd y ganolfan ei ddiwygio a'i ail-gyhoeddi ar ei newydd wedd yn 2008. Mae'n parhau i werthu cannoedd o gopïau yn flynyddol.
2008Cyfieithu dros rwydwaith fideo
Yn ystod y flwyddyn, dechreuodd yr Uned Gyfieithu ddarparu gwasanaeth cyfieithu ar y pryd arloesol dros y rhwydwaith fideo. Gyda chyfieithydd ym Mangor, roedd modd i bobl mewn lleoliadau eraill dderbyn y cyfieithiad dros y rhwydwaith.
2008Cynhadledd GUM3C
Fel rhan o gyfraniad Prydain i Flwyddyn Ieithoedd y Byd UNESCO, cynhaliwyd Cynhadledd GUM3C: Cyd-ddealltwriaeth Fyd-eang mewn cyd-destunau amlieithog, amlfodd ac amlgyfrwng.
2008Lansio Cynllun Iaith Newydd
Wrth siarad yn lansiad Cynllun Iaith newydd y Brifysgol, dywedodd Meirion Prys Jones, Prif Weithredwr Bwrdd yr Iaith Gymraeg fod "亚洲色吧 yn gosod y nod i sefydliadau Addysg Uwch eraill" o ran y Gymraeg.
2008M.A. Rheolaeth Amgylcheddol
Cydweithio 芒鈥檙 Ysgol Gwyddorau Naturiol i gynnig modiwl ar gwrs M.A. arloesol Rheolaeth Amgylcheddol, cwrs sy鈥檔 cael ei ddysgu鈥檔 gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg.
2009Sefydlu'r Project Termau Addysg Uwch
Wrth i'r Ganolfan Addysg Uwch Cyfrwng Cymraeg baratoi ar gyfer sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, penodwyd Dr Tegau Andrews i arwain Project Termau Addysg Uwch. Mae'r project yn parhau i fynd o nerth i nerth.
2009Lansio Cysill ar-lein
Lansiwyd Cysill Ar-lein fel fersiwn rhad ac am ddim o鈥檙 rhaglen gwirio sillafu a gramadeg Cysill.
2009SALTCymru
Cafodd rhwydwaith Technolegau Iaith a Lleferydd Cymru (SALTCymru) ei sefydlu i ddwyn ynghyd diwydiant ac academia er budd i economi Cymru.
2010Dadorchuddio Penddelw Bedwyr
Yn dilyn ap锚l genedlaethol, comisiynwyd y cerflunydd John Meirion Morris i greu penddelw o Bedwyr Lewis Jones. Dadorchuddiwyd y penddelw gan ei weddw Mrs Eleri Wynne Jones ar 4 Mai 2010. Mae'r penddelw i'w weld y tu allan i Siambr y Cyngor ym Mhrif Adeilad y Brifysgol.
John Meirion Morris ac Eleri Wynne Jones ar ddiwrnod y dadorchuddio
Lansio Cymorth Cymraeg
Lansiwyd y siop-un-stop hon o adnoddau iaith ar gyfer staff y Brifysgol ym mis Mehefin 2011. Dros y blynyddoedd y mae'r wefan wedi dod yn adnodd gwerthfawr i weithwyr mewn sefydliadau a busnesau ar draws Cymru sydd am ddefnyddio'r Gymraeg yn eu gwaith.
Safoni Termau ar gyfer ysgolion
Dan nawdd Llytwodraeth Cymru, rhoddwyd cychwyn ar waith pellach i safoni termau ar gyfer ysgolion a cholegau addysg bellach Cymru a dechrau cyhoeddi Y Termiadur Addysg ar-lein dan olygyddiaeth Gruffudd Prys.
2011CyfieithuCymru
Ym mis Awst 2011, lanswiyd system gyfieithu Gymraeg a gr毛wyd gan David Chan a Dewi Bryn Jones i reoli projectau cyfieithu sefydliadau mawr, yn cynnwys cof cyfieithu a chyfieithu peirianyddol. Mae'r system yn cael ei defnyddio gan yr Uned Gyfieithu ym Mangor yn ogystal 芒 nifer o sefydliadau eraill.
2011Sefydlu Cangen 亚洲色吧 o'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Yn dilyn sefydlu'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ym mis Ebrill 2011 daeth Cangen Prifysgol 亚洲色吧 o'r Coleg i fodolaeth gyda'i chartref gweinyddol yng Nghanolfan Bedwyr.
Dr Enlli Huws a Dr Owain Llwyd - dau o benodiadau cyntaf Cangen 亚洲色吧 fel darlithwyr cyfrwng Cymraeg.
