
Ganed Stuart yn Nhredegar, ac roedd berw sosialaidd a radical bro Aneurin Bevan yn ei waed. Bu’n fyfyriwr ym Mangor am rai blynyddoedd, gyda’i ymchwil ar gofebau Rhyfel Byd Cyntaf yng Nghymru yn arwain at nifer o gyhoeddiadau ganddo mewn cylchgronau hanes lleol.  Nododd Dr Leona Huey, Darlithydd mewn Treftadaeth, iddi weithio gyda Stuart fel golygydd wrtho iddo gyhoeddi yn Nhrafodion Cymdeithas Hynafiaethwyr Ynys Môn a’i fod ‘mor falch’ i weld ei waith mewn print, gan anfon neges hyfryd ati i ddiolch am yr holl gymorth. Ategwyd hynny gan Mrs Tracy Williams, Rheolwr Ysgol, a ddisgrifiodd Stuart fel "gŵr bonheddig caredig" a oedd wastad yn stopio am sgwrs gyda hi ar ei ymweliadau â ÑÇÖÞÉ«°É.
Bu Dr Mari Wiliam yn oruchwyliwr ar ymchwil MPhil Stuart am nifer o flynyddoedd, ac iddi hi roedd Stuart yn fyfyriwr cwbl unigryw; ‘mor danbaid am ei astudiaethau, am Gymru, yr iaith Gymraeg, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, undebaeth lafur a chwaraeon, a’r cyfan o’i gartref yn Leeds."
Dywedodd Mari ei bod wastad wedi’i "synnu gan ei egni a’i frwdfrydedd: un wythnos byddai’n arsylwi cofebau rhyfel yng Nghasnewydd, a’r wythnos olynol byddai’n disgrifio ymweld â phentrefi yn Ynys Môn, gan fwynhau sgyrsiau dadlennol gyda phobl leol a ffilmio’i grwydriadau hanesyddol."Â

Bu Mari’n myfyrio llawer am Stuart mewn dosbarth yoga diweddar: dosbarth a gynhaliwyd mewn neuadd goffa i’r Rhyfel Byd Cyntaf, a gwyddai y byddai Stuart wedi bod mor frwdfrydig am yr adeilad ac, yn bwysicach na dim, am gofio’r dynion lleol a laddwyd yn y Rhyfel: "Gwnaeth Stuart gymaint o gyfraniad at danlinellu profiadau cymunedau Cymreig a’u colledion rhyfel, gan sicrhau y byddant yn rhan fythol o’r gofnod hanesyddol."
I’r Athro Peter Shapely, Pennaeth yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, "Fy atgof pennaf o Stuart oedd ei weld yn y seremoni graddio MPhil mwy neu lai’n dawnsio i gael ei radd. Roedd yn hyfryd ei weld yn ymfalchïo cymaint yn ei gamp." Yn dilyn hyn, rhoddwyd teitl Cydymaith Ymchwil Anrhydeddus i Stuart, gan olygu ei fod wedi parhau gyda’i gyswllt â’r Brifysgol hyd at ei farwolaeth. Â
Bydd llawer o atgofion melys am Stuart ym Mhrifysgol  ÑÇÖÞÉ«°É: coffa arbennig am gymeriad difyr oedd yn un o fil.