Pam dewis astudio Dylunio Cynnrych ym Mangor?
Mae ein cwrs Dylunio Cynnyrch wedi cyrraedd y safle uchaf trwy鈥檙 Deyrnas Unedig yn 么l Tabl Cynghrair Prifysgolion y Guardian 2024. Cyflawnodd y cwrs hefyd ganlyniadau gwych yr Arolwg Cenedlaethol Myfyrwyr diweddaraf gan gynnwys: 1af am Addysgu ar y cwrs, 1af am Gyfleoedd Dysgu, 1af am Gefnogaeth Academaidd, a 1af am Drefniadaeth a Rheolaeth.听
Byddwch yn ymarfer yr hyn rydych wedi ei ddysgu mewn darlithoedd ac yn ennill profiad ymarferol o ddod 芒 chynnyrch arloesol i鈥檙 farchnad, rheoli projectau masnachol mewn modd proffesiynol a helpu cwmn茂au i fod yn fwy effeithlon, cystadleuol a pherthnasol yn y byd heddiw.
Cewch eich dysgu mewn grwpiau bychain gan ddarlithwyr sydd am eich gweld yn ffynnu. Bydd ein gweithdy prototeipio aml-ddeunydd, sw卯t CAD a chyfarpar o鈥檙 radd flaenaf yn eich galluogi chi i wireddu eich syniadau. Nid oes cost ychwanegol am ddeunyddiau na defnyddio鈥檙 gweithdy a gofodau stiwdio.
Daw ein myfyrwyr a staff o wahanol gefndiroedd, ond mae pob un yn rhannu鈥檙 un nod, yn weledyddion ac yn ymroddedig i wella ein byd trwy ddylunio ac arloesi. 听
Bydd Dylunio Cynnyrch yn agor byd o yrfaoedd diddorol a chreadigol. Mae hyn yn cynnwys dewis eang o yrfaoedd I bobl greadigol sydd isio datrys problemau, arloesi a newid y byd.听
Mae popeth yn ein hamgylchedd adeiledig wedi cael ei greu gan bobl i bobl. Bydd ein cwrs Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) yn eich galluogi i wireddu eich syniadau i wneud y byd yn lle gwell.听
Myfyriwr Dylunio Cynnyrch yn gweithio gyda meddalwedd CAD Solidworks
Ein cyrsiau Dylunio Cynnyrch
Dyma drosolwg o'r cyrsiau Dylunio Cynnyrch israddedig sydd ar gael i chi eu cymharu a dewis y cwrs sy'n iawn i chi.听听
Dyma drosolwg o'r cyrsiau Dylunio Cynnyrch israddedig sydd ar gael i chi eu cymharu a dewis y cwrs sy'n iawn i chi.听听
Pam astudio Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol 亚洲色吧?
[00:04] Y ffordd rydan ni yn gweithredu ydi ein bod yn rhoi myfyrwyr yng nghanol y broses.
[00:09] Rydan ni wedi gwrando ar ddiwydiant i weld am beth mae nhw'n chwilio amdano
[00:12] gan fyfyrwyr ac rydyn wedi dylunio ein cwrs i ateb y gofynion yna
[00:16] Be yda ni yn gynnig yma, ar y cwrs yma, sy'n wahanol i'r rhan fwyaf o lefydd eraill
[00:20] ydi ein bod yn teilwra'r cwrs yma i siwtio'r unigolyn fel bod yr unigolyn hwnnw yn cael gyrfa
[00:26] o fewn y byd dylunio. Gan bod ni yn gweithio yn agos gyda diwydiant a 'da ni yn gwrando ar beth mae diwydiant听
[00:35] ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw gael eu cyflogi. Maen't yn cael eu cyflogi mewn ystod eang听
[00:41] ei gwneud hi'n hawdd iddyn nhw gael eu cyflogi. Maen't yn cael eu cyflogi mewn ystod eang听
[00:46] o ddiwydiant rhwng o gwmniau sydd yn gweithgynhyrchu peirianneg o'r technoleg flaenaf CNC
[00:53] i ddylunwyr sydd yn gweithio o fewn cwmniau ar gynnyrch penodol i gwmniau agency designers
[01:00] lle mae nhw yn gweithio ar amryw o brojectau. Yn aml mae 'na fyfyrwyr yn mynd ac yn arbenigo mewn dylunio graffeg
[01:05] dylunio gyfer y we, felly mae'r cwrs yn arwain y myfyrwyr ar drywydd eang dros ben.听
[01:15] Dwi yn meddwl fod hynna yn rhwybeth pwysig achos mae'r cydweithio rhwng y myfyrwyr
[01:18] rhwng y staff a'r myfyrwyr hefyd y cydweithio efo'r听
[01:22] cwmnioedd diwydiannol yn rhywbeth sy'n arbennig yn fan hyn.
