Byddwn yn e-bostio'r holl wybodaeth y byddwch ei hangen atoch pan fydd y system llety yn agor fel isod;
- Derbyniad mis Medi - system yn agor ddiwedd mis Ionawr
- Derbyniad mis Ionawr - system yn agor ganol mis Tachwedd
Oes - mae gennym lefydd penodol i ôl-raddedigion mewn neuaddau preswyl.Ìý
Mae'r Brifysgol yn sicrhau ystafell i fyfyrwyr rhyngwladol sy'n gwneud cais llety ac yn cael ei wneud yn ddi amod erbyn 7 Awst.Ìý
Ìý
Yn anffodus, ni allwn ond darparu ar gyfer myfyrwyr cofrestredig llawn-amser mewn neuaddau oherwydd rheoleiddio'r Dreth Gyngor.
Mae llety i ôl-raddedigion ar gael ar gytundeb 12 mis. Cewch wybod yr union ddyddiadau yn eich Cytundeb Preswyl.Ìý
Byddem yn rhoi'r cyfle iÌý drosglwyddo ystafelloedd ychydig o wythnosau arÌýôl dechrau'r tymor. Fodd bynnag, nid ydym yn gallu sicrhau bydd eich dewis o lety ar gael.
Ìý
Mae Swyddfa Tai Myfyrwyr y Brifysgol ar wahân i'r Swyddfa Neuaddau; mae'nÌý cadw cronfa ddata o lety preifat ac yn rhoi gwybodaeth a chymorth. Mae'r swyddfa yn Neuadd Rathbone, ac mae ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 9am a 5pm.Ìý
Ffôn: 44 (0)1248 382034ÌýÌýÌýÌýÌý
E-bost:ÌýÌýstudenthousing@bangor.ac.uk
Os oes gennych anabledd sy'n effeithio ar y math o lety rydych ei angen, cysylltwch â ni i drafod yr opsiynau sydd ar gael.Ìý
Defnyddir gwybodaeth am anableddau at ddibenion pennu llety addas yn unig.Ìý Ni allwn warantu y bydd cyfleusterau addas ar gael. Rydym yn annog myfyrwyr sydd ag anableddau, gan gynnwys anableddau 'cudd', fel epilepsi neu glefyd siwgr, i gysylltu â'r cynghorwr anabledd ar y rhif ffôn:Ìý 44 (0)1248 382032 neu e-bost:Ìýgwasanaethanabledd@bangor.ac.ukÌýBydd y cynghorwr yn gallu trafod unrhyw anghenion am gymorth a fydd gennych, yn ogystal â'ch cymhwyster ar gyferÌý cyllid ychwanegol.Ìý
Ìý
Ar hyn o bryd, nid yw'r Brifysgol yn berchen ar nac yn rheoli llety ar gyfer teuloedd. Os ydych yn fyfyriwr sydd yn dod i Fangor gyda'ch teulu, dylech gysylltu gyda Swyddfa Tai Myfyrwyr am gymorth gyda rhentu llety pwrpasol yn y sector breifat.Ìý
Swyddfa Tai Myfyrwyr -ÌýÌýtaimyfyrwyr@bangor.ac.ukÌý+44 (0)1248 382034Ìý
Mae gan y Swyddfa Tai Myfyrwyr fwy o gyngor a gwybodaeth.
Gan fod prinder llety teuluol ar gael ym Mangor ar hyn o bryd, rydym yn eich cynghori'n gryf i deithio i'r DU yn unig a dod â'ch teulu draw i ymuno â chi ar ôl i chi ddod o hyd i lety addas.
