Mam a merch yn graddio gyda'i gilydd!
Roedd graddio eleni yn achlysur arbennig i’n holl raddedigion, ac yn hynod arwyddocaol i fam a merch a raddiodd gyda’i gilydd, er gwaethaf sawl her a chyfnod anodd yn eu hanes!
Graddiodd Michaela Goodier a’i merch, Siobhan, gydag anrhydedd LLB yn y Gyfraith a Throseddeg ar y 13eg o Orffennaf yn seremonïau graddio’r haf hwn. Roedd y ddwy wedi dychwelyd i addysg ar ôl profiadau personol anodd iawn dros y blynyddoedd diwethaf rhwng iechyd, diogelwch a chyflogaeth. Fodd bynnag, yn dilyn cyfnod heriol iawn, penderfynodd Michaela a Siobhan y byddent yn cymryd cam penodol ac yn dilyn gradd yn y Gyfraith a Throseddeg ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É.
Wrth feddwl am ei chyflawniad gwych hi a Siobhan, dywedodd Michaela:
‘Roedd mynd i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É wedi bod ar fy Rhestr Bwced erioed, fel rhestr o bethau i’w gwneud, a gôl yr oedd angen ei thicio. Adleisiodd y Gyfraith a Throseddeg drwy wythiennau fy nghwmni, a oedd yn cynnwys lefel uchel o ddiogelwch o fewn y diwydiant preifat, gan sicrhau contractau enfawr a chwmnïau o’r radd flaenaf ledled y DU ac Ewrop. Bûm yn gweithio gyda Phrif Hyfforddwr yr RAVC (Corfflu Milfeddygol Brenhinol y Fyddin), Melton Molbry, am 8 mlynedd, a arweiniodd at sefydlu fy nghwmni diogelwch corfforaethol preifat fy hun (Deacon Canines Ltd), gyda chaffael cŵn hynod effeithiol at ddefnydd synhwyro ffrwydron a phyrotechneg; ynghyd â gweithio ochr yn ochr â chwmnïau preifat eraill o fewn y sector, yn enwedig yr unedau gwrthderfysgaeth.
‘Gwelodd y pandemig ddiwedd ar deithio a hyfforddiant, a effeithiodd ar y DU gyfan, a oedd, dan gyfyngiadau Covid-19, yn llesteirio llawer o gwmnïau, ac eraill i ddiwedd eu hoes. Felly, rhoddais y gorau i hynny a gofynnwyd i mi fod yn gomander ar yr Unedau Profi Symudol ar gyfer safleoedd profi Covid-19.'
Yn ystod y cyfnod hwnnw, dechreuodd Michaela ei hastudiaethau ym Mangor ochr yn ochr â’i merch, Siobhan, a oedd hefyd wedi cael profiadau anodd: ‘Penderfynais gofrestru ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É (y brifysgol orau yng Nghymru) – gallaf weld y brifysgol o fy ystafell fyw! Ac fe wnes i ddarbwyllo Siobhan i wneud hynny gyda mi.’
Ìý
Ìý
Ac mae'r ddwy wedi llwyddo'n aruthrol yn eu hastudiaethau. Wedi graddio o Fangor, mae Michaela a Siobhan yn gobeithio dilyn gyrfa ym maes y gyfraith a throseddeg.
Mae'r Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas gyfan yn dymuno'r gorau i Michaela a Siobhan yn eu dyfodol.
Llongyfarchiadau ichi!
Ìý