Ysgol Haf Ymchwil Gwasanaethau Iechyd 2021
5-7 Gorffennaf, 2021
Mewn ymateb i bandemig Covid-19, bydd ysgol haf 2021 yn cael ei chynnal ar-lein.Â
Beth sydd gan yr Ysgol Haf i'w chynnig i chi?
Mae'r Ysgol Haf yn cynnig cyfle unigryw i'r cyfranwyr ddysgu wrth draed arbenigwyr o fri rhyngwladol mewn ystod o feysydd pwnc, gan gynnwys: gwerthuso ymyriadau cymhleth, dylunio treialon; cloriannu tystiolaeth ac adolygiadau; economeg iechyd; ethnograffeg gofal iechyd; dulliau'n seiliedig ar y celfyddydau; ac ymchwil gyfranogol
- Cyfle i gyflwyno'ch ymchwil
- Diwrnod datblygu gyrfa
- Sgyrsiau am Ymchwil Unigol gyda mentoriaid
- Siaradwr gwadd arbennig
- Oriau'n cyfrif at Ddatblygiad Proffesiynol Parhaus (DPP)
- Tystysgrif presenoldeb
Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â:
Dr Lorelei Jones Darlithydd mewn Gwyddorau Gofal Iechyd (Gwella Gofal Iechyd) Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É Lorelei.jones@bangor.ac.uk