Mae'r system leoli fyd-eang (GPS) a systemau llywio â lloeren byd-eang eraill (GNSS) wedi eu hymgorffori yn isadeiledd hollbwysig y byd, yn cynnwys awyrennau, llongau, telathrebu a ffonau clyfar. Er gwaethaf dibyniaeth economaidd, cymdeithasol a llywodraethol ar lywio â lloeren ac amseru manwl gywir, mae GNSS yn agored i fethiant a bygythiadau i ddiogelwch. Mae'r Athro David Last, ac aelodau eraill o Grŵp Llywio Radio Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, wedi gweithio gyda llywodraethau'r Unol Daleithiau, yr Undeb Ewropeaidd, y Deyrnas Unedig a De Corea i ddatblygu a gweithredu ‘Enhanced Loran (eLoran)’ i fod wrth gefn pe bai GNSS yn methu.
Mae Last a'i dîm wedi bod yn rhan sylfaenol o ddatblygiad rhyngwladol Enhanced Loran (eLoran), a hwy oedd y cyntaf i weithredu prototeip gweithredol ar raddfa fawr yn y Deyrnas Unedig yn 2015. Mae’r system eLoran yn gwasanaethu uwch lywio morwrol a darparu amseru manwl gywir i ddefnyddwyr telathrebu ledled y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae llywodraethau'r Deyrnas Unedig, yr Unol Daleithiau a De Corea wedi buddsoddi'n uniongyrchol yn natblygiad technoleg a ddatblygwyd ar y cyd gan Fangor, sydd wedi bod yn rhwyd diogelwch economaidd hanfodol i forwyr a defnyddwyr traws-sector mewn perthynas â masnach ac amddiffyn.
Ymchwilwyr
- Yr Athro David Last
- Dr Paul Williams