|
|||
|
Prif |
Eilaidd |
|
Colofnau Strategol: |
Rhagoriaeth ymchwil |
|
ü |
Addysg drawsnewidiol |
|
ü |
|
Y Gymraeg a diwylliant Cymru |
|
ü |
|
|
|||
Themâu trawsnewidiol: |
Effaith economaidd, gymdeithasol a dinesig |
|
ü |
Ymgysylltu byd-eang |
|
ü |
|
Ein pobl |
ü |
|
|
|
|||
Yn sail i hyn oll mae… |
Cynaliadwyedd sefydliadol |
|
ü |
|
|
Risg gorfforaethol 3 |
Colli profiad o ansawdd uchel i fyfyrwyr |
Risg gorfforaethol 15 |
Annigonolrwydd o ran cyfeiriad strategol sefydliadol |
Risg gorfforaethol 23 |
Morâl isel ymysg staff |
Risg gorfforaethol 27 |
Effeithiolrwydd gweithredol gwael |
|
|
Cyfnod y strategaeth |
2024-2030 |
Trefniadau adolygu’r strategaeth |
Caiff y strategaeth ei hadolygu'n flynyddol gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Lles ac adroddir y canlyniadau i'r Bwrdd Gweithredol. |
Adolygwyd ddiwethaf |
Adolygwyd a chymeradwywyd y strategaeth ddiwygiedig hon gan y Bwrdd Gweithredol ym mis Mai 2024. |
|
Mae twf a llwyddiant y sefydliad yn dibynnu ar ennyn lefelau uchel o ymgysylltiad a pherfformiad ymhlith y staff, sydd yn eu tro yn arwain at brofiad myfyrwyr o ansawdd uchel. Er mwyn cyflawni'r amcan hwn, rhaid i ni greu a chynnal diwylliant ac amgylchedd gwaith sy'n caniatáu i'n pobl ffynnu. Byddwn yn gwneud hyn trwy eu cefnogi i gyflawni eu potensial a chreu’r amodau iddynt allu perfformio ar y lefel uchaf. Byddwn yn darparu cyfleoedd datblygu a chefnogaeth i sicrhau bod ein staff yn cael pob cyfle i deimlo ymroddiad a chymhelliant a deall gwerthoedd, ymddygiad a phwrpas cyffredin y sefydliad. Er mwyn creu'r amgylchedd hwn, mae arweinyddiaeth a rheolaeth drawsnewidiol yn hanfodol. Yn sail i hyn, byddwn yn creu diwylliant o ymddiried a thryloywder, wedi ei atgyfnerthu gan gyfathrebu effeithiol ac amserol gan Fwrdd Gweithredol y brifysgol ac uwch dimau arwain. Ein nod yw hyrwyddo amgylchedd cynhwysol lle mae pawb yn teimlo eu bod yn gallu cymryd rhan a chyflawni eu potensial. Mae ein hymrwymiad i gydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant yn allweddol i'n cynaliadwyedd a'n llwyddiant hirdymor. O ganlyniad, byddwn yn hyrwyddo ac yn cefnogi diwylliant o amrywiaeth a chynhwysiant yn y gwaith trwy eirioli dros oddefgarwch, parch a sicrhau ein bod yn gwerthfawrogi pob un o’n haelodau staff fel unigolion.
Rydym yn cydnabod bod rhaid i ni fod yn rhagweithiol wrth ddiogelu eu hiechyd a’u lles er mwyn galluogi ein staff a’n myfyrwyr i lwyddo.Ìý Ategir ein strategaeth gan y gred graidd bod gweithleoedd iach yn helpu unigolion i ffynnu a chyrraedd eu potensial. Mae’n seiliedig felly ar ddiwylliant o alluogi, dyrchafu ac ymgysylltu, iechyd ataliol ac iechyd gweithredol.Ìý Trwy gymryd lles i ystyriaeth o ddifrif, byddwn yn gweithio i liniaru goblygiadau negyddol straen a gorweithio a chreu amgylchedd gwaith cadarnhaol lle gall unigolion ffynnu. O ganlyniad, byddwn yn gosod iechyd a lles wrth galon y profiad o weithio yn y brifysgol a byddwn yn annog ac yn ysbrydoli’r holl staff i ofalu am eu hiechyd corfforol a meddyliol. Bydd y strategaeth hon yn cael ei goruchwylio gan y Pwyllgor Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Chynhwysiant a Lles sy'n adrodd i Fwrdd Gweithredol y brifysgol. Mae'r strategaeth hon yn canolbwyntio'n bennaf ar staff a dylid ei chroesgyfeirio â nifer o is-strategaethau eraill yn enwedig Iechyd Meddwl a Lles dan Arweiniad Myfyrwyr; Profiad Myfyrwyr; Cynllun Cydraddoldeb Strategol; Cynllun Gweithredu Hil; ond hefyd Cynaliadwyedd; Ehangu Mynediad; yr Iaith Gymraeg. |
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
|
Dyma brif fesurau llwyddiant Strategaeth 2030 y cytunodd y Cyngor a'r Is-ganghellor arnynt. Cânt eu hadrodd i'r Cyngor fel rhan o adroddiad perfformiad integredig blynyddol y brifysgol i roi sicrwydd bod y perfformiad yn ddigonol i wireddu amcanion strategol y brifysgol. |
|
1. |
% y staff sy’n cwblhau hyfforddiant gorfodol (uwch na’r lleiafswm, sef 85%) |
|
|
Dylai pob strategaeth gynnwys 3 phrif ddangosydd perfformiad allweddol a dylai fod targed i gyd-fynd â phob un ohonynt. Cânt eu hadrodd i'r Cyngor fel rhan o adroddiad perfformiad integredig blynyddol y brifysgol i roi sicrwydd bod y perfformiad yn ddigonol i wireddu amcanion strategol y brifysgol. |
|
1. |
Lleihau’r bwlch cyflog canolrifol rhwng y rhywiau (o 0.5% y flwyddyn hyd at 2030) |
2. |
Lleihau % y staff sydd ar gontractau cyfnod penodol (cau’r bwlch ar y cyfartaledd cenedlaethol) |
3. |
Ennill/cadw/gwella siarteri neu ddyfarniadau cydnabyddedig ar draws y sector (Athena Swan, Siarter Cydraddoldeb Hil ac ati) |
4. |
% yr adolygiadau datblygu perfformiad a gwblhawyd (uwch na’r lleiafswm, sef 90%) |
|
|
Bydd y pwyllgor sy’n gyfrifol am y strategaeth yn monitro’r cynnydd o ran pob un o’r amcanion trwy’r dangosyddion perfformiad allweddol ychwanegol hynny. |
|
1. |
% y staff Cymraeg a recriwtiwyd |
2. |
% y staff sy'n cael buddion ÑÇÖÞÉ«°É |
3. |
% yr arweinwyr/rheolwyr sy'n ymgysylltu â hyfforddiant/datblygiad/monitro mewnol neu allanol. Nifer y staff sy'n cwblhau rhaglenni arwain/rheoli (Rheolwr ÑÇÖÞÉ«°É, Aurora, ac ati) |
4. |
% y staff a gyfeiriwyd at y Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol |
5. |
% trosiant staff |
6. |
Metrigau arolwg staff (gweithio yn PB, cyflog a buddion, arweinyddiaeth, cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant, iechyd a lles) |
7. |
Nifer y ceisiadau am bob swydd wag |
8. |
Cynyddu nifer y staff sy’n mynd i ddigwyddiadau/hyfforddiant iechyd a lles |