ÑÇÖÞÉ«°É

Fy ngwlad:

Graddfa Sero TAW

Offer a Brynwyd ar gyfer Ymchwil Feddygol/Filfeddygol

Offer a Brynwyd ar gyfer Ymchwil Feddygol/Filfeddygol


1.Ìý Rhagarweiniad
Mae angen defnyddio'r gostyngiad hwn yn ofalus gan fod y ddeddfwriaeth yn cynnwys diffiniadau y gellir eu dehongli mewn gwahanol ffyrdd. Pa bai Tollau ac Ecseis (T&E) yn dod ag achos llwyddiannus yn erbyn defnyddio'r gostyngiad hwn, byddai'r Brifysgol yn gorfod talu'r swm gwreiddiol o TAW, yn ogystal chosbau a llog am dalu'n hwyr. Byddai'r Brifysgol hefyd yn cael costau amddiffyn acos o'r fath.
Ìý2.Ìý ÌýDiffiniadau
2.1Ìý ÌýO dan ddeddfwriaeth TAW gyfredol, gall y Brifysgol gael gostyngiad cyfradd sero wrth brynu unrhyw nwyddau perthnasol a ddefnyddir yn bennaf ar gyfer diben cymwys, lle bo diben cymwys yn cynnwys ymchwil feddygol a milfeddygol. Mae'n rhaid i dl am y nwyddau ddod o gronfeydd o fewn y Brifysgol, yn hytrach na nwyddau a archebwyd gan y Brifysgol ac y talwyd amdanynt drwy ffynonellau eraill.
Ìý2.2Ìý Mae 'nwyddau perthnasol' yn golygu offer meddygol, gwyddonol, cyfrifiaduro, fideo, steryllu, labordy neu reweiddio. Mae T&E yn diffinio'r termau hyn yn bur gaeth, yn arbennig 'meddygol' a 'gwyddonol'.
•ÌýÌý Ìý'Meddygol' yw offer a ddefnyddir ar gyfer ymarfer meddygaeth.
•ÌýÌý Ìý'Gwyddonol' yw offer a ddefnyddir ar gyfer arsylwi, arbrofi a mesur.
•ÌýÌý ÌýMae 'Cyfrifiadur' yn golygu caledwedd, disgiau, VDU ac allweddellau.
•ÌýÌý ÌýMae 'Fideo' yn cynnwys recordyddion, tapiau a chameru.
•ÌýÌý Ìý'Steryllu' yw offer a ddefnyddir ar gyfer steryllu offer meddygol a labordy, er enghraifft, awtoclafau.
•ÌýÌý Ìý'Labordy' yw offer megis meinciau a chypyrddau mygdarth.
•ÌýÌý ÌýMae 'Rheweiddio' yn cynnwys peiriannau gwneud rhew.
Ìý2.3Ìý ÌýMae 'Ymchwil' yn golygu ymchwiliad systematig gwreiddiol a wneir i gael gwybodaeth a dealltwriaeth o driniaeth neu ddulliau lliniaru ar gyfer annormalrwydd meddyliol neu gorfforol mewn pobl ac anifeiliaid. Nid yw'n cynnwys profion arferol.
Ìý2.4Ìý ÌýCaiff 'yn bennaf' ei ddiffinio fel real, sylweddol a pharhaus ac wedi ei brynu i'r diben hwnnw. Mae ein hymgynghorwyr TAW proffesiynol wedi ceisio darganfod o'r blaen beth yn union mae hyn yn ei olygu yn nhermau defnyddio, ond gwrthododd T&E roi unrhyw gyfarwyddyd pellach pendant. ÌýGan nad oes gan y geiriau "yn bennaf a sylweddol" ystyr penodol yn l y gyfraith, y cyngor yw bod rhaid i gyfran y defnydd fod dros 50% i gael ei ystyried yn ddiben cymwys. Hefyd, mae'n rhaid gallu nodi diben defnyddio cymwys adeg y pryniant. ÌýOs honnir bod yr offer yn cael ei brynu ar gyfer ymchwil feddygol, mae'n rhaid i'r Brifysgol fedru nodi ar gyfer pa broject(au) ymchwil feddygol penodol y bydd yn cael ei ddefnyddio.
Ìý3.Ìý Ìý Trefniadau cyn archebu/prynu Ìý ÌýÌý
3.1Ìý ÌýYn achos eitemau offer yn costio dros 20,000 (heb gynnwys TAW), mae'n rhaid cael caniatd y Swyddfa Gyllid i ddefnyddio'r gostyngiad hwn. Mae'n rhaid i Bennaeth y Ganolfan Adnoddau wneud cais ysgrifenedig yn cynnwys:Ìý
•ÌýÌý ÌýCadarnhad ei fod/bod yn fodlon bod y pryniant o fewn y diffiniadau a geir yn y nodyn canllaw hwn.
•ÌýÌý ÌýDisgrifiad (yn nhermau lleygwr) o'r offer i'w brynu a'i ddiben.
