ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Cysylltu

Mae tîm yr Ysgol Ddoethurol ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yma i ddarparu cefnogaeth i ymgeiswyr Ymchwil Ôl-raddedig yn ystod eu cyfnod yma.

Cyfarfod y Tîm

Professor Paul Spencer in a lab at ÑÇÖÞÉ«°É

Ìý Proffil Yr Athro Paul Spencer

ÌýDirprwy Is-Ganghellor dros Ymchwil ac Arloesi a Phennaeth Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg

ÌýÌýp.spencer@bangor.ac.uk

ÌýÌý+44 (0)1248 382738

Ìý Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É

Mae'r Athro Paul Spencer yn Ddirprwy Is-Ganghellor (PVC) ar gyfer Ymchwil ac Arloesi ac yn Bennaeth Coleg Gwyddorau'r Amgylchedd a Pheirianneg.

Fel Dirprwy Is-Ganghellor, mae Paul yn gyfrifol am arwain a gweithredu Strategaeth Ymchwil ac Effaith a hyfforddiant doethurol y Brifysgol.

Ef hefyd sydd â throsolwg o strategaeth fasnacheiddio ac ymgysylltiad busnes y Brifysgol, gan gynnwys M-Sparc, parc gwyddoniaeth Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar Ynys Môn. Mae’n darparu arweinyddiaeth strategol ar bartneriaethau allanol sy’n cael effaith ar ddatblygiad economaidd ac agenda sgiliau ehangach Gogledd Cymru, ac ef yw’r arweinydd academaidd ar gyfer cyflogadwyedd myfyrwyr.

Derbyniodd Paul B.Sc. gradd mewn Ffiseg Gymhwysol a Ph.D. gradd mewn Peirianneg Electronig o Brifysgol Caerfaddon yn 1990 a 1994. Bu'n gynorthwyydd ymchwil ar nifer o brosiectau ymchwil a ariannwyd gan EPSRC ym Mhrifysgol Caerfaddon cyn symud i swydd darlithydd ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 1996. Daeth yn uwch ddarlithydd yn 2003 a Derbyniodd Gadair Bersonol yn 2006. Yn 2007 fe’i penodwyd yn Bennaeth yr Ysgol Peirianneg Electronig, swydd a ddaliodd am saith mlynedd. Yn 2009 fe’i penodwyd yn Bennaeth Coleg y Gwyddorau Ffisegol a Chymhwysol ac yn 2017 fe’i penodwyd yn Ddeon Coleg y Gwyddorau Amgylcheddol a Pheirianneg.

Prif ddiddordebau ymchwil Paul yw deinameg laser lled-ddargludyddion, effeithiau adborth optegol, lluosogi curiadau, a phriodweddau tonnau optegol dyfeisiau optoelectroneg. Mae wedi bod yn awdur ar fwy na 100 o bapurau cyfnodolion a 140 o bapurau cynhadledd ac mae’n adolygwr rheolaidd o gyfnodolion archifol. Yn 2000 enillodd wobr peirianneg orau Gwyddoniaeth, Peirianneg a Thechnoleg (SET) ac mae hefyd yn Gymrawd y Sefydliad Ffiseg.

Ìý Professor Sue Niebrzydowskis profile

Prof Sue Niebrzydowski at ÑÇÖÞÉ«°É Library

Deon Ymchwil Ôl-raddedig;Ìý Professor in Medieval Literature / Director of Research Postgraduate Studies

ÌýÌýs.niebrzydowski@bangor.ac.uk

ÌýÌý01248 382111

Ìý Prifygol ÑÇÖÞÉ«°É: Adeilad y Celfyddydau

Athro Llenyddiaeth Ganoloesol yn yr Ysgol Iaith, Diwylliant a’r Celfyddydau yw Sue ac yn un o Gyfarwyddwyr Canolfan Stephen Colclough ar Hanes a Diwylliant y Llyfr. Arbenigedd Sue yw ymgysylltiad merched â diwylliant ac arferion llenyddol yn y canol oesoedd, ac mae wedi cyhoeddi’n eang yn y maes. Mae Sue wedi cael llwyddiant wrth oruchwylio ymgeiswyr doethurol ar bynciau mor amrywiol ag agweddau erotig gwaith Chaucer, defnydd merched o iaith masnach yn y canol oesoedd, nofelau Octavia Butler, dreigiau, a dathliadau litwrgaidd Gŵyl yr Ymweliad.

