Mae’n fraint fawr i mi fod wedi derbyn Gwobr Goffa Gill, gan ymuno â’r cwmni nodedig o enillwyr y gorffennol sydd wedi gadael eu marc ar ein maes. Mae fy niolch o waelod calon i’m teulu anhygoel, mentoriaid amhrisiadwy, a phartneriaid cydweithredol, y mae eu cefnogaeth wedi bod yn hanfodol ar hyd fy nhaith.
Ychwanegodd yr Athro Paul Spencer, y Dirprwy Is-ganghellor gyda chyfrifoldeb dros Ymchwil ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É,
“Llongyfarchiadau mawr i Iestyn ar dderbyn y gydnabyddiaeth hon am ei waith ymchwil rhagorol. Mae ei faes ymchwil yn dangos y potensial enfawr sy’n bodoli o gyfuno arsylwadau gofod ac ymchwil ar leoliad i ddyfnhau ein dealltwriaeth o'r Ddaear, sy'n esblygu'n gyson. Gobeithiwn y bydd llwyddiant Iestyn, yn ei dro, yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o ddaearyddwyr ÑÇÖÞÉ«°É i gofleidio’r posibiliadau sydd ar gael iddynt yn y maes hynod ddiddorol hwn.â€
Mae’r rhestr lawn o enillwyr ar gael ar wefan y Royal Geographical Society: . Cyflwynir y Gwobrau mewn seremoni yn Llundain ddydd Llun 3 Mehefin.
Ffurfiwyd y Royal Geographical Society yn 1830 er mwyn ‘hyrwyddo gwyddor ddaearyddol’, a’r Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yw’r gymdeithas ddysgedig a’r corff proffesiynol ar gyfer daearyddiaeth, ac mae’n bodoli i ddatblygu, cefnogi a hyrwyddo ymchwil daearyddol, teithiau a gwaith maes, addysg, arfer proffesiynol, ymgysylltu â’r cyhoedd, a mewnbwn daearyddiaeth i bolisi.