Symud i Neuadd Dyfrdwy
Ym mis Gorffennaf 2011, symudodd y ganolfan i'w chartref presennol yn Neuadd Dyfrdwy ar Ffordd y Coleg.
Rhoi Geiriadur yr Academi Ar-lein
Ar ddydd G诺yl Dewi 2012, lansiwyd fersiwn ddigidol o gampwaith Bruce Griffiths a Dafydd Glyn Jones. Uned Technolegau Iaith y ganolfan oedd yn gyfrifol am y gwaith technolegol o roi'r 90,000 a mwy o gofnodion ar y we.
Peilota Tystysgrif Iaith
Dan arweiniad staff y ganolfan, cafodd Tystysgrif Sgiliau Iaith y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ei pheilota. Mae'r dystysgrif yn rhan greiddiol o ddarpariaeth y Coleg erbyn hyn.
2012Ennill Gwobr Ysbrydoli Cymru
Mewn seremoni yn Neuadd y Ddinas Caerdydd o dan nawdd y Sefydliad Materion Cymreig a鈥檙 Western Mail, derbyniodd y Brifysgol wobr Ysbrydoli Cymru yn y categori 鈥楪weithleoedd Dwyieithog鈥. Roedd yr enwebiad yn seiliedig ar waith y ganolfan yn hybu a hyrwyddo鈥檙 Gymraeg yn y gweithle
Lansio'r Ap Geiriaduron
Ym mis Hydref 2012, aeth rhai o aelodau'r Uned Technolegau Iaith i gopa'r Wyddfa i lansio'r ap Geiriaduron ar gyfer dyfeisiau Android ac iOS.
Lansio Porth Termau
Cafodd Porth Termau Cenedlaethol Cymru ei lansio.
2013Beic Ymarfer mewn Cymraeg Clir
Ar gais y cwmni rhyngwladol Johnson Health Tech, derbyniodd uned Cymraeg Clir y ganolfan gomisiwn i greu rhyngwyneb Cymraeg ar gyfer eu hoffer ymarfer corff.
Porth Corpora
Cafodd Porth Corpora Cenedlaethol Cymru ei lansio, sef casgliad o gorpora ysgrifenedig Cymraeg a dwyieithog ar-lein y mae modd eu chwilio drwy ryngwyneb hwylus.
2014Ffair Swyddi Cymraeg
Ym mis Mawrth 2014 trefnodd y ganolfan y Ffair Swyddi Cymraeg am y tro cyntaf - digwyddiad blynyddol sydd bellach yn mynd o nerth i nerth.
2014Cynhadledd y Gymraeg a Thechnoleg
Cynhaliodd yr Uned Technolegau Iaith gynhadledd ym Mhrifysgol 亚洲色吧 ar thema y Gymraeg a Thechnoleg. Yn ystod y gynhadledd, cafodd Porth Technolegau Iaith Cenedlaethol Cymru ei lansio.
2015Cydnabod Gwaith Tiwtor
Yn ystod seremoniau graddio'r Brifysgol, dyafrwnwyd Cymrodoriaeth Ddysgu Prifysgol 亚洲色吧 i Eleri Hughes, Prif Diwtor yr Uned Sgiliau Iaith, am ei gwaith yn darparu cefnogaeth ieithyddol i fyfyrwyr.
Cwrs i Staff Academaidd
Cyflwyno鈥檙 Cwrs Sgiliau Iaith i Staff Academaidd y Brifysgol am y tro cyntaf. 鈥淐wrs gwych!鈥
2015Cynhadledd #iaithgwaith
Ym mis Tachwedd 2015, daeth Carwyn Jones, Y Prif Weinidog i agor cynhadledd genedlaethol a drefnwyd gan y ganolfan er mwyn cyflwyno a thrafod dulliau o annog a hwyluso defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle.
Cwrs i Gynorthwywyr Dosbarth
Am y tro cyntaf yn hanes y Cynllun Sabothol yn y gogledd, cyflwynodd yr Uned Sgiliau Iaith gwrs i Gynorthwywyr Dosbarth yn Fflint a Wrecsam.
2016
Macsen
Dechreuodd yr Uned Technolegau Iaith gweithio ar broject Macsen i greu鈥檙 cynorthwyydd personol digidol Cymraeg cyntaf.
2016
Pen-blwydd yn 20
Ym mis Medi 2016, bydd Canolfan Bedwyr yn dechrau ar flwyddyn gron o ddigwyddiadau a dathliadau i gofnodi ugain mlynedd o arloesi ym maes datblygu a chynllunio iaith. Cadwch olwg ar y wefan am ragor o fanylion.