Caiff statws ac arwyddocâd anhwylder diffyg canolbwyntio/gorfywiogrwydd (ADHD), fel anhwylder seiciatrig ei herio fwyfwy ar sail wyddonol ac ideolegol.
Mae tystiolaeth ymchwil newydd yn herio rhagdybiaethau craidd y mae'r patrwm meddygol clasurol yn seiliedig arnynt - bod ADHD yn amlygiad o gamweithrediad niwro-wybyddol cynhenid unigol a phenodol, sy’n gategorïaidd ei strwythur ac yn unffurf ei fynegiant ar draws diwylliannau.
Ar yr un pryd mae'r mudiad niwroamrywiaeth cynyddol ddylanwadol yn cynnig fframwaith cysyniadol amgen o ran deall ADHD. Mae hyn seiliedig ar honiad y mudiad bod 'ADHD', yn hytrach nag yn anhwylder sy'n deillio o gamweithrediad, yn ffordd wahanol o feddwl a gweithredu, o werth cynhenid wedi'i gyfyngu gan strwythurau cymdeithasol a disgwyliadau niwronodweddiadol.
Bydd yr Athro Edmund Sonuga-Barke yn archwilio goblygiadau'r heriau hyn ar gyfer gwyddoniaeth ac ymarfer yn y dyfodol wrth i ni symud ein pwyslais o 'drwsio' camweithrediad i dderbyn a chefnogi niwrowahaniaeth er mwyn hyrwyddo datblygiad llwyddiannus.
Ìý
Mae Edmund Sonuga-Barke yn Athro Seicoleg Datblygiadol, Seiciatreg a Niwrowyddoniaeth yn y Sefydliad Seiciatreg, Seicoleg a Niwrowyddoniaeth, Coleg y Brenin Llundain. Ef yw Dirprwy Arweinydd y Thema Iechyd Meddwl Plant ac Anhwylderau Niwroddatblygiadol yng Nghanolfan Ymchwil Biofeddygol NIHR Maudsley. Ìý
Wedi'i ysgogi gan ei brofiad ei hun o fagwraeth ag anawsterau dysgu, mae ei ymchwil yn canolbwyntio ar ddeall tarddiad gwahaniaethau niwroddatblygiadol, yn enwedig amrywiadau mewn rheolaeth sylw a chymhelliant (hy, ADHD), a'u heffaith ar iechyd meddwl. I'r perwyl hwn, mae'n defnyddio dulliau gwyddoniaeth ddatblygiadol sylfaenol i astudio seiliau genetig ac amgylcheddol risg a gwydnwch a swyddogaeth gyfryngol prosesau'r ymennydd. Nod y gwaith hwn yn y pen draw yw datblygu ymyriadau mwy effeithiol sy'n lleihau namau ac yn hybu twf.
Mae'r Athro Sonuga-Barke yn Gymrawd yr (etholwyd 2016) a’r (etholwyd 2018). Yn 2019 cafodd ei ethol yn Athro Skou ym Mhrifysgol Aarhus, Denmarc. Ef yw prif olygydd y . Bu hefyd yn Aelod Etholedig o Academia Europeae yn 2023.
Graddiodd yr Athro Sonuga-Barke gyda Baglor yn y Gwyddorau mewn seicoleg o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn 1984. Bedair blynedd yn ddiweddarach dyfarnodd Prifysgol Caerwysg ddoethuriaeth iddo am ei draethawd ymchwil "Studies in the development of economic behaviour".
NEWID LLEOLIAD -Ìýar hyn o bryd yn PL5, lefel 5, Pontio
Traddodir y ddarlith hon yn Saesneg.
Bydd lluniaeth ar gael ar ôl y ddarlith.