ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Lizzy Walker

Ymchwilydd Doethurol

O ble ydych chi'n dod a ble rydych chi wedi'ch lleoli nawr? Rwy'n wreiddiol o gymuned ffermio fechan ger Llangollen, ond rydw i bellach yn byw ychydig y tu allan i Wrecsam. 

Beth yw pwnc eich project ymchwil doethurol? Mae fy mhroject ymchwil yn edrych ar gyfranogiad merched oedd yn berchen neu’n dal tir yng ngogledd-ddwyrain Cymru o 1600 i 1800, gyda phwyslais ar eu gwaith rheoli a gwella tir ac amaethyddiaeth. Dechreuais fy PhD gyda Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru ym mis Hydref 2022, ond fi oedd intern cyntaf erioed y Sefydliad yn 2018 hefyd.

Beth yw eich prif ddiddordebau ymchwil? Hanes merched, hanes Cymru, amaethyddiaeth, merched cefn gwlad, hanes cymdeithasol.

Dywedwch wrthym am eich gyrfa hyd yn hyn a beth a'ch arweiniodd at Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru a'ch project ymchwil doethurol? Ar ôl i mi adael y Post Brenhinol yn 2017, penderfynais ei bod hi’n amser mynd i’r brifysgol (ar ôl blynyddoedd o wrthod cydymffurfio â dymuniadau fy nheulu).  Astudiais hanes Cymru gydag archaeoleg ym Mangor ar lefel israddedig.  Yn ystod fy ngradd israddedig y sylweddolais nad oedd llawer wedi'i ysgrifennu ar hanes merched yng Nghymru.  Fe wnaeth hyn, ynghyd â sylweddoli fy mod i’n caru academia ac eisiau addysgu mewn Addysg Uwch, wneud i mi ganolbwyntio fy ymchwil ar hanes merched yng Nghymru, yn enwedig cyfranogiad merched mewn amaethyddiaeth.  Ar ôl fy ngradd israddedig, astudiais radd Meistr mewn hanes Cymru ym Mangor, a ddefnyddiais i osod y sylfeini ar gyfer fy ymchwil PhD ac ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru.

Ymchwilydd Doethurol Lizzy yn sefyll o flaen baner ISWE.

Beth yw eich hoff beth am Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru neu fod yn ymchwilydd doethurol? Fy hoff beth am y Sefydliad yw’r garfan o ymchwilwyr doethurol a’r digwyddiadau y mae’r Sefydliad yn eu cynnal drwy gydol y flwyddyn.  Mae’r digwyddiadau bob amser yn hwyl, ac mae’n rhoi’r cyfle i ni ddal i fyny â’n gilydd a’n projectau, gan ddarparu rhwydwaith cefnogaeth gwych.

Beth yw’r hyn yr ydych wedi’i gyflawni yr ydych fwyaf balch ohono ers ymuno â Sefydliad Ymchwil Ystadau Cymru? Eleni rhoddais bapur mewn cynhadledd ôl-radd hanes Cymru yng Nghaerdydd.  Roedd gallu rhannu fy ymchwil ac arwyddocâd tirfeddianwyr ymhlith y gymuned academaidd yng Nghymru yn wych, ac roedd yr ymateb cadarnhaol gan y gymuned academaidd i’m hymchwil yn galonogol iawn.

Beth yw eich hoff gyfnod hanesyddol a pham? Fy hoff gyfnod hanesyddol yw'r ail ganrif ar bymtheg.  Hoffwn ddweud ei fod oherwydd ei fod yn gyfnod hynod ddiddorol o newid a helbul, ond mae’n llythrennol oherwydd bod gennyf ymlyniad rhyfedd, anesboniadwy i'r cyfnod.

Eich hoff le yng Nghymru a pham? Does dim un lle sy'n sefyll allan - fy hoff lefydd i yw i fyny yn unrhyw un o fynyddoedd Cymru ac ar y rhostir.  Gallwch ddod o hyd i dawelwch nad ydych chi'n ei ddarganfod yn unman arall, ac fe wnes i dyfu i fyny yn cerdded y bryniau a'r gweunydd yn hel defaid felly mae gen i gyswllt naturiol â'r ucheldiroedd.

Allwch chi argymell unrhyw lyfrau, sioeau teledu, podlediadau, blogiau rydych chi wedi'u mwynhau yn ddiweddar? Yn anffodus, dydw i ddim yn un am raglenni teledu, podlediadau, neu flogiau.  Ond fy hoff ddarlleniad yn ddiweddar oedd ‘Elite Women and the Agricultural Landscape’ gan Briony McDonagh, 1700-1830.  Byddwn yn ei argymell yn fawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn perthynas merched â thir â rheoli ystadau ac amaethyddiaeth.

Beth yw eich hobïau neu eich hoff weithgareddau allgyrsiol? Oes gennych chi unrhyw brojectau diddorol eraill ar y gweill? Ar wahân i fy PhD, rwy’n aelod o bwyllgor blodau Eisteddfod Ryngwladol Llangollen, felly rydw i’n treulio llawer o amser yn helpu i drefnu digwyddiadau codi arian amrywiol, yn ogystal â’r sefydlu a’r cynnal a chadw ar gyfer wythnos graidd yr Eisteddfod.  Fy menter ddiweddaraf ar gyfer y pwyllgor blodau yw gwneud cardiau croesbwyth blodau.  Rwyf hefyd yn ceisio cefnogi a chymryd rhan mewn projectau cymunedol a gynhelir gan Hwb Pentredwr (fy ffefryn oedd creu delwedd ffelt o'r tai lleol).  Ar hyn o bryd, rwyf hefyd wrthi’n trawsgrifio detholiad o ddogfennau hanesyddol ar gais perchennog preifat, ac yn wastad yn ceisio cynorthwyo unigolion gydag ymchwil hanes teuluol.  Mae gweddill fy amser yn cael ei dreulio gyda fy nau blentyn, sydd wrth eu bodd yn mynd i gerdded ac archwilio llefydd hanesyddol gyda mi.

Cysylltwch â Lizzy: 

hiuab2@bangor.ac.uk