Cymerwch olwg ar ein cyfleusterau Dylunio Cynnyrch
Gradd Dylunio Cynnyrch fydd yn eich paratoi am yrfa lewyrchus
Fel myfyriwr graddedig y cwrs Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) byddwch yn hynod o gyflogadwy. Byddwch yn gallu defnyddio eich sgiliau dylunio i wneud y byd yn lle gwell drwy ddatrys problemau i gwsmeriaid, cleientiaid a chwmn茂au ledled y byd.
Byddwch yn gweithio ar brojectau byw gyda chwmn茂au ac yn ennill profiad diwydiannol, yn dysgu sut i reoli projectau masnachol mewn ffordd broffesiynol, yn galluogi cwmn茂au i fod yn fwy effeithlon, cystadleuol a pherthnasol yn y byd heddiw.听
Yn aml, bydd ein myfyrwyr sydd yn graddio yn mynd yn syth i mewn i swydd, gyda llawer yn cael cynnig gwaith gyda鈥檙 cwmni sydd wedi rhoi lleoliad gwaith iddynt yn ystod blynyddoedd 2 a 3 o鈥檙 cwrs.
Byddwch yn mynychu tri lleoliad yn ystod y radd yn hytrach nag un lleoliad sy'n para blwyddyn ar ddiwedd y cwrs. Ein gradd yw'r unig un radd听Dylunio Cynnyrch BSc (Anrh) yn y DU i gynnig hyn.听
Bydd y profiad mewn gweithle yn digwydd dros 24 wythnos dros 3 mlynedd - bloc o 8 wythnos pob blwyddyn o'r cwrs.听听
Byddwch yn elwa o'r canlynol:听
- Cefnogaeth gan fentoriaid profiadol
- Ymweliadau gan diwtoriaid cyswllt o鈥檙 coleg
- Cynhyrchu portffolio ardderchog
- Profiad o gydweithredu
- Cymryd rhan mewn projectau go iawn
- Datblygiad Personol a Phroffesiynol
- Profiadau a ysgogir gan yrfaoeddr
Byddwch yn astudio methodolegau dylunio sy'n canolbwyntio ar bobl a meddylfryd dylunio. Bydd amrywiaeth o friffiau'n eich herio ac yn eich datblygu'n greadigol ac yn broffesiynol. Bydd projectau gyda phartneriaid diwydiannol yn darparu sylfaen a chyd-destun i ddeall sut mae diwydiant yn gweithio. Eich her fydd bod yn greadigol a sicrhau eich bod yn arloesi yn y briff a roddir i chi.
