Unwaith eto, Ddydd Sadwrn 9 Mawrth rhwng 10.30 a 3.00 pm bydd y digwyddiad Bydoedd Cudd hynod boblogaidd yn rhoi cyfle i’r hen a’r ifanc gael eu dwylo ar wyddoniaeth. O arlunio botanegol i arddangosfeydd rhyngweithiol gan y Ganolfan BioGyfansoddion a Gardd Fotaneg Treborth, ac o gwis ‘Penglog Pwy?’ i sut i olchi’ch dwylo, bydd rhywbeth at ddant pawb!
Mae’r holl arddangosfeydd rhyngweithiol, gan gynnwys Amgueddfa Byd Naturiol enwog y Brifysgol, yn rhad ac am ddim, ac yn cael eu cynnal yn Adeilad Brambell ar Ffordd Deiniol, ÑÇÖÞÉ«°É. Y cwbl y mae’n rhaid ei wneud i ganfod mwy am ryfeddodau ymchwil gwyddonol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yw cofrestru ar wefan y digwyddiad.
Yn ogystal â gweithgareddau gwyddoniaeth ymarferol, mae’r Brifysgol yn cynnal nifer o sgyrsiau difyr.
Ag yntau wedi derbyn Gradd er Anrhydedd gan Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ddiweddar, bydd Caradog Jones, y Cymro cyntaf i ddringo Everest yn trafod ei brofiadau ar gopa ucha’r byd, fel rhan o’i sgwrs 'Contraflow. Where to next'Ìý»å»å²â»å»å Mawrth 5 Mawrth am 6.30 pm ym Mhrif Adeilad y Brifysgol. Wedi graddio o’r Brifysgol gyd gradd mewn Bioleg Môr, mae ‘Crag’, fel y caiff ei adnabod, wedi rhannu ei yrfa rhwng ei hoff ddiddordebau, sef bioleg môr a mynydda.
Mae’r Brifysgol yn falch o gael croesawu Tim Haines yn ei ôl i draddodi darlith gyhoeddus. Graddiodd Tim Haines mewn swoleg, ac mae bellach yn adnabyddus fel cynhyrchydd a chyfarwyddwr, ac yn fwyaf enwog, mae’n debyg, am y gyfres flaengar ac arloesol Walking with Dinosaurs. Dewch i wrando ar sgwrs Tim 'Making Monsters'am 11.00 am yn Pontio Ddydd Sadwrn 9 Mawrth.
Fel rhan o’r ŵyl hefyd cynhelir digwyddiad cloi Cynhadledd Ymchwilwyr Ifanc Gogledd Cymru (NWYRC). Cyhoeddir enillwyr cystadleuaeth NWYRC yn Pontio am 3.00 pm Ddydd Sadwrn 9 Mawrth, a chaiff gweithgareddau a sesiynau eraill eu cynnal yn Neuadd Penrhyn.
Bydd Darlith Gyhoeddus Awyr Dywyll Eryri, a gynhelir Ddydd Llun 11 Mawrth, hefyd yn rhan o’r ŵyl. Dewch i ddysgu mwy am Barc Cenedlaethol Eryri, un o 18 Gwarchodfa Ryngwladol Awyr Dywyll y byd. Ewch i’r wefan am fanylion lleoliad.
Mae ysgolion lleol wedi’u gwahodd i gymryd rhan mewn Diwrnod Eco-wyddoniaeth i Ysgolion yn Pontio Ddydd Gwener 8 Mawrth. Wedi’i gynllunio ar gyfer disgyblion blynyddoedd 7 ac 8, bydd y diwrnod yn cynnwys yr ymchwil eco-wyddoniaeth diweddaraf, sgyrsiau, stondinau rhyngweithiol, arddangosiadau ac arddangosfeydd gan gynnwys Co-Lab, M-SParc, Prosesu Signal Digidol, Roboteg, Technocamps a’r Sefydliad Dyfodol Niwclear.
Hefyd yn digwydd yn Pontio am 1pm Ddydd Gwener 8 Mawrth bydd ‘Inspire Inclusion - Women in Science @ÑÇÖÞÉ«°É’. Bydd y Brifysgol yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Merched 2024 gan ddefnyddio’r thema fyd-eang eleni ‘Ysbrydoli Cynhwysiant’ fel cyfle i ddathlu merched yn y gwyddorau o fewn y Brifysgol. Bydd yr Athro Yueng-Djern Lenn a Kodi Edwards o Ysgol Gwyddorau’r Eigion yn rhannu eu meddyliau, eu profiadau a’u mewnwelediadau am eu taith hyd yma a sut y maent yn ysbrydoli cynhwysiant yn eu meysydd.
Beth am wisgo’ch esgidiau cerdded i gerdded yn ôl troed Charles Darwin ar Daith Gerdded Daeareg i Gwm Idwal Ddydd Sul 17 Mawrth? Bydd yr Athro Colin Jago o GeoMon yn disgrifio nodweddion daearegol y grognant eiconig a sut y cyfrannodd astudiaeth o Gwm Idwal gan wyddonwyr o bwys fel Charles Darwin at ein dealltwriaeth o ddaeareg.
I gloi’r Ŵyl, Ddydd Mercher 20 Mawrth, bydd y darlledwr, yr anturiaethwr a’r Darlithydd er Anrhydedd, Steve Backshall yn dychwelyd i Fangor i gyflwyno sgwrs 'Venom; the science of terrible toxins in nature’. Mae’n rhaid archebu eich lle ar gyfer y ddarlith gan mai’r disgwyl yw y bydd yn boblogaidd. Mae’n digwydd am 5.30 pm ym Mhrif Ddarlithfa Pontio.
Gŵyl Wyddoniaeth ÑÇÖÞÉ«°É
Rydym wrth ein boddau’n agor ein drysau a chroesawu’r gymuned i’n Gŵyl Wyddoniaeth, sydd wastad yn boblogaidd, ac sy’n rhan o’n gweithgareddau i ddathlu ein pen-blwydd yn 140 eleni. Rydym yn gobeithio y bydd pobol o bob oed yn canfod rhywbeth i’w hysbrydoli ymhlith y gweithgareddau sy’n cael eu cynnig.
Rydym yn ymrwymedig i rannu ein gwyddoniaeth ac ennyn brwdfrydedd y genhedlaeth nesaf o wyddonwyr – ac nid yw byth yn rhy hwyr i ymddiddori, felly rydym yn gobeithio y bydd pobol o bob oed yn ymweld ag o leiaf un o ddigwyddiadau’r Ŵyl Wyddoniaeth.