Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o’n rhaglenni Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth yma ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd â ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein tîm ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym dîm ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Llongyfarchiadau ar gael lle i astudio gyda ni ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É. Fy enw i ydi Peredur Webb-Davies a dwi'n Darlithio mewn Ieithyddiaeth.
Dwi'n rhan o adran lle mae pawb yn astudio Ieithyddiaeth - Linguistics, neu Iaith Saesneg neu Ddwyieithrwydd. Da ni o dan ysgol fwy lle mae pawb yn yr ysgol yn astudio Iaith, Diwylliant a helfyddydau.
Fel myfyriwr efo ni yn enwedig yn y flwyddyn gyntaf mi fyddi di yn dysgu am beth ydi iaith a sut mae iaith yn cael ei ddefnyddio. Fyddi di yn edrych ar amrywiaeth iaith, hanes iaith a manylion gramadeg iaith, sut i ddisgrifio strwythur geiriau a sain iaith.
Mae ÑÇÖÞÉ«°É yn le gwych i astudio mai'n ddinas fach a chyfeillgar ac mae wrth gwrs yn ddwyieithog a Chymreig iawn. Felly da ni'n edrych ymlaen iawn i dy weld di yma yn fuan. Llongyfarchiadau eto a hwyl fawr.
Cwestiynau Cyffredin
Mewn wythnos arferol, bydd gennych gydbwysedd o ddysgu strwythuredig a hyblyg, gydag 8-12 o oriau cyswllt ym mlwyddyn 1 a 2, ynghyd ag amser ychwanegol ar gyfer astudio annibynnol. Yn ogystal â sesiynau wedi eu hamserlennu, byddwch yn gallu cyfarfod â chyd-fyfyrwyr gyda diddordebau tebyg (fel Cymdeithas Ieithyddiaeth ÑÇÖÞÉ«°É), yn ogystal ag aelodau staff yn ystod eu horiau swyddfa.
Gall oriau cyswllt amrywio pob wythnos yn dibynnu ar eich cwrs penodol, eich blwyddyn astudio a chyfuniad y darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a sesiynau ymarferol. Ar gwrs gradd Iaith Saesneg ac Ieithyddiaeth arferol, mae myfyrwyr fel arfer yn cael tua 8-12 o oriau cyswllt bob wythnos yn eu blwyddyn gyntaf a'u hail flwyddyn.
Na, nid oes rhaid bod yn rhugl mewn ail iaith fel arfer, ond gall fod yn fuddiol, yn enwedig i raglenni TEFL. Mae llawer o raglenni ieithyddiaeth yn cynnwys cyrsiau iaith rhagarweiniol neu fodiwlau a all helpu myfyrwyr i ddeall gwahanol strwythurau ieithyddol yn well.
Gall graddedigion fynd i weithio mewn llawer o wahanol feysydd, gan gynnwys cyfieithu, ymchwil ieithyddiaeth, cyhoeddi, therapi lleferydd, geiriaduraeth, ysgrifennu cynnwys, cyfathrebu, y cyfryngau, addysgu (TEFL, TESOL) a chwmnïau technoleg sy'n arbenigo mewn prosesu iaith naturiol (NLP). Bydd y radd yn eich arfogi gydag amrywiaeth eang o sgiliau sy'n ofynnol mewn llawer o wahanol lwybrau gyrfa - ymhell y tu hwnt i'r rhai sy'n ymwneud yn uniongyrchol ag iaith Saesneg ac ieithyddiaeth.