Academydd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn ymddangos mewn rhaglen ddogfen a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough
Y llynedd, datgelodd adroddiad gan y Cenhedloedd Unedig fod tua miliwn o rywogaethau anifeiliaid a phlanhigion dan fygythiad o ddifodiant. Mae rhaglen newydd gan y BBC, Extinction: The Facts, yn mynd y tu hwnt i emosiwn i ymchwilio i'r hyn y mae colli a difodiant bioamrywiaeth yn ei olygu - nid yn unig i'r blaned ond i ni fel rhywogaeth. Â
Roedd Julia Jones, Athro Gwyddor Cadwraeth yn yr Ysgol y Gwyddorau Naturiol, yn ymddangos ymhlith rhai o brif wyddonwyr y byd yn y rhaglen hon a gyflwynwyd gan Syr David Attenborough. Â
Mae'r rhaglen yn datgelu sut y mae'r argyfwng hwn yn arwain at ganlyniadau i bob un ohonom, gan fygwth diogelwch bwyd a dŵr, lleihau ein gallu i reoli ein hinsawdd a hyd yn oed ein rhoi mewn mwy o berygl o glefydau pandemig. Mae'n archwilio'r hyn sy'n digwydd i'r byd naturiol - sut mae gweithgarwch dynol yn gyrru difodiant a pham nad ydym wedi gweithredu'n gynt i atal y colledion hyn. Gyda'r byd ar drobwynt critigol, mae Extinction: The Facts yn gofyn beth y gall llywodraethau, diwydiannau a ni fel unigolion ei wneud yn awr i newid ein hynt. Â
Dywedodd yr Athro Julia Jones:Â Â
"Roedd yn bleser bod yn rhan fach o Extinction: The Facts. Mae gwneuthurwyr y rhaglen wedi gwneud gwaith gwych o esbonio pa mor wael yw pethau i fioamrywiaeth ein planed, pam mae hyn yn bwysig i bob un ohonom, a beth sydd angen ei newid. Mae'r rhaglen yn egluro'n hyfryd yr holl gydgysylltiadau sydd yn ein byd naturiol a'n bod yn rhan o'r system honno.  Â
"Mae hon yn rhaglen hynod bwysig, a rhyfeddol o radical, sy'n ein gorfodi i wynebu gwirioneddau anodd: bod colli bioamrywiaeth ledled y byd yn gysylltiedig â'n gorddefnydd ein hunain. Mae'n dangos yn berffaith bod gwyddoniaeth cadwraeth yn bwnc rhyngddisgyblaethol sy'n gofyn am ddealltwriaeth o sŵoleg ac ecoleg ond hefyd yn ymgorffori dealltwriaeth o economeg, polisi a chyfraith.Â
"Byddwn yn annog ein holl fyfyrwyr a darpar fyfyrwyr i wylio'r rhaglen. Dyma'r cyflwyniad perffaith i'r cyrsiau cadwraeth rydym yn cynnig yma ym Mangor."Â Â
Derbyniodd Syr David Attenborough un o Raddau Anrhydeddus cyntaf Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ym mis Mehefin 2009 i nodi pen-blwydd y Brifysgol yn 125 mlwydd oed. Astudiodd tad Syr David yng Ngholeg Normal ym Mangor, a threuliodd y teulu lawer o wyliau teuluol yn yr ardal.Â
Darlledwyd Extinction: The Facts, rhaglen ddogfen awr ar gyfer BBC One, nos Sul 13 Medi, am 8pm. Â
Mae ar gael i'w wylio ar ÌýÌýÌýÌý