Gwylio - Taith Pentref y Santes Fair
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn sefyll wrth fynedfa Pentref Santes Fair. Mae'r tai tref, y swyddfa' neuaddau, a'r maes parcio yn y cefndir.
[GWERN] Helo. Fy enw i ydi Gwern, a heddiw dwi am fynd a chdi ar daith o gwmpas pentref Santes Fair. Mae tua 600 o ystafelloedd yma, gyda rhan fwya’ yn en-suite. Ond mae hefyd fflatiau stiwdio ar gael.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae'r myfyriwr yn sefyll ac yn siarad o flaen wal frics tu allan i’r neuadd breswyl.
[GWERN]ÌýMae yna dai tref yma ac ystafelloedd fforddiadwy sydd yn rhannu ystafelloedd ymolchi.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae'r myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar fainc rhwng yr adeiladau llety gyda gwyrddni y tu ôl iddynt.
[GWERN]ÌýMae gwely bach dwbl ym mhob ystafell yma ym Mhentref Santes Fair heblaw am yr ystafelloedd fforddiadwy.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar ben Lôn Popty. Mae’r myfyriwr wedi'u hamgylchynu gan goed, dail yr hydref, a cheir wedi'u parcio.
[GWERN]ÌýMae pentref Santes Fair wedi’i leoli ar ben Lôn Bopty felly neith o ‘definitely’ gadw chi’n ffit.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen ffenestr fewnol yn un o neuaddau preswyl ÑÇÖÞÉ«°É, gyda golygfa o'r ddinas yn y cefndir.
[GWERN]ÌýOnd mae’r golygfeydd ar y top yn anhygoel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýGyda golygfa o dai tref Pentref Santes Fair yn y cefndir, mae’r myfyriwr yn siarad ac yn cerdded ar draws maes parcio’r pentref tuag at yr allanfa, sydd â gwyrddni o’i amgylch.
[GWERN]ÌýDa’ni mond 5 munud o gerdded o’r stryd fawr.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen mynedfa tafarn leol sydd yn ganol y dref, 5 munud oddi wrth y pentref myfyrwyr.
[GWERN]ÌýG’yno ni spoons!
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen siop tecawê leol, ‘Kebaby’, yng nghanol y dref.
[GWERN] G’yno ni ‘Kebaby’, baby! Pub arall!
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn sefyll o flaen arwydd tafarn. Gyda ‘The Harp Inn. Good Food. Real Ales. Free House.’ wedi ei ysgrifennu arno. Mae’r myfyriwr yn pwyntio at yr arwydd ac yn siarad.
[GWERN]ÌýMae 'na ddau siop!
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar y palmant ger goleuadau traffig gyda Lidl i'w weld yn y cefndir.
[GWERN]ÌýY ddau just 10 munud o gerdded o Santes Fair.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar lwybr wrth ffens gyda Asda i'w weld yn y cefndir.
[GWERN]ÌýA lle pizza ‘top notch’.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Myfyriwr yn sefyll o flaen bwyty lleol. Mae’r myfyriwr yn codi ei ddwylo tuag at yr arwydd ar ochr y bwyty sy’n darllen ‘Wood Fired Shack’. Adeilad Pontio yn fawr ac yn fodern, gyda myfyrwyr yn cerdded i lawr y grisiau ar ochr yr adeilad. Mae Prif Adeilad y Celfyddydau i'w weld yn y cefndir.
[GWERN]ÌýA da ni just chwarter awr o gerdded o Pontio a'r Prif Adeilad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen arwyddion ar safle Pentref Santes Fair. Mae’r arwyddion yn darllen ‘Cemlyn’, ‘Cybi’, ‘9-14 Ffordd Tudno’, a ‘Barlows’.
[GWERN] Mae’r adeiladau yma yn y prentref i gyd gyda enwau Cymraeg, fatha Cemlyn, Cybi neu Penmon, Dyma tŷ tref, gad ni fynd fewn.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn sefyll o flaen drws ffrynt tÅ· tref, sydd â'r rhif 07 wedi'i ysgrifennu ar y gwydr. Mae'r myfyriwr yn curo ar y drws, a myfyriwr arall yn agor y drws i adael y myfyriwr cyntaf i mewn i'r adeilad.
