Ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad ar gael ar gyfer MSc Amaethgoedwigaeth a Choedwigaeth Drofannol
Mae Prifysgol 亚洲色吧 wedi sicrhau 10 o ysgoloriaethau 鈥痠'w dyfarnu i ysgolheigion rhyngwladol eithriadol i astudio naill ai:鈥MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu鈥檙 Cyflenwad Bwyd鈥痭别耻鈥MSc Coedwigaeth Drofannol鈥痶rwy ddysgu o bell gan ddechrau ym mis Medi 2025.鈥
Sicrhawyd yr ysgoloriaethau llawn hyn gan Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol鈥疨rifysgol 亚洲色吧 yn dilyn proses hynod gystadleuol yn erbyn prifysgolion gorau eraill y Deyrnas Unedig.
Caiff yr ysgoloriaethau hyn ond eu dyfarnu i ysgolheigion o wledydd datblygol y Gymanwlad, sef: Bangladesh, Belize, Botswana, Cameroon, Dominica, Eswatini, Fiji, Gabon, Ghana, Grenada, Guyana, India, Jamaica, Kenya, Kiribati, Lesotho, Malawi, Malaysia, Maldives, Mauritius, Montserrat, Mozambique, Namibia, Nauru, Nigeria, Pacistan, Papua Guinea Newydd, Rwanda, St Helena, St Lucia, St Vincent a'r Grenadines, Samoa, Sierra Leone, Ynysoedd Solomon, De Affrica, Sri Lanka, Tanzania, Y Gambia, Togo, Tonga, Tuvalu, Uganda, Vanuatu, Zambia.
Mae鈥檙 ysgoloriaethau鈥檔 cynnwys ffioedd dysgu a bwrsariaeth hael i alluogi ysgolheigion i fynd ar daith astudio orfodol i wlad drofannol am bythefnos. Mae grant astudio bychan hefyd ar gael i helpu ysgolheigion gyda chostau astudio sy'n gysylltiedig 芒 dysgu o bell (e.e. defnyddio'r rhyngrwyd).
Dywedodd Dr Bid Webb, Cyfarwyddwr y Rhaglen MSc Coedwigaeth Drofannol:
鈥淩ydym yn falch bod ein rhaglenni dysgu o bell yn parhau i gael cydnabyddiaeth gan Gomisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad. Mae'r ysgoloriaethau hyn yn rhoi cyfle i unigolion talentog o bob rhan o'r Gymanwlad ddilyn MSc wrth aros yn eu gwledydd cartref. Mae鈥檙 rhan fwyaf o鈥檔 hysgolheigion eisoes yn weithwyr proffesiynol gweithredol mewn coedwigaeth, amaethgoedwigaeth, neu reoli adnoddau naturiol, sy鈥檔 golygu y gallant gymhwyso eu dysgu ar unwaith yng nghyd-destun y byd go iawn.鈥
鈥淩ydym wedi ymrwymo i feithrin amgylchedd dysgu deinamig a chynhwysol, gyda chefnogaeth t卯m academaidd ymroddedig sydd ag ystod eang o arbenigedd. Gyda phwyslais cynyddol ar offer e-ddysgu arloesol, rydym yn ymdrechu i gyfoethogi ymgysylltiad myfyrwyr, meithrin ymdeimlad cryf o gymuned, a chynnal safonau academaidd uchel."
Mae un o'n graddedigion (Tonthoza Uganja o Malawi) ar hyn o bryd yn astudio am PhD yn yr Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol. Dywedodd 鈥淩hoddodd y rhaglen MSc Coedwigaeth Drofannol ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yr hyder i mi gychwyn ar fy musnes estyniad adfer tir fy hun, sef Sustainable Farming Solutions (SFS). Fe wnaeth y rhaglen fy helpu i ddeall fy r么l wrth gefnogi perchnogion coedwigoedd a ffermwyr ar raddfa fach.鈥
Mae gennym gr诺p amrywiol o fyfyrwyr sy鈥檔 dysgu o bell o sefydliadau ymchwil, cyrff rheoli coedwigoedd cyhoeddus a phreifat, cyrff anllywodraethol amgylcheddol a sefydliadau cysylltiedig eraill o dros 20 o wahanol wledydd. 鈥疪ydym yn cynnal Taith Astudio Coedwigaeth Drofannol er mwyn sicrhau bod yr holl ysgolheigion a'r t卯m addysgu鈥檔 cwrdd yn y cnawd i gael cyfle i ddod i adnabod ei gilydd a darganfod a dysgu gyda'i gilydd mewn amgylchedd (agro)goedwigaeth drofannol. Dyma oedd鈥痷chafbwynt y rhaglen i lawer.
惭补别'谤鈥Ysgol Gwyddorau Amgylcheddol a Naturiol wedi bod yn cynnig cyrsiau dysgu o bell rhan amser sy'n gysylltiedig 芒 choedwigaeth ers 2002, gyda'r garfan gyntaf o ysgolheigion Comisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad yn dechrau yn 2011. Ers hynny, mae ein hysgolheigion a鈥檔鈥graddedigion鈥痺edi bod yn llysgenhadon gwych i Brifysgol 亚洲色吧 ac i Gomisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad. Mae ysgoloriaethau Comisiwn Ysgoloriaethau鈥檙 Gymanwlad wedi rhoi cyfle prin i'n myfyrwyr a'n graddedigion sy鈥檔 dysgu o bell astudio am radd 么l-radd ryngwladol yn un o sefydliadau uchaf ei barch y Deyrnas Unedig yn y maes.