Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r MMus hwn mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu eich sgiliau a'ch dealltwriaeth o arferion cyfoes mewn cyfansoddi cerddoriaeth a chelfyddyd sonig. Bydd y rhaglen yn rhoi'r wybodaeth angenrheidiol i chi gyfansoddi mewn amrywiaeth o arddulliau cyfoes. Bydd astudio'r rhaglen meistr mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu sgiliau lefel uchel mewn maes cyfansoddi o'ch dewis. Byddwch yn dysgu gosod eich ymarfer artistig eich hun mewn cyd-destun creadigol a deallusol ehangach, a byddwch yn hogi sgiliau trosglwyddadwy lefel uchel mewn meddwl yn feirniadol, meddwl yn gysyniadol, datrys problemau, dadansoddi, cyfathrebu, hunangyfeirio, creadigrwydd a gwreiddioldeb.
Cynigir arbenigedd mewn amrywiaeth o genres, gan gynnwys ysgrifennu ar gyfer offerynnau a/neu leisiau, cyfansoddi electroacwstig ac acwsmatig, cyfansoddi ar gyfer cerddorion byw gydag electroneg, a chyfansoddi caneuon poblogaidd.
Byddwch yn gweithio'n glos 芒 chyfansoddwyr proffesiynol ac ymchwilwyr profiadol arobryn, llawer ohonynt yn adnabyddus yn rhyngwladol. O astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧 cewch fwynhau cysylltiadau clos 芒 phartneriaid o鈥檙 diwydiant a鈥檙 trydydd sector megis Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, Sinffonia Cymru, Opera Cenedlaethol Cymru, Opra Cymru, Stiwdios Ffilm Aria, Canolfan Celfyddydau Pontio, Venue Cymru, Canolfan Celfyddydau Ucheldre, Canolfan Gerdd William Mathias, Cadeirlan 亚洲色吧, G诺yl Gerdd 亚洲色吧, G诺yl Ryngwladol Gogledd Cymru a G诺yl Biano Ryngwladol Cymru.
Hyd y Rhaglen
MMus: Blwyddyn yn llawn-amser, 2-5 mlynedd yn rhan-amser.
Diploma: 30 wythnos yn llawn-amser.
Pam dewis Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer y cwrs?
- Bydd y cwricwlwm eang yn datblygu eich llais creadigol a byddwch yn meithrin eich gwybodaeth a鈥檆h profiad trwy ymchwil pedagogaidd ac ymchwil sy鈥檔 seiliedig ar ymarfer.
- Rhaglen astudio hyblyg sy'n eich galluogi i archwilio鈥檙 meysydd sydd o ddiddordeb i chi mewn cyfansoddi a chelfyddyd sonig.
- Cwrs cyfoes sy鈥檔 mynd i鈥檙 afael ac yn hyrwyddo datblygiad sgiliau allweddol sy鈥檔 seiliedig ar ymarfer sy鈥檔 berthnasol i鈥檙 diwydiant cerddoriaeth heddiw.
- Hyfforddiant arbenigol gan academyddion ac ymarferwyr enwog ym meysydd cyfansoddi cerddoriaeth a chelfyddyd sonig.
- Cyfleusterau rhagorol gan gynnwys pedair stiwdio gerddoriaeth ddigidol, pob un yn gallu trin sain amgylchynol, i gynhyrchu a recordio cerddoriaeth, cyfansoddi cerddoriaeth ffilm a chelfyddyd sonig arbrofol.
Fy enw i ydi Dai Mito, ac rydw i鈥檔 astudio cyfansoddi a chelf sonig.
Rydw i wir wedi mwynhau gwneud llawer o gerddoriaeth, yn enwedig cerddoriaeth ffilm i ffilmiau mud.
Yn fy marn i, mae yna lawer o gyfleusterau da, fel ystafell biano a stiwdio
Mae yna lawer o lyfrau yn y llyfrgell. Mae'n gymorth mawr i fy astudiaethau.
Mae'n rhaid i mi wneud cerddoriaeth ac effeithiau sain penodol.
Mae'n gymorth mawr i wneud i fi feddwl.
Sut i wneud ffilmiau arbennig neu gemau fideo teledu.
Buaswn yn hoffi gweithio yn golygu, recordio, creu cerddoriaeth i鈥檙 Gorfforaeth Ddarlledu Japan, fel y BBC yn y Deyrnas Unedig
Dyma fy mreuddwyd fawr.
