Y prif gronfeydd data
Cgronfa ddata ariannol fyd-eang yw Bloomberg Professional sy'n darparu data cyfredol a hanesyddol ynglŷn ag ecwitïau unigol, mynegeion y farchnad stoc, gwarantau incwm sefydlog, arian cyfred, nwyddau, a dyfodol ledled y marchnadoedd rhyngwladol a domestig. Mae'n cynnig gwybodaeth fanwl am fwy na 5 miliwn o fondiau, ecwitïau, nwyddau, arian cyfred a chronfeydd ariannol. Gall defnyddwyr gyrchu a lawrlwytho data yn hawdd gan ddefnyddio ategyn Excel neu API. Mae cyfyngiadau dyddiol a misol ar nifer yr arsylwadau y cewch eu llwytho i lawr.
Cronfa ddata llywodraethu corfforaethol ryngwladol gynhwysfawr yw BoardEx sy'n cynnig cyfleusterau chwilio a dadansoddi ar-lein sy'n canolbwyntio ar ddeinameg byrddau cwmnïau. Mae'n darparu gwybodaeth fywgraffyddol gyfredol a hanesyddol fanwl am aelodau bwrdd ac uwch swyddogion gweithredol, gan gwmpasu dros 15,000 o gwmnïau a ddyfynnwyd yn fyd-eang. Mae'n blatfform cynhwysfawr sydd hefyd yn rhoi cipolwg ar bwyllgorau bwrdd, iawndal, manylion cwmni, nodweddion rhwydweithio ynglŷn â chwmnïau, cyfarwyddwyr a chyhoeddiadau am swyddi.
Mae S&P Capital IQ Pro (S&P Global Market Intelligence a SNL Financial gynt) yn cynnig data am fanciau a chwmnïau cynhwysfawr sy'n rhychwantu America, Asia-Môr Tawel, Ewrop, y Dwyrain Canol, ac Affrica. O 2023 ymlaen, ehangodd S&P Capital IQ Pro ei ystod i gynnwys hanfodion cwmnïau, statws credyd, dewisiadau dyledion, ac ymchwil marchnad. Mae'n blatfform sy’n cynnig gwybodaeth eang i gwmnïau di-ri’ megis S&P Capital IQ yn ogystal â mentrau bach a chanolig (BBaCh). Gyda S&P Capital IQ Pro, gall defnyddwyr gyrchu data a newyddion ariannol cyfredol a hanesyddol ynglŷn â mwy na 50,000 o fanciau’n fyd-eang. Gallwch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
Platfform cynhwysfawr yw S&P Capital IQ sy'n darparu gwybodaeth ddofn am gwmnïau byd-eang, statws credyd, ac ymchwil marchnad gydag offer cadarn i asesu risg. Mae’ndarparu gwybodaeth gynhwysfawr am gwmnïau, marchnadoedd, trafodion, a gweithwyr proffesiynol ledled y byd. Yn benodol, mae Capital IQ yn darparu: Data am gwmnïau byd-eang, gan gynnwys cyllid sylfaenol, incwm sefydlog, amcangyfrifon a manylion perchnogaeth. Data ansoddol sy'n amlygu’r datblygiadau allweddol, trafodion, proffiliau, cymdeithasau unigol, ecwiti preifat; a sbectrwm cynhwysfawr o ddata macro-economaidd a nwyddau. Mae'r synergedd hwnnw o wybodaeth yn ei gwneud yn arf anhepgor i weithwyr proffesiynol y diwydiant. Gallwch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
Statws credyd cyfredol a hanesyddol gan gynnwys cyllid cyhoeddus o 2007 a chyhoeddwyr byd-eang a chyllid strwythuredig o 1922.
Platfform cynhwysfawr, sy'n rhan o Thomson Reuters, yw Refinitiv Workspace, ar gyfer gwybodaeth ariannol ac economaidd. Mae'n darparu dyfynbrisiau o’r farchnad, amcangyfrifon enillion, hanfodion ariannol, datganiadau i'r wasg, data trafodion, ffeilio corfforaethol, proffiliau perchnogaeth, ac ymchwil manwl. Mae Eikon/Datastream yn cynnig data cyfoethog am gwmnïau rhyngwladol, yn ôl i'r 1960au. Mae nodweddion a data gan Thomson Reuters, a gyrchwyd yn flaenorol trwy Thomson One - fel cydsoddi a chaffael, data am fenthyciadau, manylion perchnogaeth, ac ecwiti preifat - i'w gweld yn Refinitiv Workspace. Cewch lawrlwytho'r data hwnnw gydag ategyn Excel.
Mae Orbis Bank Focus, a ddarperir gan Bureau van Dijk, yn gronfa ddata gynhwysfawr o fanciau byd-eang. Cesglir ei ddata o gymysgedd o adroddiadau blynyddol, darparwyr gwybodaeth amrywiol, a ffynonellau rheoleiddio awdurdodol. Ar hyn o bryd, mae gan Orbis Bank Focus ddata manwl ynglŷn â mwy na 38,000 o fanciau - sy'n cwmpasu tua 30,000 o UDA a dros 10,000 o'r tu allan i UDA. I’r banciau a restrir, darperir cofnod hanesyddol sy'n rhychwantu 5 mlynedd, ac mae gan banciau sydd heb eu rhestru ddata sy'n cwmpasu'r 3 blynedd diwethaf.
