Galwadau ffôn *
- Dylid ateb galwadau ffôn yn ddwyieithog (Bore da, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É / Bore da John Jones etc.)
- Dan Safonau'r Iaith Gymraeg mae angen i ni ei gwneud yn glir bod gwasanaeth iaith Gymraeg ar gael. Felly, argymhellir bod staff yn dweud: Fyddech chi’n hoffi derbyn y gwasanaeth yma yn Gymraeg? / Would you like to receive this service in Welsh?
- Os yw galwr yn dymuno siarad Cymraeg, rhaid delio â'r alwad yn Gymraeg cyn belled â phosib, nes daw'n angenrheidiol i drosglwyddo'r alwad i aelod staff di-Gymraeg gan nad oes aelod staff sy'n siarad Cymraeg ar gael i ddarparu gwasanaeth ar y mater penodol hwnnw.
- Wrth hysbysebu rhifau ffôn, rhaid i chi nodi (yn Gymraeg) bod y brifysgol yn croesawu galwadau yn Gymraeg.
- Bydd peiriannau ateb canolog ac adrannol yn ddwyieithog a byddant yn dweud yn glir ei bod yn bosib gadael neges yn Gymraeg.
- Rhaid i wasanaethau ffôn awtomataidd fod ar gael yn ddwyieithog.
- Dylid ffonio myfyrwyr sy'n siarad Cymraeg (fel y cofnodir yn Banner) gan aelodau staff sy'n siarad Cymraeg pryd bynnag y bo'n bosib.
- Pa fyddwch yn galw aelodau o'r cyhoedd / cynrychiolwyr cyrff cyhoeddus yng Nghymru am y tro cyntaf, gofynnwch pa iaith yr hoffent ei defnyddio ar y ffôn wrth ddelio â'r mater dan sylw a chadwch gofnod o hynny.
- Dylid parchu dewisiadau iaith ar gyfer galwadau ffôn wrth i alwadau gael eu trosglwyddo rhwng unigolion / adrannau. Os byddwch yn trosglwyddo galwad, rhowch wybod i'r aelod staff arall y deliwyd â'r alwad yn Gymraeg hyd at y pwynt hwnnw.
* Mae'r canllawiau hyn yn cyfeirio at alwadau'n ymwneud â gwasanaethau'r brifysgol
Recordiadau defnyddiolTrosolwg Polisi
- Polisi Iaith Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
- Cod Ymarfer ar Benodi Staff
- 10 Egwyddor
- Canllaw Cyflym
- Sylwadau & Chwynion