听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Mae dwy ran i鈥檙 rhaglen MMus mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig: -
- Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau) -
- Project Meistr (60 o gredydau)
Caiff elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs ei dysgu dros ddau semester i fyfyrwyr llawn amser. Caiff y Project Meistr ei gyflawni dros yr haf. Addysgir drwy gyfuniad o hyfforddiant unigol a seminarau i grwpiau bach.
Bydd myfyrwyr sy'n dymuno dilyn y Diploma mewn Cerddoriaeth yn cwblhau elfen Astudio Hyfforddedig y cwrs yn unig. Ar gyfer yr MA Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig bydd angen i鈥檙 myfyrwyr gwblhau'r elfen Astudio Hyfforddedig a'r Project Meistr.
Astudio Hyfforddedig (120 o gredydau) (Diploma):
Ym mhob semester byddwch yn dilyny Project Cyfansoddi o dan oruchwyliaeth yn eich dewis arddull a chyfrwng, a fydd gyda'i gilydd yn ffurfio ffocws eich ymarfer cyfansoddi.
Semester 1
- Project Cyfansoddi 1 (20 o gredydau)
- Mae Cerddoriaeth a Syniadau (20 o gredydau) yn archwilio astudiaeth achos a ddewisir o blith opsiynau sy'n seiliedig ar arbenigeddau鈥檙 staff, ochr yn ochr 芒 chyfres o seminarau ymchwil cyhoeddus a gyflwynir gan y staff a siaradwyr allanol.
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn dod 芒 myfyrwyr sy'n dilyn rhaglenni cerddoleg, cyfansoddi a pherfformio ynghyd. Rydym yn archwilio amrywiol faterion cyfoes o'r safbwyntiau gwahanol a rhyng-gysylltiedig hyn.
Yn semester 2
- Project Cyfansoddi 2 (20 o gredydau)
- Mae Ymchwilio i Gerddoriaeth (20 o gredydau) yn eich paratoi i ymgymryd 芒 phroject ymchwil yr haf. Rydym yn ymdrin ag agweddau megis methodolegau ymchwil, ysgrifennu cynigion, a rheoli eich project.
- Mae Cyfansoddi mewn Cyd-destun (20 o gredydau) yn eich galluogi i osod eich ymarfer eich hun yng nghyd-destun datblygiadau hanesyddol a chyfoes eich genre dewisol.
Project Meistr (60 o gredydau):
Mae鈥檙 Project Meistr, a gyflawnir dros fisoedd yr haf, fel arfer ar ffurf cyfansoddiad gwreiddiol sylweddol, neu bortffolio cydlynol o weithiau (30 munud), ynghyd 芒 sylwebaeth gyd-destunol sy鈥檔 dogfennu eich ymarfer creadigol ac yn ei osod mewn cyd-destun ehangach (2,000 o eiriau).
Rhaid i fyfyrwyr sy'n dymuno gorffen y rhaglen radd gydag MMus Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig gwblhau'r Project Meistr yn llwyddiannus.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Mae angen gradd gyntaf o safon 2.ii neu uwch (neu gymhwyster cyfwerth). Fodd bynnag, rhaid i ymgeiswyr gyda gradd 2.ii feddu ar 2.i mewn project sylweddol (e.e. portffolio o gyfansoddiadau) yn y maes astudio o'u dewis. Gellir gofyn i ymgeiswyr gyflwyno samplau cynrychioliadol o'u gwaith creadigol (dau neu dri darn fel rheol). Gall y rhain fod yn sgorau mewn nodiant, neu recordiadau sain, neu'r ddau, a gellir eu hanfon ar bapur, DVD data, neu drwy we-gyswllt megis Dropbox.
Rhaid i'r ymgeiswyr hynny nad yw'r Saesneg yn iaith gyntaf iddynt basio'r prawf Saesneg IELTS gyda sg么r o 6.0 (heb yr un elfen yn is na 5.5).
Gyrfaoedd
Bydd yr MMus mewn Cyfansoddi a Chelfyddyd Sonig yn eich galluogi i ddatblygu llais gwreiddiol cryf mewn awyrgylch academaidd, ac mae'n baratoad delfrydol at waith creadigol pellach ar lefel PhD a thu hwnt. Bydd y rhaglen hefyd yn rhoi sgiliau i chi feddwl yn feirniadol, creadigrwydd a chyfathrebu a werthfawrogir gan gyflogwyr ym maes cerddoriaeth a thu hwnt. Mae graddedigion diweddar wedi dilyn gyrfaoedd llwyddiannus fel cyfansoddwyr proffesiynol, trefnwyr cerddoriaeth, cysodwyr cerddoriaeth, awduron, gweinyddwyr y celfyddydau, athrawon, ymgynghorwyr addysgol, perfformwyr a phobl fusnes.