Mae’n bosib y bydd cambrenni arloesol i’w gweld mewn siopau ledled y byd cyn bo hir wrth i gwmni gweithgynhyrchu byd-eang ystyried defnyddio dyluniadau cynaliadwy a grëwyd gydag israddedigion Prifysgol ɫ.
Mae'r gwneuthurwr cambrenni byd-eang Mainetti wedi cydweithio â'r brifysgol i ddatblygu syniadau newydd ar gyfer cambrenni i'w defnyddio gyda rhai o frandiau ffasiwn a manwerthu mwyaf y byd.
Mae'r cwmni, sydd â dros 6,000 o weithwyr ar chwe chyfandir, yn cynhyrchu'r rhan fwyaf o'i gambrenni newydd yn ei ffatri yn Wrecsam, lle bu myfyrwyr ɫ yn gwneud lleoliadau gwaith yn y gorffennol.
Yn dilyn cyswllt gan staff o Ysgol Cyfrifiadureg a Pheirianneg Electronig y brifysgol, rhoddodd Mainetti friff i fyfyrwyr ail flwyddyn BSc Dylunio Cynnyrch i greu cambrenni cynaliadwy sy’n canolbwyntio ar effeithlonrwydd, rhwyddineb defnydd ac ailddefnydd.
Roedd y project wyth wythnos yn rhan o'u gwaith cwrs, gyda glasbrintiau a phrototeipiau'n cael eu cyflwyno yn y cnawd i uwch aelodau tîm Mainetti UK i gael adborth a chyfle i droi eu gwaith yn gynnyrch go iawn.
Mae sicrhau ein bod yn parhau ar flaen y gad o ran arloesi a gweithgynhyrchu cynaliadwy yn greiddiol i bopeth a wnawn ym Mainetti, ac mae dod â syniadau a dylunwyr newydd i’r diwydiant trwy brojectau fel yr un gyda Phrifysgol ɫ yn bwysig iawn i ni.
“Oherwydd bod dillad yn cael eu prynu a’u gwerthu fwyfwy ar-lein, bu symudiad tuag at ddylunio cambrenni sy’n fwy effeithlon ac addas ar gyfer cludiant byd-eang, a bu rhaid i ni wthio’r ffiniau i gleientiaid er mwyn cyflawni hyn.
“Mae gweithio ochr yn ochr â myfyrwyr dylunio cynnyrch ɫ wedi bod yn agoriad llygad o ran syniadau newydd gwych ar gyfer y diwydiant; rydym wedi cymryd nifer o’r dyluniadau y gwnaeth myfyrwyr eu cyflwyno i’n proses ddatblygu, ac yn gobeithio gallu cyflwyno rhai ohonynt yn fyd-eang yn y dyfodol agos.
Cyflwynodd dros 30 o israddedigion ddyluniadau i Mainetti fel rhan o’r rhaglen, gyda chynigion yn canolbwyntio ar leihau maint cambrenni, effeithlonrwydd cludo, a thechnegau storio ychwanegol.
Meddai Aled Williams, darlithydd dylunio cynnyrch ym Mhrifysgol ɫ: “Mae gweithio gyda chorfforaethau byd-eang fel Mainetti yn rhan greiddiol o’n cwrs, ac rydym yn falch dros ben eu bod wedi dewis cynnwys rhai o’r prototeipiau y bu myfyrwyr yn gweithio’n galed arnynt yn eu prosesau ymchwil a datblygu i’w defnyddio’n ehangach.
“I fyfyrwyr, mae gweithio gyda diwydiant yn rhoi cipolwg gwych iddynt ar yr ymchwil a’r gwaith bob dydd sy’n angenrheidiol yn y gweithlu, yn ogystal â’r cyfle i greu cysylltiadau a sgiliau a fydd yn caniatáu iddynt gamu i swydd yn haws ar ôl graddio.
“Mae’r myfyrwyr y mae cwmnïau yn mabwysiadu eu syniadau fel rhan o’r briffiau byw hyn yn cael eu cynnwys ar unrhyw batentau, camp sylweddol sy’n rhoi hwb mawr i’w CV ac a allai eu helpu i gael eu troed yn y drws ar ôl graddio.”
Mae'r gwaith gyda Mainetti wedi bod yn un o ryw ddeg briff byw y mae myfyrwyr dylunio cynnyrch Prifysgol ɫ yn gweithio arnynt yn ystod eu gradd, gyda myfyrwyr yn mynd i'r afael â heriau mewn amrywiaeth o ddiwydiannau.
Meddai Sian Owen, myfyrwraig ym Mhrifysgol ɫ: “Roedd datblygu fy sgiliau CAD mewn cyd-destun diwydiannol yn sicrhau bod ansawdd fy ngwaith yn gwella cymaint, ac roedd rhaid i ni gyflwyno hefyd, a datblygodd hynny fy sgiliau cyflwyno a meithrin fy hyder wrth siarad am fy nyluniadau.”
Bydd y bartneriaeth yn parhau yn 2022, a bydd Mainetti yn darparu briff newydd ar agwedd wahanol ar waith y cwmni i fyfyrwyr ɫ pan fydd y flwyddyn academaidd newydd yn dechrau ym mis Medi.
Am ragor o wybodaeth am Mainetti, ewch i , ac am ragor o wybodaeth am Brifysgol ɫ, cliciwch yma