Mae'r project yn canolbwyntio ar wella鈥檙 ffordd y mae ymchwilwyr yn uno ymchwil ansoddol bresennol ar iechyd a gofal cymdeithasol, a鈥檙 ffordd y maent yn adrodd ar yr ymchwil honno鈥 megis astudiaethau sy'n cynnwys cyfweliadau a grwpiau ffocws 鈥 sy'n darparu mewnwelediad hanfodol i brofiadau, ymddygiadau a chanfyddiadau pobl o wasanaethau iechyd a gofal iechyd.
Yn ganolog i'r ymdrech hon mae gr诺p o ddulliau a elwir yn synthesisau tystiolaeth ansoddol (QES), sy'n cyfuno canfyddiadau o astudiaethau ansoddol lluosog. Bydd yr astudiaeth hon yn arbennig o werthfawr i sefydliadau megis y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal, a Sefydliad Iechyd y Byd, gan helpu i lunio canllawiau iechyd byd-eang.
Ariennir y project PRISMA QES gan raglen 鈥楤etter Methods, Better Research鈥 y Cyngor Ymchwil Meddygol. Mae鈥檔 dwyn ynghyd academyddion blaenllaw o Brifysgol 亚洲色吧, Prifysgol Stirling, a Phrifysgol Sheffield, gan weithio鈥檔 agos 芒 th卯m o arbenigwyr rhyngwladol.
Eglurodd yr Athro Jane Noyes, sy鈥檔 Athro Ymchwil Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ac Iechyd Plant yn Ysgol Gwyddorau Iechyd Prifysgol 亚洲色吧:
鈥淩ydym yn falch bod Prifysgol 亚洲色吧 yn arwain ar yr ymchwil hon i ddatblygu sut mae tystiolaeth ymchwil yn cael ei hadrodd yn ogystal ag ansawdd adroddiadau QES. Mae sefydliadau megis Cochrane and Campbell, sy'n cyhoeddi'r adroddiadau hyn, yn edrych ymlaen yn eiddgar at y canllawiau newydd.
鈥淢ae adroddiadau synthesisau tystiolaeth ansoddol o ansawdd gwael yn her sylweddol i鈥檙 GIG. Mae'n ei gwneud yn anodd i gleifion, rheolwyr y GIG, a datblygwyr canllawiau gofal iechyd ymddiried yn y canfyddiadau a'u defnyddio'n effeithiol i ysgogi gwelliannau mewn polisi, penderfyniadau a gofal cleifion. Bydd yr ymchwil hon yn help mawr wrth wella ymhellach ansawdd y dystiolaeth yn llyfrgelloedd sefydliadau, gan gefnogi prosesau gwneud penderfyniadau gofal iechyd byd-eang.鈥
Ychwanegodd cyd-arweinydd y project, yr Athro Emma France o Brifysgol Stirling:
鈥淏ydd y project PRISMA QES yn datblygu canllaw i helpu ymchwilwyr i gynnal synthesisau tystiolaeth ansoddol o ansawdd uchel, ac adrodd ar eu canfyddiadau i safon uwch. Bydd hyn yn ei galluogi i fanteisio ar wybodaeth gyfoethog ac ansoddol i wella prosesau gwneud penderfyniadau, yn ogystal 芒 gwella canlyniadau i gleifion a鈥檙 cyhoedd.
Pwysleisiodd Sarah Peddle, sef arweinydd cyfranogiad y cyhoedd y project, pa mor bwysig yw鈥檙 project hwn i gleifion a鈥檙 cyhoedd:
鈥淢ae鈥檔 hanfodol cynnwys llais cleifion a鈥檙 cyhoedd mewn ymchwil iechyd a gofal effeithiol, ac mae鈥檙 ethos o gynnwys pobl mewn unrhyw benderfyniadau sy鈥檔 cael eu gwneud amdanynt yn agwedd sylfaenol ar y project hwn.聽 Mae cynnwys y cyhoedd yn ymestyn ymhell y tu hwnt i fy llais unigol i, gyda gr诺p o ymgynghorwyr cyhoeddus yn rhoi mewnbwn drwy gyfarfodydd ac yn adolygu gwybodaeth neu allbynnau drwy gydol y broses.聽 Bydd gr诺p ehangach o gyfranwyr cyhoeddus hefyd yn ymuno ag arbenigwyr eraill i ddod i gytundeb ar gynnwys y canllaw.鈥
Mae'r project hefyd yn cynnwys cydweithio 芒 Gr诺p Gweithredol PRISMA, sy'n enwog am ddatblygu canllawiau ar adrodd a ddefnyddir yn fyd-eang, yn ogystal 芒 hyrwyddo dulliau synthesis tystiolaeth ansoddol. Mae aelodau allweddol hefyd yn cynnwys methodolegwyr arbenigol megis yr Athro Angela Harden o City University of London, yr Athro James Thomas o UCL, a'r Athro Andrew Booth o Brifysgol Sheffield.
Teitl llawn y project yw 鈥楶RISMA Reporting Guideline and Standards for Qualitative Evidence Synthesis.鈥