Ond nid mynd yno ar wyliau mae Joel! Bydd ymwelwyr â’r safle cadwraeth poblogaidd yn gallu gweld a chlywed Joel wrth ei waith yn cyfansoddi cerddoriaeth wedi’i hysbrydoli gan y lleoliad.
Roedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn falch iawn o’r cyfle i roi cartref dros dro i’r perfformiwr, y cyfansoddwr a’r cerddor Joel Pike. Ac yntau’n cael ei ysbrydoli gan fyd natur, bydd Joel yn artist preswyl yn Carding Mill Valley dros yr wythnos 21-25 Mehefin.
Bydd Joel yn gosod stiwdio gerdd dros dro yn safle Carding Mill Valley yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol. Yna bydd yn mentro i’r bryniau am ysbrydoliaeth gerddorol cyn dychwelyd i’w stiwdio ar y safle, i arbrofi gyda synau a chyfansoddiadau newydd.
Mae’n creu ac yn perfformio o dan yr enw Tiny Leaves, ac mae ei gyfansoddiadau wedi ennyn cymeradwyaeth feirniadol ac wedi cael eu darlledu ar y radio ar draws y byd, gan gynnwys eleni ar orsafoedd BBC Radio 3, BBC 6 Music, WNYC (Newsounds) Efrog Newydd a KEXP ymysg eraill.
Yn ogystal a’i astudiaethau ym Mhrifysgol ɫ, mae Joel yn arbrofi gyda chreu cerddoriaeth yn y dirwedd fel rhan o’i astudiaethau ôl-radd ym Mhrifysgol ɫ, fel yr eglura:
"Byddaf yn artist preswyl ar leoliad yn safle’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol yn Carding Mill Valley ym mryniau Swydd Amwythig lle rwy’n bwriadu trochi fy hun yn y dirwedd a’i chynrychioli’n gerddorol fel rhan o’m gwaith at radd MMus ym Mangor.
Rwy’n gobeithio gosod stiwdio gerdd dros dro yng ngofod caffi a siop yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol ac yn bwriadu mynd ar deithiau cerdded byr yn y cyffiniau i wneud recordiadau maes a chymryd nodiadau. Bydd hyn yn fy nghynorthwyo i greu brasluniau cerddorol byrfyfyr pan fyddaf yn dychwelyd i’r stiwdio. Bydd y stiwdio mewn man amlwg ar y llawr gwaelod gyda ffenestri mawr a fydd yn caniatáu i’r ymwelwyr weld artist wrth ei gwaith yn creu cerddoriaeth. Rwy’n gobeithio gosod seinyddion ar y brif rodfa y tu allan er mwyn i’r ymwelwyr glywed fy ngherddoriaeth yn cael ei chreu.
Teitl fy MMus yw "Cynrychiolaeth sonig o dirwedd ddistaw ac eang; ei daeareg, ecoleg a’i hanes hen a phresennol” (“A sonic representation of a quiet and vast landscape; its geology, ecology and past and present histories") a pha ffordd well o wneud ymchwil wreiddiol a chael fy ysbrydoli i greu cerddoriaeth, na gosod fy hun yn y dirwedd, a threulio wythnos gyfan yno fel artist preswyl.
Dyma hefyd y tro cyntaf i’r safle hwn groesawu artist preswyl, a’r gobaith yw y bydd y profiad yn galluogi twf o’r ddwy ochr o ran creu perthynas â’r dirwedd a chynnig cyfleoedd i’r celfyddydau chwarae rhan yn safleoedd yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol."
Mae cerddoriaeth Joel i’w chlywed yma: : https://linktr.ee/tinyleaves
Cyfansoddwr yn cael ei ysbrydoli gan fyd natur
Bydd Joel Pike, myfyriwr gradd Meistr Cerddoriaeth ym Mhrifysgol ɫ yn treulio wythnos ogoneddus yn Carding Mill Valley, safle o eiddo’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, lle bydd yn ymhyfrydu yn harddwch ysblennydd bryniau Swydd Amwythig!