Taith gerdded Daeareg – Dilyn camau troed Charles Darwin
Gŵyl Wyddoniaeth ÑÇÖÞÉ«°É
MAE'R DIGWYDDIAD YMA YN LLAWNÌý
Ymunwch â ni ar daith wedi ei harwain gan Yr AthroÌýColin Jago rhag GeoMon. Cyfarfod am 10:30am, Cwm Idwal,Ìý Bwthyn Ogwen ger yr A5 wrth Llyn Ogwen. Mae'r daith yn rhad ac am ddim a bydd yn cymryd tua 3 awr. Cofrestrwch ar gyfer y digwyddiad yma os gwelwch yn dda.ÌýÌý
Bydd y daith i Gwm Idwal yn Eryri yn Ìýcanolbwyntio ar ddau gyfnod penodol o hanes daearegol: Ordoficaidd( 450 miliwn o flynyddoedd yn ôl) pan ffurfiwyd creigiau Eryri a’r Quaternaidd , oedd yn cynnwys yr Oes Iâ diwethaf( ar ei uchafbwynt tua 18,000 o flynyddoedd yn ôl), pryd y cafodd prif nodweddion y tirlun eu sefydlu. Yn y cyfnodau Ordoficaidd a’r Quaternaidd, profodd Gogledd Cymru symudiadau amgylcheddol enfawr: gweithgaredd llosgfynydd ysgytwol a rhewlifoedd dwfn , sydd i’w gweld mor amlwg yn y creigiau a’r tirlun lleol. Mae Cwm Idwal wedi chwarae rhan allweddol wrth gynyddu ein dealltwriaeth o’r ddau gyfnod gan ennyn diddordeb gwyddonwyr enwog, gan gynnwys Charles Darwin, Ìýymwelodd â’r cwm ddwywaith ( yn 1831 a 1842).Ìý
Bydd y daith gerdded yn cymryd tua thair awr. Mae’n dro braf dros dir garw (dim dringo na sgramblo) ond dylai’r holl gerddwyr wisgo’n addas (sgidiau cadarn, dillad cynnes, deunydd rhag glaw) beth bynnag fo rhagolygon y tywydd ar y diwrnod hwnnw.Ìý
Mae’r daith gerdded hon yn addas i blant. Rhaid i blant fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol, a fydd yn eu goruchwylio trwy’r amser. Rhaid i blant allu cerdded y pellter a bod wedi’u gwisgo yn y modd priodol.Ìý
Ìý