Mae canfyddiadau Prifysgol 亚洲色吧 a Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru yn rhan o adroddiad newydd sy鈥檔 dwyn y teitl: Trauma and Adverse Childhood Experiences (TrACE)-informed training for English for Speakers of Other Languages (ESOL) practitioners in Wales: understanding current provision and gaps.
Mae rhaglenni Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill (ESOL) yn helpu oedolion yn y Deyrnas Unedig, nad ydynt yn siarad Cymraeg na Saesneg fel iaith gyntaf, i ddatblygu eu sgiliau Saesneg.
Daw鈥檙 dysgwyr o gefndiroedd amrywiol, ac maent yn cynnwys pobl sydd wedi cael eu gorfodi i fudo a mewnfudwyr o wledydd lle na chaiff Saesneg ei siarad. Mae鈥檔 bosib bod y dysgwyr wedi profi trawma cymhleth neu drawma dros gyfnod hir.
Dywed ymchwilwyr ei bod yn hanfodol bod athrawon Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill yn deall effaith trawma a sut i ymateb yn effeithiol i hynny, er mwyn darparu鈥檙 gefnogaeth orau posibl i鈥檞 dysgwyr.
Trwy gyfweld ag athrawon ac ymarferwyr ledled Cymru, canfu鈥檙 ymchwil nad yw athrawon Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill, fel y mae pethau ar hyn o bryd, wedi derbyn fawr ddim hyfforddiant ar drawma, er gwaethaf yr effaith sylweddol a gaiff hynny yn yr ystafell ddosbarth.
Mae鈥檙 ymchwil yn nodi beth yw anghenion penodol athrawon Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill o ran hyfforddiant sydd wedi鈥檌 lywio gan drawma ac yn cynnig argymhellion i wella鈥檙 ddarpariaeth hyfforddiant yng Nghymru.
Yn yr argymhellion nodir y dylai鈥檙 hyfforddiant gael ei deilwra i鈥檙 lleoliad, gan ystyried y cymhlethdodau o ran sut y gall trawma godi ei ben yn yr ystafell ddosbarth.
Mae鈥檙 adroddiad yn dadlau y dylai hyfforddiant sydd wedi鈥檌 lywio gan drawma ar gyfer ymarferwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill fod yn flaenoriaeth, ac mae鈥檙 canfyddiadau鈥檔 rhoi鈥檙 mewnwelediad sydd ei angen er mwyn gwella hyfforddiant yng Nghymru a gwella cefnogaeth i ddysgwyr.
Dywedodd Natasha Judd o Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol 亚洲色吧: 鈥淣ododd y cyfranogwyr fod trawma鈥檙 dysgwyr nid yn unig yn effeithio ar y dysgwyr eu hunain ond hefyd yn gallu effeithio ar yr amgylchedd addysgu ac ar les athrawon. Rydym yn argymell y dylai hyfforddiant sydd wedi ei lywio gan drawma ganolbwyntio ar gefnogi dysgwyr ac addysgwyr.鈥
Dywedodd Dr Kat Ford o Uned Cydweithredu Iechyd y Cyhoedd, Prifysgol 亚洲色吧: 鈥淣ododd pob cyfranogwr fod arnynt angen a bod ganddynt awydd cael hyfforddiant mwy penodol. Mae ein canfyddiadau鈥檔 darparu sylfaen gref, ond dylai ymchwil yn y dyfodol hefyd geisio ymgorffori safbwyntiau dysgwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill. Bydd profiad y dysgwr yn rhan annatod o ddatblygu unrhyw hyfforddiant.鈥
Dywedodd Dr Jo Hopkins, Cyfarwyddwr Hyb Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod Cymru: 鈥淵n yr Hyb, rydym wedi bod yn gweithio gydag ysgolion, sefydliadau addysg bellach a sefydliadau addysg uwch ledled Cymru i roi ar waith y Pecyn Cymorth i Sefydliadau sydd wedi eu lywio gan Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod. Rydym yn defnyddio canfyddiadau鈥檙 astudiaeth hon i eiriol dros gefnogaeth bellach i ymarferwyr Saesneg ar gyfer Siaradwyr Ieithoedd Eraill ledled Cymru ac yn cydnabod y cyfle sydd gennym, trwy waith ein hathrawon anhygoel, i gynyddu dealltwriaeth o drawma a sut y gall effeithio ar fywydau pawb yn ein cymunedau. Mae darparu adnoddau a hyfforddiant i roi鈥檙 sgiliau iddynt gefnogi dysgwyr sydd wedi profi trawma neu brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod yn hanfodol.鈥
Gallwch weld y Pecyn Cymorth i Sefydliadau sydd wedi ei lywio gan Drawma a Phrofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod (bydd y ddolen yn agor mewn tab newydd).