Na fydd. Ni fydd y neuaddau'n barod cyn y dyddiad a nodir yn y manylion cyrraedd.Ìý
Os ydych yn dymuno aros yng Ngogledd Cymru cyn y dyddiad cyrraedd a roddwyd i chi, cysylltwch â Thwristiaeth Gogledd Cymru ar +44 (0) 1492 531731 neuÌýÌýam fanylion llety a gymeradwyir gan Fwrdd Croeso Cymru.ÌýMae gan y Brifysgol neuadd tymor byr ym Mhentref Ffriddoedd, cysylltwch â swyddfa'r neuaddau drwy e-bostio neuaddau@bangor.ac.uk i wneud ymholiadau pellach a gwirio argaeledd.
Os byddwch yn cyrraedd yn hwyr mae'n RHAID i chi roi gwybod i'r Swyddfa Neuaddau. Mae ffioedd yn daladwy o ddechrau'r Cytundeb Preswylio yn mhob achos.ÌýÌý
Nac oes. Yn anffodus, ni allwn gynnig storio unrhyw beth yn ystod y gwyliau.Ìý
Ìý
Nid oes llawer o le i gadw pethau mewn ystafelloedd myfyrwyr mewn unrhyw brifysgol. Rydym yn argymell eich bod yn dod â'r pethau yr ydych yn eu hystyried yn hanfodol y unig. Os anghofiwch unrhyw beth, mae digon o siopau ym Mangor. Dyma rai pwyntiau allweddol:-Ìý
- Ni ddarperir dillad gwely, ond gallwch brynu pecynnau dillad gwely pan gyrhaeddwch (duvet, gorchudd duvet, cynfas, gobennydd a gorchudd gobennydd).Ìý
- Bydd angen Tystysgrif Prawf Offer Cludadwy ar gyfer offer trydanol sydd dros flwydd oed.Ìý
- Mae'n ddrwg gennym nad oes lle ar gael i gadw eiddo dros ben neu fagiau mawr.Ìý
- Bydd myfyrwyr hunanarlwyo angen dod â llestri, sosbenni a chyllyll a ffyrc gyda nhw, oherwydd ni ddarperir y rhain.Ìý
Mae synnwyr digrifwch, goddefgarwch tuag at gymdogion a pharodrwydd i roi cynnig ar bethau newydd, gan gynnwys dechrau sgyrsiau gyda dieithriaid llwyr, i gyd yn ddefnyddiol.Ìý
Mae pob ystafell wedi'i chysylltu â'r rhyngrwyd ac mae'r gost am ddefnyddio'r rhyngrwyd yn cael ei gynnwys yn y ffioedd Neuaddau.Ìý
Mae croeso i chi ddod â theledu gyda chi ond byddwch angen eich trwydded eich hun.Ìý Ni allwn sicrhau y bydd derbyniad da ym mhob un o'n hystafelloedd ac nid ydym fel rheol yn darparu cyswllt erial.ÌýÌý Bydd angen i chi gael erial i'w ddefnyddio i mewn bron bob amser. Mae llawer o fyfyrwyr yn dewis gwylio teledu drwy eu cyfrifiaduron. Sylwer, o 1 Medi 2016 mae newid yn y gyfraith yn golygu bod angen cael trwydded deledu i lawrlwytho neu wylio rhaglenni BBC ar alw ar iPlayer y BBC.Ìý Gweithredir hyn yn achos unrhyw declynnau, yn cynnwys teledu clyfar, cyfrifiadur bwrdd gwaith neu liniadur, ffôn symudol, tabled, bocs digidol neu gonsol gemau. Cewch ragor o wybodaeth am yr amrywiaeth o wasanaethau teledu byw sydd ar gael ar ResNetÌý
Ìý
Gallwch fel rheol.Ìý Mae manylion ynghylch sut i gysylltu dyfeisiau eraill heblaw eich cyfrifiadur â ResNet ar gaelÌýÌý
Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath yn y neuaddau.Ìý
Mae nifer cyfyngedig o drwyddedau meysydd parcio ar gael ar gyfer parcio ar y safle (gwnewch gais yn bersonol wrth Gofrestru). Fel arall, bydd rhaid i chi barcio ar y stryd, yn aml peth pellter o'ch neuadd. Mae ychydig o lefydd ar gael i gadw beiciau, OND ni ddylid cadw beiciau mewn neuaddau, gan gynnwys eich ystafell wely. Mae yna raciau beiciau y tu allan i nifer o neuaddau. Mae gennym hefyd nifer cyfyngedig o leoedd o fewn siediau beic gorchuddiedig ar bob un o'n pentrefi myfyrwyr. Bydd myfyrwyr yn gallu archebu ymlaen llaw a phrynu allwedd ar gyfer y siediau beiciau dan do cyn cyrraedd drwy ein siop ar-lein. Y gost yw £20 am y flwyddyn. Os byddwch yn cwblhau eich archeb cyn i chi gyrraedd ÑÇÖÞÉ«°É, bydd allwedd sied y beic yn cael ei rhoi i chi gyda mynediad allweddol eich ystafell. Fodd bynnag, gellir gwneud hyn ar ôl i chi gyrraedd os yw'n well gennych neu os nad oes gennych eich beic eto. Fodd bynnag, byddwch yn ymwybodol mai dim ond ychydig o leoedd sydd gennym ar y ddau bentref.