[DANIEL] "Croeso!
[GWERN] Helo! Dyma gegin tÅ· tref sydd cael ei rhannu rhwng 8 a 12 o bobl.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae dau fyfyriwr yn sefyll y tu allan i ddrws cegin y tŷ tref. Mae'r ddau yn mynd i mewn i'r gegin. Mae'r myfyriwr yn eistedd ar stôl yn y gegin gyda chypyrddau cegin, microdon, a sinc yn y cefndir. Clip byr o’r gegin tŷ tref yn dangos y cyfleusterau sydd ar gael. Mae dau fyfyriwr yn sgwrsio, wrth eistedd ar soffa werdd yn y gegin yn y cefndir.
[GWERN]ÌýMae Daniel yn hoffi’r llety yma oherwydd y preifatrwydd a’r adnoddau modern.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Dau fyfyriwr yn eistedd ar soffa werdd yn y gegin yn sgwrsio gyda'i gilydd.Ìý Ystafell wag yn un o'r Tai Tref gyda cwpwrdd dillad, gwely dwbl bach, wal werdd tu ol i'r gwely a dasg a fffenestr.
[GWERN]ÌýDyma ystafell wely mewn tÅ· tref. Mae o’n neis ac yn fawr hefo gwely dwbwl bach.ÌýDyma ystafell ymolchi sydd yn cael ei rannu rhwng 2.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y drws ystafell ymolchi. Mae'r gawod a thywel yn y cefndir.
[GWERN]ÌýDyma Bryn Eithin!
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar wal o flaen arwydd Bryn Eithin.
[GWERN]ÌýDyma lle mae opsiynau fforddiadwy pentref Santes Fair.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýCegin yn Bryn Eithin gyda cypyrddau modern gwyn, dau hob popty, dau sinc ac offer cegin.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae dau fyfyriwr yn eistedd wrth fwrdd mewn cegin ym Mryn Eithin ac mae un myfyriwr yn siarad ac yn wynebu’r camera. Gellir gweld golygfa o goed drwy’r ffenestr.
[GWERN]ÌýMae’r gegin yn lle gwych i gymdeithasu.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae drws ystafell wely yn agor gan ddatgelu myfyriwr arall a’i hystafell wely yn Bryn Eithin. Tu mewn i’r ystafell wely mae yna sinc wrth y drws, desg, silffoedd, gwely a ffenestr.
[GWERN] Dyma un o’r lloftydd fforddiadwy, gawni gael lwc. Helo.
[SHAILZA] Helo.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair ddesg gyda'i gefn i'r ddesg.
[GWERN] Gyda’r lloft yma, dachi yn rhannu ystafell ymolchi gyda gweddill y fflat. Mae pobl yn dewis yr opsiwn yma oherwydd bod o yn rhatach 'na rhai eraill, ac felly mae nhw medru mynd a gwario’r arian yn gwneud rwbath arall,
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn ystafell myfyriwr arall. Mae yna ddesg, cadair ddesg gyda blanced drosti, gwely, a ffenestr yn y cefndir.
[GWERN]Ìýac dwi meddwl fod hwn yn opsiwn rili dda.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll y tu allan i Barlows. Mae’r myfyriwr yn sefyll o dan yr arwydd sy’n darllen ‘Caffi a Siop Barlows Café and Shop’ ac i’r chwith o’r brif fynedfa. Mae’r myfyriwr yn codi eu dwylo i fyny tuag at yr arwydd.
[GWERN] Mae bob peth dachi angan yma. Mae Barlows yma! Sydd â Siop a Siop Goffi.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn Caffi a Siop Barlows yn pwyntio tuag at y siop yna y siop goffi.ÌýMyfyriwr yn eistedd yn ystafell gyffredin Barlows mewn cadair cyfforddus a llyrf yn ei ddwylo. Mae'r silffoedd yn y cefndir gyda llawer o lyfrau.
[GWERN]ÌýYstafell gyffredin.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn y golchdy yn Barlows. Mae’r myfyriwr yn cau drws y peiriant sychu dillad ac yn datgelu eu hwyneb wrth siarad.
