Eglurodd Steven Gallacher, Rheolwr Gweithrediadau yn Scottish Shellfish Marketing Group, sy’n cydweithio â’r tîm, “Ffermio cregyn gleision yw un o’r dulliau mwyaf cynaliadwy o gynhyrchu bwyd, ond nid yw pob cregyn gleision yn bodloni’r safonau ansawdd uchel a ddisgwylir gan ddefnyddwyr. Bydd y cyfle newydd posibl hwn ar gyfer cregyn gleision sydd ddim yn cyrraedd y safonau yn helpu i wella cynaliadwyedd ein diwydiant ymhellach.”
Meddai Dr Noel Roberts, cyd-ddyfeisiwr Pennotec, ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa a raddiodd ar y cwrs ION Leadership ym Mhrifysgol ɫ, “Mae chwistrellau arwyneb bioladdol confensiynol sy'n atal tyfiant mwsogl a llysnafedd yn para tair blynedd ar y mwyaf. Mae hyn yn ddrud i berchnogion tai ac yn ddrwg i'r amgylchedd. Mae profion hindreulio cyflymedig ym Mhrifysgol ɫ yn rhagweld y bydd ein cynnyrch yn atal tyfiant arwyneb am hyd at 15 mlynedd, gan arbed miloedd o bunnoedd i berchnogion tai a lleihau'r risg o ddifrod i'r to gan lanhau cyson.”
Gyda chymaint o gryfderau amgylcheddol cryf yn rhan o’r deunydd, roedd Noel hefyd yn awyddus i sicrhau bod ei gynnyrch yn darparu ateb gwirioneddol gylchol: “Mae fy nyfais yn disodli cemegau glanhau peryglus. Er gwaethaf hyn, roeddwn yn gwybod y gallai fy nghynnyrch fynd i safleoedd tirlenwi ar ddiwedd ei oes fuddiol, ac nid oeddwn yn hapus am hynny.”
Arweiniodd hyn at Noel i wneud cais am gyngor a chefnogaeth DEFRA ac Ymchwil ac Arloesi yn y Deyrnas Unedig (UKRI). Mae Canolfan Economi Gylchol Ryngddisgyblaethol UKRI ar gyfer Deunyddiau Adeiladu Seiliedig ar Fwynau (ICEC-MCM) - un o bum canolfan ymchwil gwerth £30 miliwn sy'n canolbwyntio ar ddatblygu Economi Gylchol y DU - bellach yn cefnogi project cydweithredol newydd i ymchwilio i ailgylchu deunydd cyfansawdd cregyn gleision sydd wedi ei ddefnyddio yn ôl i mewn i’r cynnyrch ffres.
Mae Noel, a'i dîm yn Pennotec, yn cydweithio â Dr Simon Curling, arbenigwr ar gylch bywyd a gwydnwch deunyddiau adeiladu yng Nghanolfan Biogyfansoddion Prifysgol ɫ. Dywedodd Simon, “Gan ddefnyddio ein gallu i efelychu blynyddoedd o hindreulio mewn ychydig wythnosau, rydym yn helpu Noel i brofi a dilysu perfformiad a gwydnwch ei ddeunydd wedi'i ailgylchu.”
Mae dangos bod y math hwn o ailgylchu yn bosibl mewn diwydiant adeiladu sy'n llinol iawn yn ei ddefnydd o ddeunyddiau yn dipyn o her. Mae adeiladu yn cynhyrchu mwy nag un rhan o dair o'r holl wastraff sy'n cyrraedd safleoedd tirlenwi.
“Er mwyn i’r Economi Gylchol weithio’n ymarferol, mae angen meddwl o’r newydd ynglŷn â sut mae gweithgynhyrchwyr deunyddiau adeiladu yn ariannu ac yn rheoli’r gwaith o adfer ac ailbrosesu cynhyrchion.
Trwy weithio gydag arbenigwyr busnes a chyllid yr Economi Gylchol yn ICEC-MCM, rwy’n gobeithio deall sut y gall y diwydiant adeiladu, cyllidwyr, cymdeithasau tai a pherchnogion tai gael eu cymell i gefnogi ailgylchu deunyddiau adeiladu ar ddiwedd eu hoes fuddiol.”