Oes, mae ychydig o bethau na chaniateir: Peidiwch â dod â gwresogyddion, canhwyllau, lampau olew, ffyn arogldarthau, offer coginio trydanol nac oergelloedd i'w defnyddio yn eich ystafell wely. Cewch ddod ag oergell fechan at ddibenion meddygol yn unig. Cysylltwch â'r Swyddfa Neuaddau i gael caniatâd. Peidiwch â dod ag arfau o unrhyw fath - dim replica hyd yn oed. Peidiwch â dod â dodrefn, e.e. gwely, wardrob neu gadair freichiau - fyddan nhw ddim yn ffitio! Ni chaniateir anifeiliaid anwes o unrhyw fath. Mae hyn yn cynnwys pysgod.
Mae'r Brifysgol wedi trefnu yswiriant cynnwys sylfaenol ganÌýCover4insurance
Mae'r myfyrwyr yn gyfrifol am ymddygiad unrhyw un o'u hymwelwyr i'r neuadd. Caniateir un ymwelydd dros nos am hyd at 2 ddiwrnod ar y mwyaf mewn unrhyw gyfnod o 7 niwrnod.Ìý Disgwylir i ymwelwyr gysylltu â'u cyd-breswylwyr a'u cymdogion cyn gwahodd gwesteion, a rhaid cofrestru bob gwestai.Ìý
Mae gan neuaddau Uwch Wardeiniaid ac Wardeiniaid ar alwad i'ch helpu chi. Yn yr Wythnos Groeso, bydd arweinwyr cyfoed myfyrwyr ar gael i'ch cynorthwyo hefyd. Gall y Swyddfa Neuaddau helpu gydag unrhyw broblemau'n ymwneud â'ch taliadau ystafell neu ffioedd. Bydd arweinwyr cyfoed ac aelodau o dîm y Warden ar gael pan fyddwch yn cyrraedd.Ìý
Cysylltwch yn uniongyrchol â'r Swyddfa Neuaddau.Ìý
- Ffôn: 44 (0)1248 382667Ìý
- E-bost:ÌýÌýneuaddau@bangor.ac.ukÌýÌýÌýÌýÌýÌý
RHOWCH EICH RHIF MYNEDIAD PRIFYSGOL BOB AMSER GYDAG UNRHYW YMHOLIAD.
Arweiniad Cam-wrth-Gam Gwneud Cais am Lety
Os ydych wedi dewis ÑÇÖÞÉ«°É fel eich Dewis Cadarn, byddwch yn derbyn e-bost gan y Tîm Neuaddau Preswyl gyda linc i ddewis eich ystafell mewn Neuadd. Cymrwch olwg ar ein harweiniad cam-wrth-gam ar sut i wneud cais ar-lein am lety.