[GWERN]ÌýGolchfa ddillad.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn sefyll y tu allan i ystafell gyfarfod. Mae’r arwydd ar y drws yn darllen ‘Ystafell 1/Meeting Room 1’.
[GWERN]ÌýYstafell gyfarfod.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd yn Ystafell Gyfrifiaduron Barlows. Mae’r myfyriwr eistedd ar y ddesg o flaen cyfrifiadur, gyda chyfrifiadur arall yn y cefndir.
[GWERN]ÌýYstafell gyfrifiaduron.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn sefyll y tu allan i'r ystafell dawel yn Barlows. Mae’r arwydd ar y drws yn darllen ‘Ystafell Dawel/Quiet Room’. Mae'r myfyriwr yn dod a'i law at ei geg fel arwydd o fod yn ddistaw.
[GWERN]ÌýYstafell dawel.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn sefyll tu allan i ddrws cegin y gellir ei bwcio yn Barlows. Mae’r arwydd ar y drws yn darllen ‘Cegin 2/Kitchen 2’.
[GWERN]ÌýCegin dachi’n gallu bwcio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýClip o'r gegin sydd ar gael i’w bwcio.
[GWERN]ÌýDyma Acapela, lle mae llawer o’r digwyddiadau cymdeithasol yn digwydd fel nosweithiau karaoke a ffilm,
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn sefyll yng nghanol Acapela gyda dau aelod o’r criw campws yn chwarae tenis fwrdd yn y cefndir.
[GWERN]Ìýac mae rhain i gyd yn cael eu trefnu gan y criw Campws Byw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMyfyrwyr gyda offer codi pwysau yn Platform 81.
[GWERN]ÌýFe gewch chi aeoldaeth am ddim i Ganolfan Brailsford,
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar un o’r peiriannau ymarfer corff yn yr ystafell ffitrwydd.
[GWERN]Ìýneu os ydych dod am un tawel yma, gewch ddod i’r ystafell ffitrwydd yma ar y safle. Mae’r fflatiau yn ddiogel iawn, ac gyda’ch cerdyn gallwch chi fynd fewn i’r fflat ac wedyn i’r lloft.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll o flaen drws gyda’i gerdyn personol yn eu llaw. Mae’r myfyriwr yn defnyddio eu cerdyn i ddatgloi drws y fflat a mynd i mewn.
[GWERN]ÌýMae hon yn gegin safonol yn y Santes Fair ac yn le gwych. Mae 'na ddigon o le i goginio, i fwyta a cymdeithasu yma.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn eistedd yng nghegin y fflat. Yn y cefndir mae cypyrddau'r gegin, sinc, tostiwr a chwpan.
[GWERN]ÌýYma, mae na fwrdd bwyta mawr a lle eistedd cyfforddus.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y gegin yn tynnu sylw at y gwahanol offer sydd ar gael yn y gegin. Mae'r gegin, offer, bwrdd bwyta a chadeiriau yn y cefndir. Mae'r camera yn symud i'r soffa werdd yn y gegin.
[GWERN]ÌýMae hefyd gofyn i chi ddod a cyllyll, ffyrc, llestri a pots and pans chi'ch hunain
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y gegin, yn pwyso yn erbyn arwyneb y gegin gyda'r cypyrddau, tegell a thostiwr yn y cefndir.
[GWERN] Mae bob un cegin yn cynnwys tostar, tegell, popty, microdon, bwrdd smwddio, hoover ac fridge freezer. Fyddwch chi yn cael cwpwrdd eich hyn, ac hefyd gewchi silff yn yn y ffrij ac silff yn y rhewgell hefyd.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae myfyriwr yn siarad ac yn cerdded o amgylch y gegin gan ddangos yr offer y gegin. Yn gyntaf, mae’r myfyriwr yn agor y cwpwrdd, wedyn yn cerdded tuag at y rhewgell ac oergell, ac yn agor drws yr oergell ac yna drws y rhewgell.
[GWERN]ÌýDyma ystafell wely arferol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll mewn ystafell wely gyda desg, cadair ddesg, droriau, pinfwrdd, gwely, a ffenestr yn y cefndir.
