ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Tirfeddianwyr Benywaidd Gogledd-ddwyrain Cymru

Prosiectau Doethurol

Teitl y prosiect: 'The landowning and landholding women of north-east Wales from ca. 1600 to 1800'

Ymchwilydd Doethurol: Lizzy Walker

Goruchwylir gan: Dr Shaun Evans a Dr Mari Wiliam

Cefnogir yr ymchwil gan: Ysgoloriaeth a Ariennir gan HEFCW, Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Ymddiriedolaeth James Pantyfedwen.

Mae ymchwil Lizzy yn ymchwilio i rolau a phrofiadau merched oedd yn dirfeddianwyr ac yn dal tir yng ngogledd ddwyrain Cymru o c. 1600 hyd 1800 i ymchwilio i'w lle ym myd amaeth. Bydd yr ymchwil yn archwilio rolau merched, natur a’r graddau yr oeddent yn ymwneud â rheoli a gwella tir, yn ogystal â gweithgarwch amaethyddol cyffredinol, a sut y newidiodd y rolau hyn, a dyfnder y cyfranogiad, dros amser.  Bydd hi'n dangos, er bod newid wedi digwydd, bod yna barhad hefyd.  Bydd hi hefyd yn dangos nad oedd cyfranogiad, nodau ac amcanion merched a oedd yn berchen ar dir ac yn dal tir yn wahanol i gyfranogiad, nodau ac amcanion eu cymheiriaid gwrywaidd.

Hen lun du a gwyn o menyw a ddwy ferch gyda ci a sawl ieir

Mae Lizzy yn defnyddio papurau stadau, dogfennau profiant a chofnodion Llys y Sesiwn Fawr a Llys Chwarter ar gyfer ei hymchwil, gyda phob casgliad yn ffurfio pennod.  Mae hi wedi dewis canolbwyntio ar fathau penodol o ddogfennau er mwyn sicrhau y ceir ymdriniaeth o ogledd ddwyrain Cymru yn ei gyfanrwydd, yn hytrach na thuedd tuag at rai ardaloedd.   Mae hynny’n golygu y gellir cymharu ardaloedd yr ymchwil, i amlygu cymhlethdodau o ran parhad a newid dros amser.  Drwy ddefnyddio mathau penodol o ddogfennau, mae hi hefyd yn creu fframwaith sy’n amlygu’r setiau o ddogfennau y gellir eu defnyddio, a sut i’w defnyddio, i wneud ymchwil yn y dyfodol i ferched a oedd yn berchen ar dir ac yn dal tir yng Nghymru.  Mae hyn oherwydd bod ei hymchwil yn ceisio annog datblygu hanesyddiaethau newydd ar hanes merched yng Nghymru, gan alluogi astudiaethau cymharol i ddigwydd ledled Cymru ac yn fyd-eang.

Gweithgarwch diweddar: Papur o'r enw 'Landowners and estate management on the Wales-England border: The women of Croes Howell estate, Denbighshire in the 18th century’ yn y Gynhadledd Ôl-radd Hanes Cymru, ym mis Mawrth 2024, ym Mhrifysgol Caerdydd.