TAITH MAES HANES CYFANSODDIADOL: CASTELL CAERNARFON AC AMGUEDDFA LLOYD GEORGE
Yr wythnos hon aeth rhai o fyfyrwyr y Gyfraith ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É ar daith maes i ymweld â Chastell Caernarfon ac Amgueddfa Lloyd George.
Cafodd y myfyrwyr gyfle i fynd ar deithiau hunan dywys yng Nghastell Caernarfon, lle dysgon nhw am arwisgiad cyn Dywysog Cymru (sef y Brenin Siarl III erbyn hyn) yn 1969. Yn ogystal â’r teithiau hunan dywys, cafodd y myfyrwyr gyfle i ymweld ag arddangosfeydd gan gynnwys 'Stori Castell Caernarfon', 'Gêm y Goron', 'Buchedd Eleanor o Castile', ac 'Ym Mhen Edward I.’ Ar ôl ymweld â Chastell Caernarfon roedd cyfle ar y daith i’r myfyrwyr ymweld ag Amgueddfa’r Ffiwsilwyr Brenhinol Cymreig, catrawd hanesyddol y Fyddin Brydeinig.
Yn Amgueddfa Lloyd George, cafodd y myfyrwyr wybod am fywyd David Lloyd George, oedd yn Brif Weinidog y Deyrnas Unedig rhwng 1916 a 1922. Mae’n adnabyddus fel Prif Weinidog y Deyrnas Unedig yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Bu ei lywodraeth ef hefyd yn gyfrifol am sawl polisi diwygio cymdeithasol gan gynnwys Deddf Yswiriant Gwladol 1911, ei rôl yng Nghynhadledd Heddwch Paris, a thrafod sefydlu Gwladwriaeth Rydd Iwerddon. Mae gan yr amgueddfa gasgliad heb ei ail o eitemau o gyfnod Lloyd George, gan gynnwys eitemau’n ymwneud â mudiad y Swffragetiaid, a chopi personol o Gytundeb Heddwch Versailles o'r Rhyfel Byd Cyntaf. Yn yr amgueddfa ceir hyd yn oed gopi o ddrws Rhif 10 Downing Street
Gofynnodd ein myfyrwyr lawer o gwestiynau gwych, a chawsânt rywfaint o ddeunyddiau darllen i fynd adref gyda nhw. Mae teithiau fel hyn yn amhrisiadwy i fyfyrwyr y Gyfraith ac mae Ysgol y Gyfraith ÑÇÖÞÉ«°É eisoes wedi trefnu eu ail daith i ymweld â’r Senedd a Goruchaf Lys y Deyrnas Unedig yn Llundain ddydd Mercher 9 Tachwedd.