[GWERN]ÌýDachi’n gal gwely 4 troedfedd sef gwely dwbwl bach.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar wely'r ystafell. Yn y cefndir mae bwrdd wrth ochr y gwely, planhigyn, cwpan, a ffôn
[GWERN]ÌýMae desg, cadair a Wi-Fi yn cael ei gynnwys.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair ddesg werdd wrth ymyl desg yr ystafell wely ac yn defnyddio gliniadur gyda lamp ymlaen yn y cefndir.
[GWERN]ÌýSilff llyfrau ac bin gwastraff.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn rhoi taith o amgylch yr ystafell wely, gan egluro'r hyn sydd wedi'i gynnwys yn y pris. Yn gyntaf, mae'r myfyriwr yn pwyntio tuag at y silff lyfrau a'r bin, yn dangos y gofod storio o dan y gwely, yn agor y cwpwrdd dillad, ac yn pwyntio tuag at y pinfwrdd ar y wal.
[GWERN] Dror storio o dan y gwely. A wardrobe. Fydd rhaid i chi ddod a dillad gwely eich hunain ac gewchi roi posteri eich hunain i fynu fan hyn i neud y lle yn gartrefol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn gorwedd ar ei ochr ar y gwely yn yr ystafell wely, gyda'r gliniadur o'i flaen ar y gwely.
[GWERN]ÌýOs dachi’n bwriadu gwylio teleu byw cofiwch rhaid i chi gael trwydded teledu,
[04:25:00] ond mae croeso i chi ddod a unrhyw consoles neu unrhyw beth felna. Cofiwch ma'na rhai petha dachi ddim yn cael dod efo chi, ond mae 'na restr ar wefan y Brifysgol. A dyma’r en-suite.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn nrws yr en-suite. Mae’r myfyriwr yn gafael yn yr handlen ac yn agor y drws. Mae’r camera yn symud o gwmpas i ddangos gweddill yr ystafell ymolchi.
[GWERN]ÌýMae myfyrwyr yn gyfrifol am lanhau ei lloft, ei bathroom a y lle cyffredinol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yng nghyntedd y fflat, tu allan i’r ystafelloedd gwely, gyda mynedfa un o’r fflatiau yn y cefndir.
[GWERN] Er hyn, mae na clearners yn dod mewn unwaith yr wythnos, er dydi nhw ddim yn gwneud eich llestri ond mae nhw’n gwneud yr ochre, sincs, a’r llorie i gyd. Fydd eich biniau sbwriel ac ailgylchu hefyd yn cael eu gwagio unwaith yr wythnos
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll wrth y biniau ailgylchu gyda ffenestr yn y cefndir.
[GWERN]ÌýOs dewiswch stiwdio, mae petha chydig yn wahanol.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i fflat stiwdio sydd â drws piws. Mae’r myfyriwr yn curo ar y drws ac mae'r preswylydd yn agor y drws ac yn gadael y myfyriwr i mewn.
[GWERN]ÌýMae yna 4 math, gyda’r un yma yn siwdio ‘deluxe’. Gad i ni gael lwc. Helo.
[ELLA] Helo.
[GWERN]ÌýMae’r un-un eitemau yn y gegin yma a’r cegin cynt ond yr unig wahaniaeth ydi does ‘na ddim ‘cleaner’ yn dod.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýClip o’r fflat stiwdio. Mae'n dangos y gegin, teledu, desg, gwely, a soffa lle mae'r ddau fyfyriwr yn eistedd ac yn sgwrsio.
[GWERN]ÌýUn o’r rhesymau roedd Ella isho byw yn y stiwdio oedd i gael cegin preifat.
[DISGRIFIAD GWELEDOL] Mae dau fyfyriwr yn siarad wrth eistedd ar y soffa yn y fflat stiwdio. Mae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn nrws yr en-suite. Mae’r myfyriwr yn gafael yn yr handlen ac yn agor y drws. Mae’r camera yn symud o gwmpas i ddangos gweddill yr ystafell ymolchi.
[GWERN] Ac mae ‘na en-suite yn bob un o’r siwdios. Mae contract yn 42 wythnos i is-raeddigoedd, ac 51 i ôl-raddedigion
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd ar gadair goch yn y Swyddfa Neuaddau. Yn y cefndir mae'r dderbynfa a'r staff.
