Sicrhau perfformiad parhaus
Gan ddatblygu鈥檙 sgiliau rheoli effeithiol a amlinellwyd yn gynharach yn y ddogfen, mae鈥檔 hollbwysig defnyddio鈥檙 sgiliau hyn yn y ffordd orau wrth roi adborth effeithiol, pan fydd angen cael sgwrs anodd gyda staff ac atgyfnerthu adborth a gosod nodau yn yr Adolygiad Datblygu Perfformiad.
Rhoi adborth effeithiol
Pwrpas adborth yw atgyfnerthu gweithredoedd ac ymddygiad cadarnhaol neu ailgyfeirio gweithredoedd ac ymddygiad fel bod unigolion yn newid eu hymddygiad a gweithredoedd. Bydd eich dull o roi adborth wrth gwrs yn dibynnu ar y sefyllfa hynny yw, gallech benderfynu mai dim ond adborth ysgafn sydd ei angen i gael y canlyniadau gofynnol neu mae鈥檔 rhaid i chi baratoi os bydd angen adborth mwy ffurfiol 鈥 yn arbennig os yw鈥檙 adborth yn negyddol.
Pan fyddwch yn rhoi adborth dylech sicrhau ei fod yn cael ei roi mor agos 芒 phosib i鈥檙 digwyddiad fel ei fod yn amserol ac yn berthnasol. Hefyd, cofiwch y gall yr unigolyn ei chael hi鈥檔 anodd i dderbyn yr adborth ac felly mae paratoi鈥檔 dda yn hollbwysig fel y gallwch gyfathrebu eich neges yn sensitif ac yn effeithiol.
Fodd bynnag, o ran eich dull rheoli cyffredinol, cofiwch roi adborth cadarnhaol i staff 鈥 mae鈥檔 ysgogi ac yn helpu i atgyfnerthu ymddygiadau a gweithredoedd cadarnhaol!Cael sgyrsiau anodd
O bryd i鈥檞 gilydd, mae materion yn codi sy鈥檔 ei gwneud hi鈥檔 ofynnol i godi materion anodd gyda staff. Gall y mathau hyn o drafodaeth fod y sefyllfaoedd mwyaf anodd y mae鈥檔 rhaid i reolwr ymdrin 芒 nhw, dyma rai egwyddorion allweddol i鈥檞 dilyn pan rydych yn gorfod rhoi adborth negyddol ac anodd.
- Gwybod eich ffeithiau a鈥檜 cadw wrth law 鈥 nid ydych eisiau colli鈥檆h trywydd os ydych wedi cael eich ffeithiau鈥檔 anghywir a bydd rhaid i chi sicrhau eich hygrededd drwy gydol y broses.
- Rhagweld ymddygiad pobl eraill a pharatoi eich ymatebion 鈥 Dylech ragweld ymddygiad pobl eraill a pharatoi eich ymateb eich hun drwy ddychmygu beth alla鈥檌 ddigwydd. Paratowch eich atebion yn 么l y gwahanol senarios a all ddatblygu. Paratowch pobl eraill i鈥檆h cefnogi ac amddiffyn. Bydd paratoi鈥檔 dda yn cynyddu eich hunan hyder ac yn eich galluogi i fod yn bendant am yr hyn sy鈥檔 bwysig i chi.
- Paratowch a defnyddiwch gwestiynau agored da 鈥 Gofyn cwestiynau da yw鈥檙 ffordd fwyaf ddibynadwy o achub y blaen, a chymryd y gwynt o hwyliau rhywun, mewn unrhyw sefyllfa. Hefyd peidiwch 芒 gadael neb i鈥檆h rhwystro, daliwch ati. Os caiff y cwestiwn ei osgoi neu ei anwybyddu, ewch yn 么l ato neu ei aralleirio.
- Adnewyddu ac ymarfer eich ymateb i ymddygiad ymosodol 鈥 Mae鈥檔 debygol y bydd ymatebion unigolion yn negyddol mewn sefyllfa anodd ac felly mae鈥檔 rhaid i chi sicrhau eich bod yn bendant (ddim yn oddefol nac yn ymosodol) a pharatowch ar gyfer ymatebion negyddol. Unwaith eto, mae paratoi yn bwysig a byddwch yn ymwybodol o sut fyddwch yn ymateb i atebion negyddol.
