Sefydlwyd Sefydliad Ymchwil Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) yn 2008. Nod WISERD yw cynyddu’r adnoddau sy’n ymwneud â gwyddorau cymdeithas ledled Cymru trwy gydweithredu, cynnal projectau ar y cyd a chreu cysylltiadau gyda chanolfannau yn y Deyrnas Unedig a thu hwnt.
Mae’r Sefydliad wedi ei gyllido ar y cyd gan ffynonellau sy'n cynnwys Llywodraeth Cymru a Chyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol y DU (ESRC) er mwyn tynnu ynghyd ac adeiladu ar yr arbenigedd presennol mewn dulliau a methodolegau ymchwil ansoddol a meintiol ym mhrifysgolion Aberystwyth, ÑÇÖÞÉ«°É, Caerdydd, Morgannwg ac Abertawe. Mae gweithgaredd ymchwil a rhaglen ddatblygu WISERD wedi eu dosbarthu ar draws y sefydliadau Addysg Uwch sydd yn y bartneriaeth ac mae hefyd yn cynnwys Llywodraeth y Cynulliad, y Swyddfa Ystadegau Cenedlaethol a sefydliadau cyhoeddus eraill.
Caiff WISERD ei gydnabod gan Lywodraeth Cynulliad Cymru fel Canolfan Ymchwil Cenedlaethol Cymru'n Un.
Mae prif nodau WISERD fel a ganlyn:
Datblygu ansawdd a maint ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithas yng Nghymru, yn arbennig trwy brojectau ymchwil a gyllidir yn allanol;
Hyrwyddo gweithgarwch ymchwil ar y cyd ar draws y prifysgolion sy'n cymryd rhan yn y rhaglen ac ar draws disgyblaethau a sectorau;
Datblygu'r seilwaith ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithas yng Nghymru;
Cryfhau effaith ymchwil ym maes gwyddorau cymdeithas ar ddatblygu polisïau yn y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector trwy ganolbwyntio ar gyfnewid gwybodaeth ac ennyn cysylltiad.
Arbenigedd WISERD
Mae WISERD yn ceisio cyflawni'r amcanion hyn drwy ddwy raglen: rhaglen ymchwil a rhaglen seilwaith ymchwil. O ran ymchwil, mae WISERD yn gallu dangos arbenigedd mewn:
- methodolegau ansoddol, meintiol a chymysg
- deall a dadansoddi setiau data sy'n berthnasol i Gymru
- hanes o gynhyrchu ceisiadau llwyddiannus am grant ymchwil
Mae rhaglen ymchwil WISERD yn cynnwys portffolio amrywiol o weithgareddau, yn amrywio o wyddorau sylfaenol i broject ymchwil cymhwysol.
Seilwaith WISERD
Mae rhaglen seilwaith ymchwil WISERD yn canolbwyntio ar ddatblygu gallu ymchwil o fewn gwyddorau cymdeithas yng Nghymru a thu hwnt. Mae'r rhaglen hon yn cynnwys yr elfennau allweddol canlynol:
- Cyfnewid a throsglwyddo gwybodaeth
- Hyfforddi a meithrin gallu
- Casglu data a chael mynediad ato
Caiff WISERD ei gydlynu o ganolfan weinyddol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae gan y sefydliad ymchwilwyr ac academyddion â chysylltiadau uwch sydd wedi eu lleoli ym mhob un o'r sefydliadau sydd yn y bartneriaeth, a'i fwriad yw ennyn cysylltiad yn y gymuned academaidd ehangach drwy ei rwydweithiau a chynlluniau aelodaeth
Am wybodaeth bellach ar WISERD, .