Mae Jason Bray, gweinidog ymwared a ordeiniwyd yn arbennig ar gyfe esgobaeth Llandaf, yn gweithio gyda phobl sy鈥檔 cael eu cystuddio gan aflonyddwch paranormal ac yn delio 芒 phob math o gyfarfyddiadau goruwchnaturiol, o helbulon, ysbrydion, a melltithion i feddiannau cythreulig posibl. Mae wedi trafod ei brofiadau trawiadol o weithio ar y rheng flaen yn ei lyfr, Deliverance (Coronet 2021) 鈥 sydd wrthi鈥檔 cael ei addasu鈥檔 gyfres deledu 鈥 ac ar soffa rhaglen ITV, This Morning. Efallai eich bod wedi gweld ei ymddangosiad cameo yn y gyfres Netflix, Welcome to Wrexham, pan ymwelodd Ryan Reynolds a Rob McElhenney 芒 San Silyn, Eglwys Blwyf hanesyddol Wrecsam, lle bu鈥檙 Parch Bray yn gwasanaethu nes dod yn Ddeon Eglwys Gadeiriol Llandaf ym mis Medi eleni. Gadawodd y ddwy seren Hollywood gyda chop茂au o lyfr y gweinidog wedi鈥檜 llofnodi.聽
Cafodd myfyrwyr ym Mhrifysgol 亚洲色吧 gyfle i ddysgu am ei brofiadau yn uniongyrchol fel rhan o鈥檜 hastudiaethau ysgolheigaidd ar y pwnc, a bydd y Parch Bray yn dychwelyd i siarad 芒鈥檙 garfan nesaf o fyfyrwyr ar y modiwl, 鈥楨xorcism鈥.
Dywedodd yr Athro Lucy Huskinson, sy鈥檔 goruchwylio鈥檙 modiwl, 鈥楨xorcism鈥:聽
鈥淢ae adroddiadau am ysbrydion a chythreuliaid wedi swyno鈥檙 dychymyg poblogaidd ar hyd yr oesoedd, ac nid yw'n ymddangos bod ein diddordeb yn lleihau. Mae鈥檙 modiwl a addysgir, 鈥楨xorcism鈥, yn denu myfyrwyr o bob math o gefndiroedd a disgyblaethau pwnc, y tu hwnt i Athroniaeth, Moeseg, a Chrefydd. Er bod rhai yn awgrymu bod ymwared oddi wrth ysbrydion drwg ar gynnydd, mae eraill yn honni bod endidau demonig yn fynegiant symptomatig o salwch meddwl a dylid eu trin felly. Ond a yw mor hawdd gwahaniaethu rhwng ysbrydion trafferthus a thrallod seicolegol? A ydym yn ddoeth i dybio y dylai pob 鈥榶sbryd鈥 gael ei ddileu? A pham bod pobl yn cael eu swyno cymaint gan enghreifftiau posib o ysbrydion a chythreuliaid? Mae ein myfyrwyr yn mwynhau鈥檙 cyfle i archwilio鈥檙 mathau hyn o gwestiynau, a hwythau鈥檔 tueddu i wneud hynny gyda meddwl agored wrth archwilio damcaniaethau ac astudiaethau achos o ysbryd meddiant ar draws traddodiadau seciwlar a chrefyddol. I鈥檙 perwyl hwnnw, yr ydym yn hynod ffodus i gael y Parch. Ganon Dr Jason Bray yn siaradwr gwadd ar ein modiwl poblogaidd, 鈥楨xorcism鈥, er mwyn trafod rhai o鈥檙 mythau am y pwnc, gan adael myfyrwyr 芒鈥檜 llygaid yn lled agored. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio 芒 Jason eto, ar gyfer y garfan nesaf o fyfyrwyr brwd sydd eisiau darganfod mwy am y pwnc hynod ddiddorol a real hwn.鈥
Ychwanegodd yr Athro Peter Shapely, Pennaeth Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas:
鈥淩ydym bob amser yn awyddus i wahodd siaradwyr gwadd o鈥檙 safon hon i鈥檔 modiwlau a addysgir gan y gall eu profiadau fod yn amhrisiadwy a chyfoethog i addysg y myfyrwyr. Mae鈥檙 Parch. Dr Jason Bray yn un o鈥檙 siaradwyr mwyaf cyffrous a deniadol y gallem ei gael. Mae ein myfyrwyr yn mwynhau鈥檙 modiwl hwn yn fawr ac mae sgyrsiau Jason Bray yn rhoi deunydd gwych iddynt ei ystyried a鈥檌 ddadansoddi yn eu hastudiaethau.鈥
Wrth fyfyrio ar y sgwrs wadd, dywedodd Millie Carman, myfyrwraig BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd, yn ei hail flwyddyn:聽
鈥淩oedd sgwrs yr exorcist yn gyfle anhygoel. Roedd clywed adroddiadau uniongyrchol nid yn unig yn cefnogi鈥檙 hyn yr oeddem wedi鈥檌 ddysgu yn y dosbarth, ond hefyd yn herio fy nealltwriaeth o鈥檙 byd anweledig, yn enwedig pan soniodd am ei brofiadau ei hun o weithgarwch poltergeist! Roedd yn brofiad unigryw a bythgofiadwy.鈥
Ac roedd ein myfyrwraig BA Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd sydd yn ei thrydedd flwyddyn, Gemma Waite, o farn debyg:
鈥淩oedd gwrando ar sgwrs y gweinidog ymwared yn brofiad cyfareddol a chythryblus. Roedd ei sgwrs yn llawn o'i brofiadau ei hun, ond yn dangos agwedd ag iddi fymryn o amheuon a oedd yn ddiddorol i mi, gan ei fod yn gwneud y cyfan yn realistig wrth iddo ddangos nad oedd pob profiad yn brofiad y byd ysbrydol mewn gwirionedd! Roedd pob naratif yn teimlo fel cipolwg ar y tiroedd anweledig, ac fe鈥檓 gadawodd yn chwilfrydig! Y rhan fwyaf diddorol oedd ei brofiad yn s么n am y teimlad oer pan fo鈥檙 ysbryd yn bresennol a鈥檙 ystafell yr oeddem ynddi鈥檔 hollol rynllyd, er efallai mai felly roedd pethau am ei bod yn fis Rhagfyr!鈥
Am ragor o wybodaeth ynghylch y sgwrs neu鈥檙 modiwl arbennig yma, cysylltwch ag: Yr Athro Lucy Huskinson (l.huskinson:bangor.ac.uk).