Mae'r rheiny'n cynnwys:
- Egwyddorion Meddylfryd Dylunio
- Creadigrwydd
- Cyfathrebu a Modelu Dylunio
- Cynllunio drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAD)
- Gweithgynhyrchu drwy Gymorth Cyfrifiadur (CAM)
- Sgiliau Gweithgynhyrchu
- Prototeipio
- Datblygu Cynaliadwy a'r Economi Cylchol
- Sgiliau Cyflwyno
Mae'r darlithoedd yma wedi'u cynllunio i'ch addysgu am y materion sy'n effeithio ar ddylunwyr cynnyrch ym myd diwydiant:
- Arloesi Dylunio ar gyfer Diwydiant
- Arweinyddiaeth Strategol
- Rheoli Projectau
- Sefydliadau a Rheolaeth
- Marchnata
- Sgiliau Cyflwyno
- Dylunwyr mewn asiantaethau
- Dylunwyr cynnyrch mewn cwmn茂au ymgynghorol
- Arbenigwr technegol mewn peirianneg a chynllunio drwy gymorth cyfrifiadur
- Peirianwyr cynhyrchu
- Rheolwyr cynhyrchu
- Dylunwyr technegol
- Dylunio mewnol
- Dylunio dodrefn
- Peirianwyr dylunio
- Dylunwyr graffeg
- Dylunwyr digidol
- Dylunwyr gemwaith
- Rheolwyr marchnata
- Rheolwyr datblygu busnes
- Arweinwyr datrysiadau arloesol
- Rheolwyr strategaethau
- Perchnogion busnes hunangyflogedig
- Ymgynghorwyr annibynnol
- Athrawon uwchradd
Rydym yn cyflwyno dwy wobr yn flynyddol i fyfyrwyr Dylunio Cynnyrch sydd yn graddio. Mae Gwobr M-SParc am Berfformiad Academaidd, sy'n werth 拢150, yn cael ei rhoi i'r myfyriwr sy'n graddio gyda'r marc academaidd uchaf. Mae Gwobr Lloyd Jones, sy'n werth 拢1500, yn cael ei rhoi i un bachgen ac un ferch fydd yn cyfrannu at agweddau technolegol economi Gogledd Cymru ar 么l graddio.
Proffiliau graddedigion Dylunio Cynnyrch听
Dilynwch ni ar Instagram
听听听听听听听听听听听听听听听
听听听听听听听听听听听听听听听
Yr hyn rwy'n ei garu am y cwrs Dylunio Cynnyrch ym Mhrifysgol 亚洲色吧 yw bod gennym ddarlithwyr gwybodus iawn gyda phrofiad yn y diwydiant.
听
A oes gennych unrhyw gwestiynnau am fywyd myfyriwr ym Mangor?听Mae ein llysgenhadon yn barod i鈥檆h helpu gael yr ateb.
Gall ein myfyrwyr ddweud mwy wrthoch am y profiad o astudio yma, am y Clybiau a Chymdeithasau gwych sydd yma, a sut bu iddynt hwy wneud ffrindiau ac ymgartrefu yn y Brifysgol.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cwrs, mae ein darlithwyr wrth law i helpu. Dyma rai cwestiynau a ofynnir yn aml. Oes gennych chi unrhyw gwestiwn arall i'n darlithwyr?听
- Pa rinweddau sydd gan fyfyrwyr llwyddiannus Dylunio Cynnyrch ym Mangor?听
- Beth allai wneud i baratoi at astudio听Dylunio Cynnyrch ym Mangor?听
- Sut ydw i yn gwybod mai Dylunio Cynnyrch ym Mangor yw鈥檙 dewis iawn i mi?听
听
Ein Hymchwil o fewn Dylunio Cynnyrch
Wrth astudio Dylunio Cynnyrch听byddwch yn dysgu am y canfyddiadau ymchwil diweddaraf yn eich maes ac yn cael cyfle i weithio gydag arbenigwyr ymchwil o fri cenedlaethol a rhyngwladol wrth gynllunio a gweithredu eich ymchwil eich hun. Fe'ch addysgir gan unigolion sy'n cael eu cydnabod yn rhyngwladol am eu harbenigedd ac sy'n cael eu gwahodd yn rheolaidd i siarad mewn amryw o ddigwyddiadau amlwg ledled y byd.
Mae ein hymchwil ym maes Dylunio Cynnyrch wedi'i gwreiddio'n gyson yn ein briffiau byw ac mae'r canlyniadau'n dod yn rhan annatod o brosesau datblygu cynnyrch ac arloesi newydd o fewn cwmn茂au. Mae'r profiadau cymhwysol a byd go iawn hyn wedi arwain at i nifer o'n myfyrwyr gael eu henwi ar batentau gyda'n cwmn茂au partner.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.