[GWERN]ÌýFydd eich ffioedd yn cynnwys eich stafell, eich billiau i gyd, yswiriant cynnwys, aelodaeth i’r gampfa yn Brailsford
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll ar ben grisiau yn yr awyr agored.
[GWERN]Ìýac ar yr safle yma ac hefyd Campws Byw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i sied feiciau ar y safle.
[GWERN] Gewchi gadw eich beic yma am just £20 am y flwyddyn cyfan. Dyma swyddfa neuaddau lle byddech chi yn dod i bigo fynu eich post ac yn rhoi gwybod am unrhyw faterion cynnal a chadw.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll yn y Swyddfa Neuaddau, yn pwyso yn erbyn desg y dderbynfa. Mae’r arwydd yn y dderbynfa yn darllen ‘Croeso / Welcome’. Yn y cefndir, mae parseli, cardiau cyfarch, a chyfrifiaduron.
[GWERN]ÌýFyddwch yn teimlo yn ddiogel iawn yma gyda diogelwch 24-awr.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll tu allan i'r swyddfa ddiogelwch. Mae’r camera yn symud drosodd i weld y swyddog diogelwch yn chwifio.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae'r myfyriwr yn eistedd ar soffa goch a llwyd.
[GWERN] Os oes gennych unrhyw problemau mae mentoriaid hefyd yn byw yn neuaddau lle gallwn nhw helpu chi. Mae nifer cyfyngedig o lefydd parcio yma lle os hoffech chi barcio yma fydd rhaid i chi gael permit,
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn eistedd mewn car glas ym maes parcio Pentref Santes Fair gyda ffenestr ochr y gyrrwr i lawr. Mae ceir eraill yn y cefndir.
[GWERN]Ìýond peth da yma ym Mangor ydi mae’n ddigon hawdd i gerdded i pob man.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýMae myfyriwr yn siarad ac yn sefyll wrth fynedfa maes parcio Pentref Santes Fair. Mae ceir yn y maes parcio a chymysgedd o adeiladau hÅ·n a modern yn y cefndir.
[GWERN] Gobeithio eich bod wedi mwynhau y daith heddiw. Os oes gennych unrhyw fwy o gwestiynnau cofiwch allwch fynd ar dudalen cwestiynau cyffredin ar wefan Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, neu cysylltu â neuaddau@bangor.ac.uk.
[DISGRIFIAD GWELEDOL]ÌýLogo Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Cyfleusterau ym Mhentref y Santes Fair
- Uwch Wardeniaid a Mentoriaid Preswyl
- Diogelwch 24/7
- Mynediad cerdyn/allwedd diogel
- Barlows
- ³§¾±´Ç±èÌý
- Parcio cyfyngedig (angen trwydded)
- Ystafell ffitrwydd
- Ystafell gyfrifiaduron
- Ardal awyr agored ar gyfer BBQ a gemau
- Wi-Fi cyflym
- Ystafelloedd cyffredin
- Ystafell sinema
- Golchdy
Ìý - Raciau beiciau (am ddim), storfa beiciau dan do (£20)
MEWN SAFLE CYFLEUS SY'N EDRYCH DROS FANGOR
St Mary’s Quad - ÑÇÖÞÉ«°É
Amser cerdded bras o Bentref y Santes Fair i:
- Prif adeilad y Celfyddydau – 15 munud o gerdded (ÑÇÖÞÉ«°É Uchaf)Ìý
- Gwyddorau Iechyd – 15 munud o gerdded (Fron Heulog, ÑÇÖÞÉ«°É Uchaf) Ìý
- Llyfrgell Gwyddorau a'r LlyfrgellÌý – 10 munud o gerdded (Ffordd Deiniol, canol y ddinas)Ìý
- Cyfrifiadureg a Pheirianneg – 15 munud o gerdded (Stryd y Deon, canol y ddinas)Ìý
- Ysgol Busnes – 15 munud o gerdded (ÑÇÖÞÉ«°É Uchaf)Ìý
- Gwyddorau Eigion – 1 awr o gerdded (Porthaethwy)Ìý
- Pontio – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)Ìý
- Morrisons – 15 munud o gerdded (ÑÇÖÞÉ«°É Uchaf)Ìý
- Asda – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)Ìý
- Lidl – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)Ìý
- M&S – 10 munud o gerdded (canol y ddinas)Ìý
- Iceland – 40 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)Ìý
- Farmfoods – 30 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)Ìý
- Aldi – 40 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)Ìý
- Tesco – 45 munud o gerdded (Ffordd Caernarfon)Ìý
- Waitrose – 1 awr o gerdded (Porthaethwy)
- Siop gyfleus Pentref y Santes Fair – ar y safle
- Stryd Fawr – 10 o gerdded (canol y ddinas)Ìý
- Siopau tu allan i'r ddinas – 30 o gerdded (Ffordd Caernarfon)Ìý
- Bar Uno – 15 o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
- Academi – 10 o gerdded (canol y ddinas)Ìý
- Mae bariau, tafarndai a chlybiau eraill wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf a chanol y ddinas.
