MSc Niwroddelweddu
Mae ein cwrs yn un o ddim ond ychydig o raglenni hyfforddedig sy'n ymdrin 芒 niwroddelweddu modern yn y DU. Mae'n eithriadol o ran ei ffocws ar agweddau ymarferol a biofeddygol ar Niwroddelweddu.
- Mae 80% o'n myfyrwyr naill ai mewn addysg uwch bellach, neu mewn cyflogaeth lawn yn y flwyddyn gyntaf ar 么l cwblhau gradd.
- Mae'r ffigur hwn yn codi i 100% o fewn 3 blynedd i'r radd.
- Yn 2016 cafodd y cwrs hwn sg么r boddhad myfyrwyr 100%.
Bwriad y rhaglen yw rhoi'r wybodaeth gefndir a'r sgiliau technegol i fyfyrwyr er mwyn eu galluogi i gynllunio, dadansoddi a gwerthuso data ym maes delweddu.听 Mae'r cwrs yn canolbwyntio ar dechnegau yn seiliedig ar ddelweddu cyseiniant magnetig (MRI), gan gynnwys MRI swyddogaethol, delweddu anatomegol, delweddu tensor trylediad, a sbectrosgopeg a dadansoddi data datblygedig (e.e. dadansoddiad patrwm lleisiol amlamrywedd). Trafodir technegau delweddu gan gyfeirio at gymwysiadau perthnasol. Mae'r rhaglen yn rhoi pwyslais cryf ar sgiliau ymarferol. Mewn labordy cyfrifiadurol pwrpasol, bydd y myfyrwyr yn dysgu ac yn ymarfer technegau dadansoddi a delweddu O dan oruchwyliaeth staff academaidd rhagorol, bydd myfyrwyr yn cynllunio eu hastudiaethau delweddu, i'w cynnal gan ddefnyddio'r sganiwr MRI 3T mewnol. Bydd dosbarthiadau ychwanegol yn rhoi cwmpas eang o sgiliau proffesiynol i fyfyrwyr.
鈥淢ae'r ffaith bod y cwrs yn rhoi profiad ymarferol i chi yn y sganiwr yn ystod eich project mor werthfawr ac yn rhoi ychydig o fantais i chi wrth wneud cais am PhDs ac ati yn eich cam nesaf yn eich gyrfa. Rydym wedi dysgu'r holl gefndir am sut mae delweddu yn gweithio a chawsom fodiwl ymarferol i ddysgu sut i gynllunio arbrofion fMRI gan ddefnyddio MatLab a meddalwedd arall ar gyfer dadansoddi data fMRI. Yn ychwanegol at hyn mae gennym y rhyddid i ddewis modiwlau hyfforddedig y mae gennym ddiddordeb ynddynt heblaw am y ffocws delweddu, wedi'i seilio'n fwy ar niwroseicoleg. Mae'n gwrs gwych, er ei fod yn heriol mae鈥檔 eich paratoi ar gyfer gyrfa yn y dyfodol gan ddefnyddio technegau delweddu'r ymennydd!鈥- Laura Burgess, myfyriwr Niwroddelweddu MSc.
PhD
PhD yw'r cymhwyster academaidd uchaf sydd ar gael. Nod gradd PhD yw darparu sylfaen gref mewn meysydd arbenigol iawn trwy ymchwil. Ei fwriad yw galluogi myfyrwyr i fod yn ymchwilwyr ym maes seicoleg, gan gyfrannu at wybodaeth academaidd a datblygu gwaith o ansawdd y gellir ei gyhoeddi'n rhyngwladol.
Mae Uned Delweddu 亚洲色吧 yn cefnogi myfyrwyr PhD seicoleg gyda hyfforddiant a chefnogaeth dechnegol, gan eu galluogi i fod yn weithredwyr sganwyr annibynnol. Trafodir pob cynllun project delweddu yng nghyfarfodydd Uned Delweddu 亚洲色吧, lle mae sawl aelod staff yn cynnig arweiniad ac awgrymiadau i'r myfyriwr a'i oruchwyliwr. Mae'r amgylchedd hynod gydweithredol hwn yn galluogi myfyrwyr i ddysgu methodolegau yn llawn ac yn effeithlon.
Edrychwch ar y Grwpiau ymchwil Uned Delweddu 亚洲色吧 a'r cyfleoedd ymchwil 么l-radd yn Ysgol Gwyddorau Dynol ac Ymddygiadol.
鈥淢ae'r gefnogaeth niwroddelweddu sydd ar gael ym Mhrifysgol 亚洲色吧 wedi bod yn wych. Nid oeddwn i na fy ngoruchwyliwr wedi cynnal ymchwil niwroddelweddu o'r blaen, ond gwnaeth cydweithwyr yn Uned Delweddu 亚洲色吧 ein cynorthwyo wrth gynllunio ein paradeimau a dechrau casglu/dadansoddi data. Nawr rydym yn hunangynhaliol ac rwy'n weithredwr sganiwr lefel 2 sy'n gallu dadansoddi setiau data fMRI a DTI, gyda鈥檙 bwriad o barhau gyda gyrfa 么l-ddoethurol gan ddefnyddio technegau niwroddelweddu."- Leah Johnstone, labordy LLAW.
听