Mae Ysgol Hanes, y Gyfraith a Gwyddorau’r Cymdeithas yn falch o nodi 20 mlynedd ers sefydlu Cyfraith ÑÇÖÞÉ«°É gyda digwyddiad arbennig yng Nghlinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sydd newydd ei sefydlu. Mae'r digwyddiad carreg filltir hwn, a ariennir gan Gronfa Darlithio Syr Elwyn Jones Ysgol Busnes ÑÇÖÞÉ«°É, yn tynnu sylw at ymrwymiad y Brifysgol i addysg gyfreithiol, mynediad at gyfiawnder, ac ymgysylltu â'r gymuned. Â
Bydd y digwyddiad yn arddangos gwaith cyffredin mudiad clinigau'r gyfraith a'r sector busnes cydweithredol a chymdeithasol yng Ngogledd Cymru. Bydd mynychwyr yn cael cyfle i ymgysylltu â gweithwyr proffesiynol cyfreithiol, arweinwyr cymunedol, a chynrychiolwyr mentrau cymdeithasol mewn trafodaethau am fynediad at gyfiawnder yng Ngwynedd a thu hwnt. Â
Darlith wadd nodedig: Â
Bydd Ei Hanrhydedd y Barnwr Wendy Owen, Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol ac aelod o Ganolfan Gyfiawnder Caernarfon, yn traddodi’r prif anerchiad. Wrth fyfyrio ar yr achlysur, dywedodd y Barnwr Owen: "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at draddodi'r ddarlith wadd fel rhan o'r Gyfraith ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a dathlu 20 mlynedd. O ystyried y Clinig Cyngor Cyfreithiol newydd, ochr yn ochr â'm gwaith fel Barnwr Amrywiaeth a Chysylltiadau Cymunedol, bydd y digwyddiad yn gydnabyddiaeth wych o fynediad cymunedol at gyfiawnder ym Mangor a'r rhanbarth ehangach." Â
Yn dilyn y ddarlith, bydd trafodaeth bord gron yn archwilio rôl mentrau cymdeithasol wrth hwyluso mynediad at gyfiawnder yng Ngogledd Cymru.
Bydd y panel yn cynnwys:Â
- Lowri Hedd Vaughan, GwyrddNiÂ
- Katherine Adams, Cyfraith Gymunedol Gogledd CymruÂ
- Dr Sarah Nason, Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°ÉÂ
- Tracey Horton, Clinig Cyngor Cyfreithiol Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°ÉÂ
- Haydn Jones, CymunedoligÂ
Arddangos ymchwil gyfreithiol a safbwyntiau artistig
Bydd y digwyddiad hefyd yn cynnwys arddangosfa sy'n cynnwys artistiaid lleol sy'n ymateb i themâu cymuned a mynediad i'r gyfraith, wedi'u hysbrydoli gan arddangosfa lwyddiannus Representing Law Cyfraith ÑÇÖÞÉ«°É yng Nghynhadledd Pwyllgor Ymchwil ar Gymdeithaseg y Gyfraith 2024. Bydd detholiad o brojectau ymchwil gan gydweithwyr o’r Brifysgol hefyd yn cael eu harddangos yng ngofod newydd y Clinig Cyngor Cyfreithiol. Â
Adloniant a rhwydweithio
Bydd y digwyddiad yn dod i ben gyda pherfformiad gan Higher Ground Collective, ensemble gair llafar a cherddorol lleol. Â
Amserlen y digwyddiadau:Â
- 4:00pm – 4:20pm: Lluniaeth ac arddangosfaÂ
- 4:20pm – 5:00pm: Darlith gwadd gan Ei Hanrhydedd y Barnwr Wendy OwenÂ
- 5:00pm – 5:30pm: Trafodaeth bord gronÂ
- 5:30pm – 6:00pm: Adloniant gan Higher Ground CollectiveÂ
Mae'r digwyddiad hwn yn cynrychioli cyfnod allweddol yn hanes Cyfraith ÑÇÖÞÉ«°É, gan atgyfnerthu ei rôl wrth hyrwyddo mynediad at gyfiawnder ac addysg gyfreithiol o fewn y gymuned. Â
Mae'r digwyddiad yn rhad ac am ddim, ond mae angen cofrestru.Â