Cyswllt Dros Dro:

Dr Saskia Pagella

Pennaeth y Gwasanaeth Cefnogi Ymchwil ac Effaith Integredig

ÌýÌýs.l.pagella@bangor.ac.uk

ÌýÌý(01248)38382600

Ìý

Doctoral School Administrator Aashu Jayadeep on the Terrace, outside Main Arts Building

ÌýGweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol

ÌýÌý a.jayadeep@bangor.ac.uk

ÌýÌý +44(0)1248 382357

Ìý Llawr Cyntaf, Prif Adeilad y Celfyddydau,Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ÑÇÖÞÉ«°É

Daeth Aashu i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fel myfyriwr yn y lle cyntaf i wneud ei hail gwrs Meistr mewn Gweinyddu Busnes (MBA – Rheoli Gwybodaeth) a graddiodd gyda rhagoriaeth yn 2013. Cafodd y cyfle i ymuno â’r Swyddfa Ymchwil a Menter fel rhan o’r project KESS yn 2014 ac ers hynny mae wedi cefnogi rheoli Skills Forge i brojectau Meistr Ymchwil a PhD KESS.

Dechreuodd fel gweinyddwr yr Ysgol Ddoethurol ym mis Rhagfyr 2015 a gyda’i chyfrifoldebau yn y swydd honno caiff y cyfle i weithio’n agos â rheolwr yr Ysgol Ddoethurol yn cefnogi gweinyddu a hyfforddiant cyffredinol. Mae ei dyletswyddau’n cynnwys cydlynu’r rhaglen hyfforddiant Doethurol a hyrwyddo’r Ysgol Ddoethurol ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a thu hwnt. Mae’n gweithio gyda’r gymuned Ddoethurol yn y brifysgol (myfyrwyr ôl-radd ymchwil, goruchwylwyr academaidd, Cyfarwyddwyr Astudiaethau Graddedig) ac yn rheoli gwe-dudalennau’r Ysgol Ddoethurol a’i phresenoldeb ar gyfryngau cymdeithasol.

Mae ei chefndir mewn TG a rheolaeth Addysg Uwch. Ar ôl cwblhau ei gradd Meistr gyntaf mewn Rhaglenni Cyfrifiadurol yn y College of Engineering Trivandrum (CET), yr India, bu’n gweithio fel hyfforddwr cyfrifiaduron mewn sefydliadau yn yr India ac Oman. Wedyn bu Aashu yn gweithio i’r Middle East College (MEC), Oman, sefydliad Addysg Uwch o fri sy’n gysylltiedig â Phrifysgol Coventry (DU) fel darlithydd Cyfrifiadureg. Yn ystod ei chyfnod yn y sefydliad, bu’n gweithio hefyd fel Uwch Swyddog Sicrhau Ansawdd a Swyddog Polisi, yn cydlynu a rheoli nifer o wahanol brojectau oedd yn gysylltiedig ag archwilio a sicrhau ansawdd mewn addysg uwch. Mae’r holl brofiadau hyn wedi ei helpu i gael gwybodaeth werthfawr am weinyddu a rheoli ym maes addysg uwch.

Cysylltiadau eraill

Enw E-bost School
Lisa Boas Ìýmuua95@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Rebecca Day elu743@bangor.ac.uk Arts, Culture and Language
Alicia Edwards lcd19jhb@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Edmund Groves mlg18cbc@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Rachel Healand-Sloan rsua4e@bangor.ac.uk History, Law and Social Sciences
Ìý Ìý ÑÇÖÞÉ«°É Business School
Ìý Ìý Education

Coleg Gwyddoniaeth a Pheirianneg

Amelia Harvey Mlh21nfr@bangor.ac.uk Environmental and Natural Sciences
Joshua Horn jdh21vqz@bangor.ac.uk Environmental and Natural Sciences
Perpetua Ifiemor prf22tfd@bangor.ac.uk Environmental and Natural Sciences
Pooja Padmakumar jnh19vyr@bangor.ac.uk Environmental and Natural Sciences
Ìý Ìý Ocean Sciences
Sohail Mustafa Saeed shs22lpk@bangor.ac.uk Computer Science and Electronic Engineering
Sunday Nwokolo snn23kfl@bangor.ac.uk Computer Science and Electronic Engineering

Coleg Meddygaeth ac Iechyd

Freya Losvik frl22kxk@bangor.ac.uk Psychology, and Sport Science
Deyan Mitev dym19lhs@bangor.ac.uk Psychology, and Sport Science
Laurent Gorce seu834@bangor.ac.uk Psychology, and Sport Science
Liam Hardman lmh23jqg@bangor.ac.uk Psychology, and Sport Science
Kim Barnett kmb22vyx@bangor.ac.uk Health Sciences
Vi Thanandran vtt18lct@bangor.ac.uk North Wales Medical School
Caryl Jones crj19fcg@bangor.ac.uk North Wales Medical School

Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ÑÇÖÞÉ«°É, Gwynedd, LL57 2DG

Ble rydym ni

Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, ÑÇÖÞÉ«°É, Gwynedd, LL57 2DG