Cyhoeddi ymchwil canser yn Science Advances
Mae canser yn glefyd sydd wedi cyffwrdd â ni i gyd, ac er ein bod bellach yn gwybod llawer am sut mae canserau'n datblygu ac yn tyfu, mae gennym lawer i'w ddysgu o hyd.  Un o'r prif ffactorau yn natblygiad canser a’i ymwrthedd i driniaeth yw ansefydlogrwydd genomau. Yn ei hanfod, mae hyn yn cynnwys newidiadau cyson i DNA genomig celloedd, gan gynnwys newidiadau i lythrennau'r cod genynnol ynghyd â newidiadau mwy amlwg megis dileu cromosomau, neu hyd yn oed symud darnau mawr o DNA o un cromosom i'r llall. Mae gwaith Dr Chris Staples, sy’n Gymrawd Arweinydd y Dyfodol UKRI, yn labordy’r North West Cancer Research Institute (yn yr Ysgol Gwyddorau Meddygol ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É) yn canolbwyntio ar sut mae celloedd fel arfer yn atal ansefydlogrwydd genomau o'r fath rhag digwydd.
Mewn llawer o ganserau, ffenomen o'r enw straen dyblygiad yw’r rheswm dros yr ansefydlogrwydd hwn. Rhaid i bob cell ddyblygu ei DNA i'w rannu'n ddwy epilgell, ac nid yw celloedd canser yn eithriad yn hyn o beth - yn wir, maent yn rhannu'n gyflymach na chelloedd arferol. Defnyddir y term 'straen dyblygiad' i ddisgrifio unrhyw senario lle mae'r peirianwaith dyblygu DNA celloedd yn cael trafferth, a phan fydd hyn yn digwydd, bydd DNA yn cael ei ddifrodi a gall hynny arwain at ansefydlogrwydd genomau.
Pan fydd y peirianwaith dyblygu DNA yn rhoi’r gorau i weithio, mae'r DNA sydd newydd ei ffurfio yn agored i ensymau ymosod arno. Ensymau sy’n bwyta DNA yw’r rhain o'r enw niwcleasau, yn enwedig felly niwcleas o'r enw MRE11, sydd fel arfer yn trwsio DNA sydd wedi torri.
Fel rhan o ymchwil yn labordy Staples dan arweiniad Dr Laura Bennett gwelwyd bod protein o'r enw MRNIP hefyd yn amddiffyn y DNA sydd newydd ei ffurfio. Nid oes llawer o astudio wedi bod ar y protein hwn. Mae celloedd canser lle mae'r genyn MRNIP yn cael ei 'fwrw allan' gan dechnoleg CRISPR-Cas9 yn dangos lefelau uchel o ddifrod DNA, wedi ei achosi’n rhannol oherwydd i MRE11 ddiraddio’n ormodol y DNA sydd newydd ei ffurfio. Canfu'r ymchwilwyr fod MRNIP yn rhwymo i MRE11 ac yn gweithredu i ostwng pa mor gyflym y mae'n treulio DNA. Heb MRNIP, mae MRE11 yn diraddio'r DNA newydd hwn yn helaeth iawn, gan arwain at ddifrod DNA ac ansefydlogrwydd cromosomaidd.
Dywedodd Dr Staples, 'Rydym yn wirioneddol falch o'r gwaith hwn, sy'n tynnu sylw at bwysigrwydd rheoli gweithgarwch ensymau niwcleas fel rhan o swyddogaeth celloedd arferol. Mae ein celloedd yn llawn o'r mathau hyn o ensymau, ac mae'n dod yn gliriach mai dim ond gyda chymorth rhwydwaith o reoleiddwyr megis MRNIP y gallant gyflawni eu swyddogaethau buddiol - sy'n aml yn hanfodol ar gyfer bywyd. Dros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn ymchwilio i rôl MRNIP mewn nifer o ganserau, yn ogystal â cheisio nodi'r union fecanwaith y mae MRNIP yn ei ddefnyddio i reoleiddio swyddogaeth MRE11.'
Cyhoeddwyd yr astudiaeth hon yn .