Darlithydd yn ennill Llyfr y Flwyddyn Ffeithiol Greadigol
Llongyfarchiadau enfawr i Dr Gareth Evans-Jones sy鈥檔 darlithio Athroniaeth a Chrefydd yn yr Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau Cymdeithas, ar ddod yn fuddugol yng nghategori Ffeithiol Greadigol Llyfr y Flwyddyn Llenyddiaeth Cymru 2023 gyda鈥檌 gyfrol, Cylchu Cymru: Llun a Ll锚n wrth Gerdded (Y Lolfa).
听
Teithiodd Dr Gareth Evans-Jones o amgylch Cymru, ar hyd llwybr yr arfordir a Chlawdd Offa, dros gyfnod o bedair blynedd ac ymateb i 60 lleoliad gwahanol ar ffurf llenyddiaeth greadigol gryno, yn rhyddiaith ac yn farddoniaeth. Yn y darnau hyn, ceir ymateb i hanes, tirwedd, chwedloniaeth, cymdeithas, llenyddiaeth, gwleidyddiaeth, ynghyd 芒 thlysni a chymhlethdodau lleoliadau gwahanol Cymru. Ymysg y darnau, mae yna un am Fangor adeg y Nadolig, a鈥檙 naws swynol sydd i鈥檞 theimlo wrth grwydro鈥檙 Stryd Fawr yr adeg honno o鈥檙 flwyddyn.
听
Dyma a ddywedodd Gareth yn dilyn derbyn y wobr mewn seremoni yn y Tramshed yng Nghaerdydd, nos Iau 13eg o Orffennaf: 鈥楧wi鈥檔 dal i fod mewn dipyn o sioc! Roedd cyrraedd y rhestr fer yn gwbl annisgwyl ac yn fraint enfawr, ond mae dod i鈥檙 brig yn y categori, gyda dau lyfr mor ddifyr a gwahanol iawn i鈥檞 gilydd ochr yn ochr 芒 Cylchu Cymru, yn rhyfeddol. Mae fy niolch yn enfawr i鈥檙 Lolfa am gyhoeddi鈥檙 gwaith a Meinir Wyn Edwards am ei golygu amyneddgar a chraff, ynghyd ag Olwen Fowler am y dylunio gwych.鈥
Ymysg gwaith diweddaraf Gareth, mae cyhoeddi addasiad o鈥檌 draethawd doethurol a luniodd dan gyd-gyfarwyddyd yr Athro Emeritws Eryl Wynn Davies a鈥檙 Athro Jerry Hunter, 鈥楳ae鈥檙 Beibl o鈥檔 tu鈥: ymatebion crefyddol y Cymry yn America i gaethwasiaeth (1838-1868) (Gwasg Prifysgol Cymru, 2012); golygu鈥檙 flodeugerdd o lenyddiaeth LHDTC+ Gymraeg gyntaf a gyhoeddir ddiwedd Gorffennaf 2023, Curiadau (Barddas), mentora awdur newydd a chyffrous wrth iddo lunio鈥檌 gyfrol gyntaf a gyhoeddir ym mis Medi 2023, Malachy Edwards, Y Delyn Aur (Gwasg y Bwthyn 2023), cydweithio 芒 dau fardd arall, Tatev Chakhian a Zofia Ba艂dyga fel rhan o brosiect 鈥楥ounterpoint鈥 mudiad Llenyddiaeth ar Draws Ffiniau, sy鈥檔 talu sylw drwy farddoniaeth i brofiadau mudwyr; ac ym mis Hydref 2023, bydd ail nofel Gareth yn ymddangos, sydd wedi鈥檌 lleoli mewn 亚洲色吧 dychmygol, Y Cylch (Gwasg y Bwthyn).
Llongyfarchiadau, Dr Gareth Evans-Jones!听