Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio ym Mhrifysgol 亚洲色吧
Llongyfarchiadau ar eich cynnig i astudio un o鈥檔 rhaglenni Cerddoriaeth yma ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned. Er mwyn eich helpu chi ddod yn gyfarwydd 芒 ni cyn mis Medi, rydym wedi llunio rhai adnoddau i roi mwy o wybodaeth i chi.
Cofiwch ddilyn ni ar gyfryngau cymdeithasol i gael yr holl ddiweddariadau, newyddion a digwyddiadau ar y gweill. Edrychwn ymlaen at eich cwrdd yn fuan a dymunwn y gorau i chi wrth i chi baratoi ar gyfer eich astudiaethau.
Beth i'w ddisgwyl fel myfyriwr Cerddoriaeth
Mae ein cyrsiau yn cael eu haddysgu gan academyddion sydd gyda'r gorau yn y byd, ac yn angerddol am eu pynciau. Byddwch yn dysgu gan arbenigwyr sydd ar flaen y gad yn eu meysydd, a bydd gennych fynediad at gyfoeth o adnoddau i gefnogi eich astudiaethau. Mae ein t卯m ymroddedig o academyddion nid yn unig yn wybodus ond hefyd yn angerdd.
Rydym wedi ymrwymo i ddarparu amgylchedd cefnogol a chynhwysol i'n holl fyfyrwyr. Mae gennym d卯m ymroddedig o staff sydd yma i'ch helpu gyda'ch astudiaethau ac i sicrhau eich bod yn cael profiad cadarnhaol ym Mangor.
Gwyliwch ein fideo
Helo, a Llongyfarchiadau mawr iawn ar gael cynnig lle i astudio Cerddoriaeth yma ym Mangor. Stephen Rees yw fy enw i ac rwy'n ddarlithydd Cerdd yma.
Rwy'n edrych ymlaen at eich croesawu chi i'n cymuned gerddorol ni. Cymuned sy'n cynnwys Cerddolegwyr, Perfformwyr a Chyfansoddwyr.
Mae pawb yma yn cydweithio yn agos gyda'u gilydd y myfyrwyr a'r staff. A nod ni fel staff ydi'ch helpu chi fel cerddor i gyflawni eich potensial yn llawn. Felly edrychaf ymlaen at gwrdd 芒 chi yn fuan!
Cwestiynau Cyffredin
Bydd wythnos nodweddiadol yn cynnwys amrywiaeth o ddarlithoedd, seminarau, gweithdai ac ymarferion gyda'ch cyd-fyfyrwyr a'ch darlithwyr. Weithiau, byddwch yn cael tasgau i'w paratoi cyn sesiynau, cyfarfodydd annibynnol a chyfarfodydd gr诺p i rannu a pharatoi syniadau tuag at eich astudiaethau.
Hefyd, cewch gyfle i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol, megis bod yn rhan o鈥檙 Gymdeithas Gerdd, ac amrywiaeth eang o ensembles cerddorol, fel corau a cherddorfa'r Brifysgol.
Byddwch fel arfer yn gwneud tri modiwl 20 credyd ym mhob semester. Ar gyfer pob modiwl, byddwch yn cael hyd at 3 awr o oriau cyswllt yr wythnos (yn cynnwys darlithoedd, gweithdai, tiwtorialau a seminarau). Rhwng y sesiynau hyn, byddwch yn gwneud gwaith annibynnol, paratoi ar gyfer eich aseiniadau, mynychu cyfarfodydd grwp gyda鈥檆h cyd-fyfyrwyr, a mynychu gweithgareddau cerddorol amrywiol e.e. ymarferion, a chyngherddau cerddorol.
Byddwch yn cael defnyddio cyfleusterau o'r radd flaenaf. Mae鈥檙 adeilad Cerddoriaeth wedi elwa o fuddsoddiad gwerth miliynau o bunnoedd yn ddiweddar, yn ogystal 芒鈥檔 Stiwdios Cerddoriaeth Electronig. Yn yr adeilad Cerddoriaeth, mae ein prif neuadd ddarlithio (gyda phiano cyngerdd Steinway newydd) sy鈥檔 lleoliad delfrydol ar gyfer datganiadau ac ymarferion. Mae gennym hefyd ddwy neuadd gyngerdd arall 芒 chyfarpar proffesiynol, gyda phianos cyngerdd Steinway newydd hefyd. Cynhelir cyfres fywiog o ddatganiadau a chyngherddau o bob math o gerddoriaeth yma ac yn Pontio, canolfan gelfyddydau ac arloesi'r brifysgol.
Mae creu cerddoriaeth gydag eraill yn rhan annatod o brofiad gradd mewn cerddoriaeth. Gallwch ddewis astudio perfformiad unigol ar eich prif offeryn neu lais, ond mae opsiynau hefyd i berfformio mewn ensembles fel rhan o'ch cwrs.
Y tu allan i鈥檙 rhaglenni gradd, mae amrywiaeth eang o gyfleoedd i berfformio, boed mewn ensembles a gynhelir gan y brifysgol (Cerddorfa Symffoni Prifysgol 亚洲色吧; Corws y Brifysgol; C么r Siambr) neu yn y grwpiau niferus gaiff eu cynnal gan fyfyrwyr, yn cynnwys Cerddorfa a Ch么r y Gymdeithas Gerddoriaeth, y Band Cyngerdd, y Band Pres, y Band Jas a'r Gerddorfa Linynnol.
Cwrdd 芒'r t卯m addysgu

Kiefer David Jones
Sut mae'r llais yn gweithio, ei swyddogaethau a'i alluoedd.
Fy mrwdfrydedd dros y repertoire gwych sydd gennym mewn cerddoriaeth leisiol a鈥檙 cyfle i gyflwyno addysg dechnegol i ddarpar gantorion.
Peidio byth 芒 cholli golwg ar y darlun ehangach, a gweithio ychydig bob dydd (gan gymryd camau bach) i gyrraedd y nod.
Effaith y tafod ar ganu - anferth!