Rhoi sylw i ...
Mae mis Mawrth yn fis Hanes Merched. Rydym ni'n sgwrsio gyda Dr Marjorie Ghisoni – Darlithydd mewn Iechyd Meddwl.
Pryd gwnaethoch chi benderfynu ar yrfa mewn nyrsio iechyd meddwl?
Roedd fy mam yn nyrs pan oeddem yn byw yn Lerpwl, ac roedd fy chwaer yn nyrs yn Wrecsam felly roedd nyrsio yn y teulu, ond ar ôl methu fy arholiadau mi gollais i ddiddordeb, ac ar ôl ychydig o flynyddoedd yn gweithio mewn siopau a chanolfannau gwyliau, mi briodais i a dechrau teulu. Roeddwn i bob amser eisiau gofalu am bobl, felly'n ddiweddarach, mi wnes i ddechrau gweithio fel cynorthwyydd gofal iechyd ar y shifft gyda'r nos (6-10) gan fod gen i blant bach i edrych ar eu hôl yn ystod y dydd. Mi es i'n ôl i addysg oedolion, a oedd yn codi cywilydd ar fy mhlant i oherwydd yn eu hysgol gynradd nhw oedd hynny, a chefais y cymwysterau roedd arnaf eu hangen i ddechrau fy addysg nyrsio.
Sut beth oedd bywyd fel myfyriwr nyrsio?
Roeddwn i wrth fy modd! Roeddwn i wedi gweithio mor galed i gyrraedd yno, ond roedd yn anodd gyda dau o blant oedran ysgol gynradd. Nid oedd yn hawdd i mi gael lle ar y cwrs. Yn y cyfweliad, gofynnwyd i mi sut oeddwn i am allu gofalu am fy mhlant a dod yn nyrs, ac mi wnaed i mi aros tan y funud olaf un i gael gwybod a oeddwn i wedi cael lle ar y rhaglen. Ni wnaeth hyn fy mwrw oddi ar fy echel, dim ond fy ngwneud yn fwy penderfynol i gwblhau’r rhaglen i ddangos i bobl fy mod yn gallu ei wneud.
Sut beth oedd bywyd fel nyrs gymwys?
Mae dod yn gyfrifol am bobl eraill yn gallu bod yn frawychus, er fy mod yn fyfyriwr hÅ·n ac eisoes yn gyfrifol am fy nheulu fy hun. Roedd yn anodd mewn gwirionedd peidio â chario mlaen fel myfyriwr, a chymryd amser i atgyfnerthu'r tair blynedd o astudio, ond rydw i'n meddwl fod hyn yn adeg bwysig i mi adlewyrchu ar ddatblygiad fy ngyrfa. Cefais radd anrhydedd BSc 2:1 gyda Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, a oedd yn cyfuno cymhwyster arbenigol fel nyrs iechyd meddwl gymunedol. Roeddwn yn falch iawn o hyn, yn arbennig ar ôl gadael yr ysgol heb ddim cymhwyster, ac yn fam a oedd yn gweithio o hyd.
Ydych chi erioed wedi gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr?
Ydw. Mi fues i'n gweithio fel nyrs seiciatrig gymunedol mewn dau dîm iechyd meddwl cymunedol. Roedd yr oriau gweithio 9am-5pm yn ei gwneud yn bosib i mi dreulio amser gyda fy nheulu - roedd yn swydd a oedd yn dda iawn yn hynny o beth. Fe wnaethant gefnogi datblygiad fy ngyrfa, a'm hannog i gwblhau fy ngradd ychwanegol (top-up).
Ers faint ydych yn gweithio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É?
Rydw i wedi bod mewn addysg uwch am 18 mlynedd, ac yn y bedair ddiwethaf, mi wnes i ddychwelyd i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel darlithydd nyrsio iechyd meddwl. Yn ystod yr amser hwnnw, cefais fy MSc a chymhwyster Tiwtor Nyrs Gofrestredig, a chefais fy PhD. Pe bawn i heb fod yn gweithio mewn addysg uwch, fyddwn i ddim wedi gallu gwneud hyn, felly mae'n lle gwych i weithio os ydych chi am hybu'ch gwybodaeth. Mae'n lle da i fod hefyd os ydych chi am ymchwilio i ymarfer nyrsio ymchwil, a chwrdd ag ymchwilwyr nyrsio eraill o bedwar ban byd.