Mae Orbis Europe, is-set o 'Orbis' byd-eang Bureau van Dijk, yn blatfform cynhwysfawr pwrpasol i ddadansoddi a chymharu cwmnïau a ddyfynnwyd a chwmnïau preifat ledled Ewrop. Mae’n cwmpasu data o 56 o wledydd Ewrop. Mae'n darparu gwybodaeth fanwl am fanciau cyhoeddus a phreifat, yswiriant, a chwmnïau diwydiannol. Caiff dros 105 miliwn o gwmnïau eu catalogio a’u diweddaru’n wythnosol. Mae’n cynnig strwythurau perchnogaeth gorfforaethol eang a nodweddion tebyg. Caiff y defnyddwyr ymchwilio, dadansoddi a llunio rhestrau o gwmnïau'n strategol trwy amrywiaeth o feini prawf chwilio, gan gynnwys eitemau llinell o ffeiliau ariannol.
Cronfeydd Data Ychwanegol
Manylion testun llawn am bron i 7,600 o gyhoeddiadau busnes, gan gynnwys darllediadau testun llawn o dros 1,100 o gyfnodolion ysgolheigaidd a adolygir gan gymheiriaid. Gwybodaeth yn dyddio yn ôl i 1922 mewn rhai achosion.
Mae Emerald Insight yn cynnig crynodebau ac erthyglau testun llawn o gyfnodolion academaidd sy'n cwmpasu meysydd pwnc marchnata, rheolaeth, adnoddau dynol, cerddoriaeth fasnachol, ansawdd, economeg, rheoli gwybodaeth, gweithrediadau, peirianneg, cynhyrchu ac eiddo, addysg, iechyd a gofal cymdeithasol.
Newyddion, dadansoddiadau a sylwadau o rifyn ar-lein prif gyhoeddiad busnes y byd.
Offer rhyngweithiol a dadansoddiad manwl o hanes, perfformiad a chyfleoedd miloedd o gwmnïau a diwydiannau. Daw myfyrwyr o hyd i wybodaeth y gallant ymddiried ynddi o’r ffynonellau gorau gan gynnwys ymchwil i'r farchnad, astudiaethau achos, dadansoddiadau SWOT, adroddiadau buddsoddiadau ac arian, yn ogystal ag erthyglau o brif gylchgronau a chyfnodolion y diwydiant.
Cronfa ddata o ymchwil marchnad-diwydiant cynhwysfawr sy'n cwmpasu pob diwydiant yn UDA gyda chod NAICS 5 digid. Mae IBISWorld hefyd yn cynnig ymchwil fanwl debyg ynglŷn â diwydiannau dethol yn Tsieina a ledled y byd.
Ymchwil i’r farchnad yn y Deyrnas Unedig sy’n cynnig dadansoddiad o ystod eang o gynhyrchion (bwyd, diod, cynnyrch i’r cartref, iechyd, electroneg), tueddiadau hamdden, gwasanaethau ariannol a manwerthu.
Mae’r gronfa ddata hon yn cynnwys cyfraith achos testun llawn a deddfwriaeth ar gyfer awdurdodaethau’r Deyrnas Unedig, UDA (Ffederal a Gwladwriaethol), UE ac awdurdodaethau eraill. Mae hefyd yn rhoi mynediad i nifer fawr o gyfnodolion cyfreithiol testun llawn, a phapurau newydd lleol a chenedlaethol y Deyrnas Unedig. Gan gynnwys Halsburys Laws of England.
Mae Trucost, fel rhan o S&P Global, yn cynnig pecyn dadansoddi amgylcheddol cynhwysfawr, sy'n hanfodol i fusnesau a buddsoddwyr wrth asesu effaith amgylcheddol a chynaliadwyedd dros 15,000 o gwmnïau rhestredig a bron i 2 filiwn o gwmnïau preifat. Mae'r gronfa ddata hon yn darparu mesuriad manwl o effeithiau amgylcheddol ar draws gwahanol ddimensiynau, yn gwerthuso'r costau ariannol sy'n gysylltiedig â'r effeithiau hyn, ac yn cynorthwyo i nodi a rheoli risgiau amgylcheddol a hinsawdd. Yn ogystal, mae'n hwyluso dadansoddiad cymheiriaid a phortffolio o safbwynt amgylcheddol a hinsawdd, gan alluogi defnyddwyr i gymharu â dadansoddi cwmnïau o ran eu perfformiad amgylcheddol. Mae'r offeryn hwn yn hanfodol ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus, hyrwyddo atebolrwydd amgylcheddol a lliniaru risg yn y byd corfforaethol. Ar gael i staff, ymchwilwyr a myfyrwyr PhD.
