Project Gwirfoddoli Cyfeillgar i Ddraenogod ym Mangor
Mae’r project Cyfeillgar i Ddraenogod yn broject dan arweiniad myfyrwyr sy’n helpu i wella ein cymuned leol er mwyn galluogi draenogod i ffynnu. Sefydlwyd y project am y tro cyntaf yn 2020, mewn partneriaeth â champws cyfeillgar i ddraenogod (HFC), a oedd yn fenter ar y cyd i brifysgolion, ysgolion cynradd a cholegau gwblhau gweithgareddau ac ennill cydnabyddiaeth am wella’r dirwedd leol ac addysgu myfyrwyr a’r gymuned ar amddiffyn draenogod. Mae'r project bellach yn broject gwirfoddoli annibynnol o fewn y brifysgol sy'n annog ymgysylltiad myfyrwyr, a'r nod yw gweithio'n agos gyda grwpiau bywyd gwyllt lleol.
Mae’r project wedi cynnal llawer o ddigwyddiadau llwyddiannus dros y blynyddoedd diwethaf, gan gynnwys sesiynau codi sbwriel, codi arian ar gyfer Cymdeithas Gwarchod Draenogod Prydain (BHPS), arolygon draenogod, gweithdai adeiladu tai, a llawer mwy.
Nod y project yw ymgysylltu myfyrwyr â bywyd gwyllt lleol a'r awyr agored i ddysgu sut i amddiffyn y rhywogaeth annwyl hon, ond sy’n un o’r rhywogaethau sydd fwyaf mewn perygl, yn yr amgylchedd. Mae'r project hefyd yn lle i fyfyrwyr feithrin cyfeillgarwch ac ennill profiad ymarferol a sgiliau hanfodol ar gyfer cyflogaeth yn y dyfodol.
Mae’r cyfryngau cymdeithasol hefyd wedi bod yn ffynhonnell gref o gefnogaeth gan y gymuned ehangach, staff a myfyrwyr, ac mae’n ffordd effeithiol o gyfathrebu’r gwaith sy’n cael ei wneud ac egluro sut y gall unrhyw un gymryd rhan. Cymerwch gip ar y tudalennau cyfryngau cymdeithasol isod i ddysgu mwy.
Cymerwch ran
Mae’r tîm campws cyfeillgar i ddraenogod wedi ysgrifennu blogiau sy’n egluro diben y project, y digwyddiadau a fydd yn cael eu cynnal, a sut y gallwch chi gymryd rhan.
- Darllenwch y blogiau yma: www.bangor.ac.uk/environment/hedgehog-friendly-campus-blog.php.en
- Instagram –
- Facebook –
- Ebost - hedgehogproject@undebbangor.com