Pa sialensiau ydych chi wedi eu hwynebu yn eich gyrfa?
Mae cael cydbwysedd rhwng gwaith a bywyd yn her i bawb, ond pan fydd gennych chi rolau eraill fel bod yn wraig, yn fam, yn ferch, ac yn nain yn awr, mae'n waith jyglo cyson. Wrth i'm plant fynd yn hŷn ac yn fwy annibynnol, mi ddes i'n ofalwr i'm mam, a threuliais lawer o benwythnosau yn edrych ar ei hôl hi. Wedyn pan gyrhaeddodd fy wyrion a'm wyresau, roedd un ohonynt yn wael iawn ar ôl cael ei eni, ond roeddwn i'n dal i weithio'n llawn-amser ac yn edrych ar ôl fy mam. Dyma hefyd pryd yr oeddwn yn cwblhau fy ngradd PhD, ac yn anorfod, mi es innau'n wael iawn hefyd. Roedd hwn yn amser adfyfyriol pwysig arall yn fy mywyd, ac roedd raid i mi dechrau roi'r hyn roeddwn i wedi ei ddysgu am ymarfer nyrsio tosturiol ar waith gyda mi fy hun.
Beth yw eich barn ynglŷn â chydraddoldeb gender?
Rydw i'n credu bod cydraddoldeb yn bwysig iawn, ond mae’n cael ei gamddeall yn aml. Mae cydraddoldeb yn ymwneud mwy ag amrywiaeth. Mae gennym ni i gyd gryfderau a sgiliau gwahanol y dylem eu dathlu, ac nid yw hynny bob amser ynghylch bod yn gyfartal. Fel mam sy'n gweithio, mae'n bwysig cydnabod eich anghenion eich hun a cheisio cymorth pan fydd ei angen arnoch. Mae pobl yn aml yn cymryd eich bod yn ymdopi pan nad ydych chi. Mae gen i gerdd ar fy wal i'm hatgoffa – Not Waving but Drowning. Mae bod yn fwy tosturiol ynghylch cydraddoldeb gender yn rhywbeth y dylem ni fod yn canolbwyntio arno fwy, a chydnabod nad ydym ni i gyd yr un fath, waeth pa gender ydym ni. Hoffwn weld mwy o drafod amrywiaeth ymhob maes o'n bywydau. Mae'n fy ngwneud yn eithaf blin gweld merched yn ceisio bod fel dynion fel y gallent ddatblygu eu gyrfa.
Beth ydych chi'n ei wneud i ymlacio pan nad ydych chi'n gweithio?
Mae dod o hyd i amser i ymlacio ac adfyfyrio yn bwysig iawn, ac mi wnes i ond dysgu hynny pan es i'n wael mewn gwirionedd. Rwyf wedi dod yn fwy trugarog tuag ataf fy hun yn awr, ac nid wyf yn teimlo'n euog am wneud pethau rydw i'n eu mwynhau. Mae fy ‘amser i mi’ yn bwysig iawn, ac rydw i'n ceisio'i ffitio i mewn bob diwrnod. Gall hyn fod yn mynd am dro, gwneud ychydig o grefftau, neu arddio. Rydw i hefyd yn dal i fwynhau darllen ac ysgrifennu.
Beth fyddwch chi'n ei ddweud wrth fyfyrwyr nyrsio sy'n ei chael yn anodd?
Rydw i bob amser yn dweud dau air o anogaeth wrth fy myfyrwyr - cariwch ymlaen i ddarllen! Pan oeddwn i'n fam brysur ac yn gweithio, roeddwn i'n gweld mai'r unig le roeddwn i'n gallu darllen mewn heddwch oedd yn y bath! Gyda thechnoleg fodern yn awr, mi allwn ni ddarllen yn unrhyw le, er, mi roedd raid i mi gael gorchudd a oedd yn dal dŵr ar gyfer fy e-ddarllenydd rhag ofn fy mod i am barhau i ddarllen yn y bath.