Cafodd myfyrwyr o Brifysgol 亚洲色吧 brofiad i鈥檞 gofio wrth iddynt deithio i Gaerdydd i ymweld 芒 Chynghrair Sgrin Cymru yn Wolf Studios a phencadlys y BBC yn Sgw芒r Canolog, Caerdydd.
Ynghyd 芒鈥檌 cyd-myfyrwyr o Goleg Menai, cawsant y dasg o ffilmio eitem newyddion ar y testun llosg, Deallusrwydd Artiffisial (AI). Yn goruchwylio鈥檙 ffilmio roedd y gyfarwyddwraig a鈥檙 person camera profiadol, Meinir Siencyn.
Dywedodd Carol Jones, Rheolwr Academi Sgrin, 鈥淢ae meithrin y berthynas yma gyda chriwiau proffesiynol yn holl bwysig ac yn brofiad amhrisiadwy i鈥檙 myfyrwyr ac yn sicr fe wnaethon nhw elwa o gyngor a phrofiad Meinir ar y dydd.Roedd yn braf gweld y myfyrwyr yn cyd-weithio ac yn cyd-drafod wrth ddatrys problemau ffilmio ar leoliad.鈥
鈥淭refnwyd dangosiad arbennig o鈥檙 ffilmiau byrion hynny yn Pontio yn ddiweddar a braf oedd gweld y sinema yn llawn teulu a ffrindiau. Dangoswyd hefyd arlwy ehangach o waith modiwlau gwahanol Prifysgol 亚洲色吧 a Choleg Menai. Mae鈥檔 brofiad buddiol i鈥檙 myfyrwyr i ddangos eu gwaith i gynulleidfa ehangach ac i weld eu gwaith ar y sgrin fawr.鈥
Yn ystod y daith i Gaerdydd cafwyd hefyd gyflwyniad gyrfaol gan y criw addysgiadol yng Nghynghrair Sgrin Cymru (Screen Alliance Wales) a throsolwg o鈥檙 cynyrchiadau mawr enwog sydd yn cael eu ffilmio i lawr yn ne Cymru.聽
Cafwyd hefyd daith estynedig o amgylch pencadlys BBC Cymru, adeilad newydd sbon gyda鈥檙 dechnoleg darlledu ddiweddaraf.聽 Cafodd ein myfyrwyr gyfle i weld set Crimewatch, Scrum V Live, Newyddion S4C a Wales Today yn ogystal 芒 stiwdios Radio Cymru a Radio Wales.聽 Unwaith eto, cafwyd cyfle i gyfarfod a gweithwyr proffesiynol. Cafwyd sesiynau gyda鈥檙 golygydd profiadol Nikki Sirrell oedd yn egluro sut yr oedd yn mynd ati i olygu ar gyfer rhaglen ddogfen a鈥檙 cymysgydd dybio Darran Clement ddangosodd sut yr oedd yn mynd ati i osod y gwahanol haenau o sain a sut i greu effeithiau sain.聽
Dywedodd Stephanie Steventon, Darlithydd mewn Cynhyrchu yn y Cyfryngau, 鈥淩oedd y daith i Gaerdydd yn gyfle gwych i fyfyrwyr brofi realiti gweithio o fewn y diwydiannau creadigol. Trwy gael y profiad ymarferol yn y BBC, gobeithio bod myfyrwyr bellach yn teimlo nad yw eu dyheadau i weithio yn y meysydd hyn allan o鈥檜 cyrraedd. Mae gallu siarad ag amrywiaeth o weithwyr proffesiynol yn y diwydiant ar wahanol gamau o鈥檜 gyrfaoedd ym maes cynhyrchu ffilm, teledu a radio wedi golygu bod gan ein myfyrwyr bellach ffocws clir ar gyfer eu hamser yma ym Mangor, boed hynny鈥檔 ennill sgiliau meddal newydd, sgiliau technegol neu ymwybyddiaeth o sut i dorri trwodd i鈥檙 diwydiannau creadigol ar 么l graddio.鈥
Darganfyddwch ein cyrsiau Ffilm, Cyfryngau a Newyddiaduraeth