- Os ydych yn ansicr, gofynnwch am help 鈥 fel nodwyd, nid yw鈥檔 hawdd ymdrin 芒鈥檙 sefyllfaoedd hyn. Fel rhan o鈥檆h gwaith paratoi, siaradwch 芒 rheolwr arall neu rywun yn AD fel y byddwch yn teimlo鈥檔 fwy hyderus wrth ddelio 芒鈥檙 sefyllfaoedd hyn.
Adolygiad datblygu perfformiad
Mae鈥檙 Adolygiad Datblygu Perfformiad yn adeiladu ar adborth rheolaidd drwy鈥檙 flwyddyn fel y gallwch chi a鈥檆h staff nodi amcanion newydd.
Mae Cynllun Adolygiad Datblygu Perfformiad Prifysgol 亚洲色吧 yn seiliedig ar y gred bod gan yr holl staff yr hawl i ddealltwriaeth glir o ddisgwyliadau鈥檙 Brifysgol ohonynt a chyfle i drafod a chytuno ar eu cyfraniad at gyflawni amcanion y Brifysgol. Amcanion y cynllun Adolygiad Datblygu Perfformiad yw:
- dod 芒 staff ac adolygwyr at ei gilydd yn rheolaidd, i adolygu swyddogaethau, disgwyliadau a datblygiad.
- adnabod cryfderau staff a鈥檜 cyfraniadau at y Brifysgol.
- cytuno ar amcanion allweddol unigolion i sicrhau bod yr holl staff yn gwneud cyfraniad effeithiol at gyflawni nodau ac amcanion cyffredinol y brifysgol.
- nodi a chefnogi anghenion datblygiad proffesiynol parhaus aelodau staff.
- rhoi cyfle i unigolion fyfyrio ar yr hyn y maent yn ei wneud a sut yr hoffent gyfrannu yn y dyfodol ac
- annog cyfathrebu effeithiol o fewn y Brifysgol.
O ran y broses, disgwylir bod staff yn cael Adolygiad Datblygu Perfformiad o leiaf unwaith y flwyddyn a bod y broses wedi ei seilio鈥檔 gadarn ar y rhagosodiad bod yr holl staff yn gwneud eu gwaith yn well a chyda mwy o foddhad yn y gwaith, pan:
- Maent yn gwybod beth a ddisgwylir ganddynt, a gallant gytuno 芒 hynny.
- Maent yn cael sylwadau ar eu gwaith gan reolwyr a chydweithwyr y maent yn atebol iddynt.
- Gallant fynegi pryderon a nodi cyfyngiadau heb ofni cael eu hedliw.
- Maent yn cael cefnogaeth ac arweiniad i gyflawni amcanion y cytunwyd arnynt.
- Bod cyfle i hunan-ddatblygu a datblygu gyrfa.
Felly mae鈥檙 brifysgol yn ystyried yr Adolygiad Datblygu Perfformiad fel proses gadarnhaol sy鈥檔 caniat谩u i reolwyr a staff adfyfyrio ar eu gwaith a nodi amcanion ar gyfer y cyfnod canlynol. Fel rheolwr rydych yn gyfrifol am: gytuno ar set o amcanion ar gyfer y flwyddyn ganlynol, rhoi arweiniad i鈥檙 sawl sy鈥檔 cael ei adolygu, nodi anghenion hyfforddi a datblygu i gynorthwyo gyda chyflawni amcanion a nodwyd ac amcanion datblygu gyrfa cyffredinol a gwerthuso llwyddiant o ran cyflawni amcanion a pherfformiadau blaenorol a bod yn agored i dderbyn a rhoi sylwadau perthnasol.
Dylai鈥檙 Adolygiad Datblygu Perfformiad fyfyrio ar drafodaethau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn mewn cyfarfodydd un i un gyda staff ac mewn cyfarfodydd t卯m a dylai helpu rheolwyr i gynllunio gwelliannau at y dyfodol a chynllunio cyfleoedd datblygu i staff.
Os nad oes llawer o newid ym mherfformiad unigolyn ar 么l cael hyfforddiant, adborth a chefnogaeth, efallai bydd angen dilyn trefniadau ffurfiol i roi sylw i鈥檙 bylchau mewn perfformiad.