Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yma ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Yn yr ysgol rydym yn cynnal nosweithiau pitsa, cwis a mynd ar dripiau allan i lefydd gwahanol, yn ddiweddar aethom ar drip i farchnad Nadolig Manceinion.
Gwyliwch ein fideo
Llongyfarchiadau ar gael eich derbyn i Brifysgol 亚洲色吧.
Dr Cynog Prys ydw i, dwi'n uwch ddarlithydd mewn Cymdeithaseg a Pholisi Cymdeithasol yn y Brifysgol, lle dwi yn arbenigo mewn dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.
Methu disgwyl cael gweld chi yn cyrraedd yma yn y Brifysgol i astudio pwnc sydd ym mor bwysig, sydd mor amserol i ni heddiw lle da ni yn trio neud synnwyr o'r byd o'n cwmpas ni lle da ni'n trio neud synnwyr o'r gymdeithas a'r newidiadau sydd yn digwydd yn y gymdeithas.
Mi fydd yn gr锚t cael chi yma i astudio efo ni.
Felly da ni'n cyfri'r diwrnodiau tan fod chi yn cyrraedd. Pob lwc i chi!
Cwrdd 芒 rhai o'ch darlithwyr

Dr Hefin Gwilym
Nid yw fy maes pwnc erioed wedi bod yn fwy perthnasol. Mae sut rydym yn mynd i'r afael 芒 materion megis yr argyfwng tai a'r heriau yn y GIG yn bryderon mawr, a gall Polisi Cymdeithasol gynnig atebion i'r problemau hynny a phroblemau eraill.
Rydw i鈥檔 mwynhau addysgu am feysydd amserol a chyfoes wrth fynd i'r afael 芒 thlodi ac anghydraddoldeb yng nghymdeithas y Deyrnas Unedig a thu hwnt. Rydw i鈥檔 ffodus iawn bod gen i fyfyrwyr o bedwar ban byd yn fy nosbarthiadau ac rydw i鈥檔 mwynhau clywed eu straeon a'u profiadau yngl欧n 芒 pholis茂au cymdeithasol mewn meysydd megis iechyd ac addysg.
Rydw i鈥檔 mwynhau rhyngweithio 芒'r myfyrwyr a dysgu o'u profiadau o wladwriaethau lles ledled y byd. Mae'n wych gweld myfyrwyr yn cymryd rhan mewn trafodaethau, yn enwedig ar 么l i mi roi cyflwyniad am faes amserol.