Meddwl am anthropoleg gofal iechyd
Dr Lorelei Jones
12 Gorffennaf 2019
Yr wythnos hon mae Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn cynnal yr Ysgol Haf flynyddol sy'n rhoi sylw i Ymchwil Gwasanaethau Iechyd Rhyngwladol. Bydd cynadleddwyr o bob cwr o'r byd yn cyflwyno eu hymchwil, yn mynychu amrywiol ddosbarthiadau meistr, a bydd cinio yn Teras, ym Mhrif Adeilad y Celfyddydau yn y 'Brifysgol ar y Bryn', fel y gall y siaradwyr a'r cynadleddwyr rwydweithio a thrafod hynt a helynt yr wythnos. Mae'r tywydd ar yr adeg hon o'r flwyddyn yn ogoneddus. Os camwch allan gallwch weld y Fenai, Ynys Môn ac Ynys Seiriol. Eleni, byddaf yn mynychu fel aelod o staff, i siarad am anthropoleg gofal iechyd.
Mae'n amser creadigol iawn i fod yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd. Mae Ellie Overs, ein hartist preswyl newydd, yn datblygu ei gwaith ar ethnograffeg weledol, ac mae pob myfyriwr PhD newydd a phob myfyriwr ar y Ddoethuriaeth Broffesiynol newydd yn dod â syniadau, brwdfrydedd ac egni ffres i astudio ymwneud diwylliant a gofal â'i gilydd. Ddydd Gwener byddaf yn siarad am rai o'r pethau y mae gennyf ddiddordeb ynddynt - diwylliant, pŵer, a newid mewn sefydliadau; cymunedau proffesiynol a hunaniaeth; a ffurfiau newydd ar wybodaeth a'r hyn y maent yn ei olygu o ran sut rydym yn gofalu. Ond rwyf hefyd wedi bod yn meddwl yn fwy cyffredinol am gyfraniad anthropoleg i ofal iechyd.
Gofalu
Mae dylunwyr technoleg newydd wrth eu boddau ag anthropolegwyr. oedd enw Ellen Pader ar hyn - deall pobl, pam ein bod yn gwneud y pethau yr ydym yn eu gwneud, beth rydym yn ei werthfawrogi, ein blaenoriaethau, a'r cyfyng-gyngor a wynebwn, yr hyn yr ydym yn ceisio'i gyflawni, a'r strategaethau yr ydym yn eu datblygu i wneud hynny. Gall anthropolegwyr ddangos ystyr mewn rhywbeth a allai ymddangos, o'r tu allan, yn afresymol neu'n anesboniadwy. Mewn gofal iechyd, gall anthropoleg helpu'r rhai sy'n datblygu ymyriadau newydd trwy daflu goleuni ar arferion beunyddiol y rhai sy'n cynllunio, yn rhoi ac yn derbyn gofal. Gall y ddealltwriaeth honno roi sail i gynllun ymyriadau, gan eu gwneud yn fwy effeithiol, derbyniol ac ymarferol yng nghyd-destunau'r byd go iawn.
Ond rydym yn gwneud rhywbeth pwysicach na hynny. Rydym yn dangos nad arloesi yw popeth.
Mae anthropolegwyr hefyd yn astudio . Gwaith potsian staff gofal iechyd, cleifion a gofalwyr sy'n sicrhau ansawdd a diogelwch mewn cyd-destunau tameidiog lle mae adnoddau'n gyfyngedig. Y gwaith sy'n , oherwydd ei fod yn cael ei wneud gan fenywod, neu'r rhai sy'n is yn yr hierarchaeth sefydliadol. Does dim yn rhywiol am hyn, ond mae'n cadw pethau i fynd.
'Photograph courtesy of Eleanor Overs'
Gwneud gofal iechyd yn 'well'
Mae'n fraint addysgu a goruchwylio meddygon, nyrsys a bydwragedd. Mae pob un o'r myfyrwyr yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd eisiau gwella'r gofal y maent yn ei ddarparu i bobl, ac wrth iddynt symud ymlaen yn eu gyrfa byddant yn gyfrifol am ddatblygu gwasanaethau newydd, neu wella gwasanaethau presennol. Rwy'n credu mai un o'r ffyrdd pwysicaf y gall anthropoleg gyfrannu at ymarfer yw drwy feithrin creadigrwydd, drwy awgrymu ffordd wahanol o ddeall problem.
Nid ‘mwy effeithiol’ yw unig ystyr 'gwell', gall olygu bod yn fwy moesegol, yn fwy cynhwysol ac yn fwy cyfranogol. Mae'r canlyniadau'n bwysig, ond mae cleifion hefyd yn rhoi gwerth ar a'r profiad beunyddiol o dderbyn gofal. Mae cleifion yn poeni am sut mae staff yn cyfathrebu ac yn rhyngweithio â nhw, eu teuluoedd a'u gofalwyr, a . Mae cleifion yn poeni am yr amgylchedd gofal, nid yn unig oherwydd bod arnynt eisiau teimlo'n gyfforddus ac yn ddiogel, ond oherwydd eu bod yn gweld yr amgylchedd materol fel symbol o werthoedd, agweddau ac ymddygiad y sefydliad. Mae anthropolegwyr yn rhannu ymrwymiad i '' yn lle mae'r gweithgarwch yn digwydd, wrth iddo ddigwydd, a thrwy hynny'n gallu cyfrannu eu dealltwriaeth gyfoethog at holl ystod y dimensiynau gofal iechyd sy'n bwysig i gleifion.
Gall anthropoleg hefyd gefnogi dull gofal iechyd mwy cynhwysol a chyfranogol. Mae ymchwil anthropolegol yn canolbwyntio ar ddatgelu ac ar gynnwys profiadau pobl a fyddai fel arall yn cael eu heithrio neu eu gadael ar y cyrion pan wneir penderfyniadau am wasanaethau iechyd. Byddwn yn gofyn 'gwerthoedd pwy sy'n rhan o gynllun y gwasanaeth?' 'Pa' 'fersiwn' o ofal iechyd sy'n sail i'r ffordd y darperir gofal?' 'Pa ffyrdd eraill sydd o ddeall gofal iechyd?' Mae gennym ddiddordeb hefyd mewn dod o hyd i ffyrdd o ymgorffori cyfle i gleifion a staff 'siarad drostynt eu hunain' fel rhan o'n hymchwil. Nid ein bod bob amser yn gwneud pethau'n iawn. Megis yn achos staff gofal iechyd, rydym ninnau hefyd yn pryderu ynghylch sut y gallwn wella ein hymarfer.
Po fwyaf y byddaf yn meddwl am hyn, y mwyaf y byddaf yn sylweddoli bod anthropoleg a gofal iechyd, mewn sawl ffordd, yn debyg. Yn yr un modd â gofal iechyd, daw anthropoleg . Mae anthropoleg bob amser yn ymwneud â gwneud (gwaith maes), meddwl (beth sy'n digwydd yn fan hyn?) ac ysgrifennu ('disgrifiadau trwchus' sy'n integreiddio disgrifiad â theori). Ond mae bob amser yn dechrau yn y galon. Megis gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, rydym ninnau'n gwybod os nad yw rhywbeth yn teimlo'n iawn, a dyna pryd y byddwn yn dechrau gofyn cwestiynau. Mae anthropoleg bob amser yn rhywbeth sy'n cael ei deimlo, gymaint ag y caiff ei wneud, ei feddwl, a'i ysgrifennu.