- Ystafell fitrwydd Pentref y Santes Fair – ar y safle
- Canolfan Chwaraeon Brailsford – 15 munud o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
- Caeau chwaraeon Treborth – 50 munud o gerdded (wedi eu lleoli wrth Pont Menai)Ìý
- Barlows shop and caféÌý– ar y safle
- Bar Uno - 15 munud o gerdded (Pentref Ffriddoedd)
- Caffi Cegin - 10 munud o gerdded (Pontio, canol y ddinas)Ìý
- Caffi Teras - 15 munud o gerdded (Prif Adeilad y Celfyddydau, ÑÇÖÞÉ«°É Uchaf)ÌýÌý
- Caffis lleol wedi eu lleoli ym Mangor Uchaf, canol y ddinal ac ym Mhorthaethwy.
- 10 munud o gerdded (canol y ddinas)ÌýÌý
- 20 munud o gerddedÌý(ÑÇÖÞÉ«°É Uchaf)
- 30 munud o gerddedÌý(Ffordd Caernarfon)
- 1 awr o gerdded (Porthaethwy)Ìý
- Meddygfa – 15 o gerdded (yn agos at ganol y ddinas)
- Fferyllfa - 10 o gerddedÌý(canol y ddinas)
- Ysbyty – 45 o gerdded (Penrhosgarnedd)
- Bws - 10 munud o gerdded
- Gorsaf Drenau – 10 munud o gerdded
- Tacsis - 10 munud o gerdded (canol y ddinas neu gorsaf drenau)
CYMRWCH DAITH RITHIOL O BENTREF Y SANTES FAIR
Archwiliwch Bentref y Santes Fair o gysur eich soffa. Am brofiad cwbl ymdrochol, defnyddiwch eich penset VR a'i wylio ar sgrin lawn. Defnyddiwch y saethau cyfeiriadol i edrych o gwmpas a'r eicon chwyddo i gael golwg agosach. Mae'r eicon cartref yn mynd â chi'n ôl i'r man cychwyn. Os oes taith dywysedig ar gael, defnyddiwch y botwm chwarae i’w dechrau.
Camau Nesaf
Gwybodaeth Bwysig am Neuaddau
Mae'r wybodaeth a gyflwynir ar y dudalen hon ynglŷn ag opsiynau llety'r Brifysgol, gan gynnwys disgrifiadau, ffotograffau, cynlluniau llawr, a chyfleusterau, wedi'i bwriadu fel canllaw cyffredinol a gall fod yn destun newid. Er bod pob ymdrech yn cael ei wneud i sicrhau cywirdeb y wybodaeth, nid yw'r Brifysgol yn gwarantu ei bod yn gyflawn nac yn gyfredol. Mae argaeledd llety, nodweddion penodol, a chyfraddau rhent yn destun newid heb rybudd. Anogir darpar breswylwyr i gysylltu â'r Swyddfa Neuaddau yn uniongyrchol i gadarnhau manylion penodol ac argaeledd cyn gwneud unrhyw benderfyniadau. Mae'r Brifysgol yn cadw'r hawl i ddiwygio neu dynnu opsiynau llety yn ôl yn ôl ei disgresiwn.