Mae'r gronfa ddata’n cynhyrchu adroddiadau manwl a diduedd yn barhaus a gaiff eu cyhoeddi fel papurau briffio ar wefan y Senedd.
Gwasanaethau Llyfrgell ac Archif
Mae gan y Brifysgol ystod eang o adnoddau dysgu nodedig. Mae gennym gasgliad mawr o lyfrau a chylchgronau, ac mae llawer o'r cylchgronau ar gael ar gyfrifiadur mewn fformat testun llawn.
Hefyd, mae gennym gronfeydd data, fideos a CDs; defnydd micro ffurf a chyfleusterau argraffu; casgliad arbennig o lawysgrifau a chatalogau ar-lein i gael mynediad at e-lyfrau, cylchgronau electronig, hen bapurau arholiad, canllawiau i bynciau ac amryw o adnoddau dysgu eraill.
Cyfleusterau TG a Chyfrifiadureg
Mae’r Brifysgol yn darparu naw o ystafelloedd cyfrifiaduron 24 awr a thros 1000 o gyfrifiaduron i fyfyrwyr eu defnyddio. Os ydych chi’n dymuno defnyddio’ch gliniadur (laptop) eich hun, mae mannau diwifr ar gael ymhob un o’r llyfrgelloedd yn ogystal â llawer o’r adeiladau dysgu.
Mae gan bob ystafell wely yn neuaddau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fynediad rhyngrwyd drwy rwydwaith y Brifysgol. Os oes arnoch angen unrhyw gyngor neu gymorth, bydd y ddesg gymorth TG yn gallu eich helpu ar y ffôn, drwy e-bost neu wyneb yn wyneb.
Mae amrywiaeth eang o feddalwedd arbenigol ar gael ymhob un o ystafelloedd cyfrifiaduron y Brifysgol, gyda llawer o’r rhain ar gael o’ch cyfrifiadur eich hun yn unrhyw le sydd â chysylltiad â’r rhyngrwyd.
Blackboard
Mae cefnogaeth ddysgu ar gael 24 awr y dydd, 7 niwrnod yr wythnos drwy Blackboard, adnodd dysgu ar-lein Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a ddatblygwyd yn helaeth.
Rhithamgylchedd dysgu yw Blackboard, ac mae'n declyn pwerus sy'n cefnogi ac yn gwella profiad dysgu myfyrwyr drwy ddarparu mynediad at nodiadau cyrsiau, erthyglau, deunyddiau darllen, taenlenni, cronfeydd data, sleidiau darlithoedd PowerPoint, byrddau trafod, tudalennau cyhoeddiadau a llawer mwy.
Mae gan bob cynllun gradd a modiwl unigryw ei microsafle Blackboard ei hun. Trefnir i'r rhan fwyaf o'r holl ddeunydd hanfodol fod ar gael i fyfyrwyr drwy'r safle hwn, yn ogystal â deunyddiau ychwanegol. Gellir cael trafodaethau bywiog hefyd ar bynciau amserol sy'n berthnasol i fodiwlau penodol yn rhith-ystafell seminar Blackboard.
Bydd pob arweinydd modiwl yn gwneud defnydd helaeth o'r cyfleuster hwn i wella a chefnogi dysgu a datblygiad pob myfyriwr.
Argraffu a Llungopïo
Mae argraffu laser du a gwyn ar gael ymhob ystafell gyfrifiaduron, yn cynnwys argraffu lliw mewn meintiau o A4 arferol i faint poster A0.
Mae llungopiwyr hunanwasanaeth wedi'u lleoli drwy'r Brifysgol.
Mae'r Uned Argraffu a Rhwymo'n cynnig argraffu sypiau mawr a rhwymo projectau / thesis, yn ogystal ag amrywiaeth eang o wasanaethau eraill.
Myfyrwyr ag Anableddau
Gall y Brifysgol gynorthwyo gyda cheisiadau ar gyfer y Lwfans Myfyrwyr Anabl, a fydd yn helpu myfyrwyr gydag anableddau i gael mynediad at y dechnoleg gynorthwyol a'r gefnogaeth sydd eu hangen i wneud y gorau o'u hastudiaethau.
Darperir dwy ystafell arbenigol Technoleg Gynorthwyol at ddefnydd llwyr myfyrwyr anabl neu'r rhai ag anghenion ychwanegol. Mae'r ystafelloedd yn cynnwys cyfrifiaduron sy'n cynnwys amrywiaeth o feddalwedd cynorthwyol, boglynnwr (embosser) Braille, sganiwr Rainbow, chwyddhadur CCTV a dodrefn y mae modd newid eu huchder. Yn ogystal, mae argraffydd Braille ar gael yn llyfrgell Prif Adeilad y Celfyddydau - gall hwn ddarparu cynnyrch Braille yn y Saesneg a'r Gymraeg o unrhyw destun electronig.
Edrychwch ar wefan y Gwasanaethau Anabledd am fwy o wybodaeth am ddarpariaeth y Brifysgol.