•ÌýÌý ÌýNodi'n union beth yw'r project(au) ymchwil y prynir yr offer ar ei gyfer/eu cyfer. Dylai manylion am bob project gynnwys: noddwr, teitl, hyd y project (yn cynnwys dyddiad dechrau a gorffen), cyfraniad cyllido a chd canolfan gost fewnol (e.e. cd Ìýcyfriflyfr ymchwil).
•ÌýÌý ÌýDisgrifiad byr (yn nhermau lleygwr) o'r ymchwil feddygol a wneir ym mhob project.
•ÌýÌý ÌýDefnyddiau eraill ar gyfer yr offer os nad yw'n cael ei brynu'n gyfan gwbl i'w ddefnyddio mewn ymchwil feddygol. Rhaid nodi'r gyfran y disgwylir ei ddefnyddio ar gyfer ymchwil feddygol.
Ìý3.2Ìý Ìý Bydd y Swyddfa Gyllid yn arolygu ceisiadau o'r fath am gyfradd sero, a chyfeirir pob pryniant o werth uchel at ein hymgynghorwyr TAW proffesiynol i gael eu barn. Eitemau gwerth uchel fydd rhai'n costio dros 100,000 heb gynnwys TAW.
Ìý3.3Ìý ÌýAr l iddynt gael eu cymeradwyo gan y Swyddfa Gyllid, awdurdodir Pennaeth y Ganolfan Adnoddau i lofnodi Tystysgrif gais am gyfradd sero (enghraifft ynghlwm wrth y ddogfen hon). Dylid anfon copi o'r dystysgrif i'r Swyddfa hon, ynghyd chopi o anfoneb y cyflenwr.
Ìý3.4 ÌýAr gyfer eitemau offer sy'n costio llai na 20,000 (heb gynnwys TAW), awdurdodir Pennaeth Canolfan Adnoddau i lofnodi Tystysgrif gais am gyfradd sero heb ganiatd ymlaen llaw gan y Swyddfa Gyllid, ar yr amod ei fod/bod yn fodlon bod y pryniant yn cydymffurfio 'r nodyn canllaw hwn. Dim ond Pennaeth Canolfan Adnoddau a all roi awdurdodiad o'r fath, ac mae'n rhaid anfon copau o Dystysgrifau, ynghyd chopi o anfoneb y cyflenwr, i'r Swyddfa hon. Gall Pennaeth Canolfan Adnoddau ofyn am gyngor o'r Swyddfa Gyllid os dymuna.
Ìý4Ìý Ìý ÌýTrefniadau ar l prynu ÌýÌý
4.1Ìý ÌýOni bai bod yr offer wedi cael ei brynu'n gyfan gwbl i ddibenion ymchwil feddygol, mae'n rhaid i Ganolfan Adnoddau gadw log ysgrifenedig o'r defnydd gwirioneddol i ddangos bod y gyfran o ddefnydd gwirioneddol i ddiben cymwys dros 50%. Yn achos pob defnydd dylid cofnodi yn y log: y dyddiad, oriau defnyddio, y project penodol (yn cynnwys cd canolfan gost y project/ymchwil) a nodi p'run a ydyw'r project yn ymchwil feddygol neu ddefnydd arall. ÌýDylai'r gweithredydd lofnodi pob cofnod. Dylai'r log gael ei adolygu a'i lofnodi'n fisol gan aelod staff uwch sy'n gyfrifol am yr ymchwil er mwyn sicrhau bod y log yn cael ei gadw'n briodol. ÌýDylid anfon copi o'r log i'r Swyddfa Gyllid ar ddiwedd pob blwyddyn ariannol (h.y. 31 Gorffennaf). Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý Ìý
4.2Ìý Ìý Os rhoir y gorau i ddefnyddio'r offer yn bennaf ar gyfer diben cymwys unrhyw bryd, dylid rhoi gwybod i'r Swyddfa hon, oherwydd gall atebolrwydd i dalu TAW godi wedyn.
Ìý5Ìý ÌýCyfrifoldeb ariannol Canolfannau Adnoddau Ìý
5.1 Bydd Canolfannau Adnoddau'n gyfrifol yn ariannol am unrhyw atebolrwydd TAW dilynol, cosbau a llog a osodir gan T&E sy'n codi oherwydd methu :
•ÌýÌý Ìýdilyn y trefniadau yn y nodyn canllaw hwn;
•ÌýÌý Ìýdangos bod y gyfran o ddefnydd gwirioneddol i ddiben cymwys dros 50%; neu
•ÌýÌý Ìýfethu phrofi bod naill ai'r offer neu'r ymchwil yn dod o fewn diffiniadau'r nodyn canllaw hwn.Ìý

Tystysgrif Eithrio rhag TAW