Amdanom ni
Gwybodaeth am yr Ysgol Gwyddorau Iechyd
Mae ymchwil yn yr Ysgol Gwyddorau Iechyd wedi ei drefnu o amgylch Sefydliad Ymchwil Gofal Iechyd a Meddygol ÑÇÖÞÉ«°É. Yn yr asesiad diweddaraf o ansawdd ymchwil ar draws y DU (REF 2014) cydnabuwyd bod 95% o'n hymchwil iechyd gyda'r orau yn y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol ac mae ansawdd ein cynnyrch ymchwil iechyd yn ein rhoi yn y 3 uchaf o 94 o brifysgolion ar draws y DU. Mae'r ysgol yn rhan fawr o'r Coleg Gwyddorau Iechyd ac Ymddygiad, coleg sy'n cynnwys ethos ymchwil ac addysgu cryf iawn a amlygir trwy gyrsiau rhagorol. Mae gallu ymchwil yr ysgol yn bwydo i'w chyrsiau gradd ac mae'r ysgol yn y safle cyntaf yn y Deyrnas Unedig am Radiograffeg ac yn y deg uchaf am Nyrsio yn ôl The Times Good University 2018.
YnglÅ·n â Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a Gogledd Cymru
Saif ÑÇÖÞÉ«°É yng nghanol tirwedd odidog gyda golygfeydd ysblennydd ac mae’n lle swynol sy’n gyforiog o hanes a diwylliant. Mae gan y brifysgol ei hun le pwysig yn hanes a hunaniaeth y ddinas: fe’i hadeiladwyd yn 1884 gydag arian gan chwarelwyr lleol a wirfoddolodd i roi peth o’u cyflog tuag at ddarparu gwell safon addysg uwch i bobl leol. I ddarganfod mwy am Fangor a'r ardal leol, ewch i'r dudalen 'Ble?'
O amgylch ÑÇÖÞÉ«°É ...
Ynys Môn...
Mae Ynys Môn yn un o'r cyrchfannau mwyaf poblogaidd yng ngogledd Cymru ac oherwydd ei bod yn ynys, ni fyddwch fyth yn bell iawn o'r môr. Mae ddigon o draethau i ddewis o'u plith felly pan fydd yr haul yn tywynnu, dewch â'ch ffrindiau at ei gilydd i dorheulo. Neu os ydych yn hoffi chwaraeon, ewch â'ch bwrdd syrffio gyda chi gan fod yr ynys yn lle poblogaidd i syrffwyr.
Mae gan Ynys Môn hefyd borthladd i'r Iwerddon ac mae llongau fferi rheolaidd yn mynd o Gaergybi i Ddulyn, ac mae'r daith yn cymryd tua dwy awr.
Parc Cenedlaethol Eryri ...
Mae mynyddoedd, llynnoedd ac afonydd Parc Cenedlaethol Eryri yn cynnig digon o gyfleoedd i chi fwynhau'r awyr agored.
Mae awyr y nos uwchben Parc Cenedlaethol Eryri wedi cael statws arbennig.
Dyma'r ail yng Nghymru a dim ond y 10fed gyrchfan yn y byd i gael statws gwarchodfa awyr dywyll ryngwladol.
Mae'n golygu bod ansawdd awyr y nos yn rhagorol ac mae ymdrechion gwirioneddol yn cael eu gwneud i leihau llygredd golau.
Gellir mwynhau cerdded, dringo, caiacio a chanŵio, ymysg llawer o weithgareddau eraill, yn y parc ac mae hefyd yn gartref i wifren wib hiraf Ewrop!
Mae llawer o glybiau chwaraeon y brifysgol yn trefnu teithiau rheolaidd i Eryri.
Darganfyddwch fwy am resymau myfyrwyr dros ddewis astudio a byw ym Mangor.