Mwy o wybodaeth
Cwestiynau Cyffredin
Edrychwch ar ein hadran cwestiynau cyffredin isod.
Pryd mae'r ysgol haf yn digwydd eleni?
Cynhelir Ysgol Haf Ymchwil y Gwasanaethau Iechyd nesaf yn ystod haf 2020, dyddiad i'w gyhoeddi.
Ble mae Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É?
Dinas fach, prifysgol yw ÑÇÖÞÉ«°É gyda phoblogaeth o oddeutu 20,000 o bobl. Mae ar arfordir gogledd orllewin Cymru, ger y Fenai, sy'n gwahanu'r tir mawr oddi wrth Ynys Môn. Mae hefyd ar riniog Parc Cenedlaethol Eryri, sy'n cynnwys yr Wyddfa, y mynydd uchaf yng Nghymru.
Ar gyfer pwy mae'r ysgol haf?
Myfyrwyr ôl-radd ymchwil/ymchwilwyr ar ddechrau eu gyrfa sydd eisiau cael cefnogaeth arbenigwyr ymchwil a methodoleg gofal iechyd.
Myfyrwyr Meistr/PhD presennol neu ymarferwyr gofal iechyd sydd eisiau datblygu sgiliau ymchwil ychwanegol a chael golwg newydd ar ymchwil a methodoleg yn ymwneud â phynciau penodol.
Faint o leoedd sydd ar gael?
Gallwn dderbyn 40 o bobl ar y cwrs.
Sut mae archebu lle?
I archebu eich lle, ewch i'n .
Ble byddaf yn aros?
Bydd llety ar gael am 6 noson rhwng dydd Sul 7 a dydd Sadwrn 13 Gorffennaf. Byddwch yn aros ar y campws, yn un o neuaddau preswyl y brifysgol. Mae'r holl ystafelloedd yn ein neuaddau yn en-suite, gyda chegin a rennir ym mhob fflat. Mae lle i hyd at 8 o bobl ym mhob fflat.
Mae'r llety ar sail 'gwely a brecwast'; bydd rhaid i gynrychiolwyr drefnu eu cinio eu hunain a phrydau gyda'r nos.
Mae cofrestru'n cynnwys:
Llety (gwely a brecwast) mewn ystafelloedd en suite ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Ffioedd y Cwrs
Cinio’r gynhadledd
Fel arall, gallech ofyn am ystafell yng Nghanolfan Rheolaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Os ydych eisiau gwneud hyn, cysylltwch â ni a byddwn yn trefnu'r ystafell i chi.
Mae angen llythyr gwahoddiad/derbyn arnaf er mwyn cael fisa i ddod i'r ysgol haf.
Os yw is-gennad y DU yn ei gwneud yn ofynnol i chi gael fisa i ddod i'r ysgol haf, cysylltwch â ni trwy e-bostio Rebecca Henderson s, gan nodi pa wybodaeth sy'n ofynnol.
A fyddwch yn darparu tystysgrif?
Byddwn, bydd pawb a fydd yn bresennol hefyd yn cael tystysgrif presenoldeb swyddogol yr ysgol haf.