Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bydd AC llwyddiannus yn deall pam fod Hanes yn hanfodol i'r unigolyn ac yn sylfaenol i ddeall y gymuned y mae unigolion yn perthyn iddi.聽聽Felly, mae hanes fel pwnc yn chwarae rhan hanfodol wrth ddatblygu gallu pobl ifanc i drin a thrafod materion a ffurfio eu hunaniaeth.聽
Drwy gydol y cwrs, bydd AC yn cynnwys disgyblion mewn trafodaethau beirniadol am feysydd allweddol a nodir gan orchmynion cyfredol cwricwlwm Cymru; er enghraifft, profiad cymdeithasol unigryw cymunedau Cymru ac adfywiad modern ymwybyddiaeth genedlaethol Cymru. Bydd AC hefyd yn gwybod sut y gall hanes ddatblygu dealltwriaeth o fewn y Dyniaethau a dod yn gyfarwydd 芒'r amrywiaeth o destunau arbenigol y pwnc sydd ar gael yn TGAU ac ar Lefel A.聽
Bwriad y rhaglen TAR聽Uwchradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant a phobl ifanc yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu'n athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant trwy'r sector uwchradd a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.聽 Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.聽
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi eu hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd athrawon cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu yng Nghymru a thu hwnt iddi.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Bydd AC yn deall sut i gynllunio gweithgareddau dysgu priodol er mwyn meithrin ymholi hanesyddol ystyrlon a dilys gan ddefnyddio deunydd o ffynonellau gwreiddiol, data rhifiadol ac ystadegol, ac ysgolheictod hanesyddol.聽 Byddant wedi archwilio addysgeg sylfaenol hanes, gan gynnwys adrodd stori, chwarae rhan, a threfnu gwybodaeth yn naratifau mawr, a chydberthynas hyn 芒 safbwyntiau traddodiadol o hanes fel pwnc a chorff gwybodaeth a dderbynnir.聽
Bydd AC yn deall swyddogaeth deialog a gofyn cwestiynau wrth ddatblygu arferion disgyblion o ran meddwl am hanes a sut i hyrwyddo rhyngweithio rhwng cysyniad a chynnwys i greu dealltwriaeth hanesyddol a llythrennedd. Byddant yn deall sut mae hanes wedi'i leoli o fewn y Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru a'r Meysydd Dysgu newydd, a byddant yn dysgu hanes gan ddefnyddio TGCh ac yn cyflwyno agweddau perthnasol o'r fframweithiau Llythrennedd a Chymhwysedd Digidol o fewn y pwnc. Bydd AC Hanes yn ymgorffori'r pedwar diben yn eu haddysgu, gan sicrhau bod dysgwyr yn deall swyddogaeth hanes yn eu hardal leol a'r byd ehangach.
Ariannu
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Gallai graddedigion sydd 芒 graddau penodol fod yn gymwys am gymhellion o hyd at 拢20,000 os ydynt am i hyfforddi i fod yn athro yng Nghymru.
Y pynciau blaenoriaeth yw:
- Ffiseg
- Cemeg
- Mathemateg
- Cymraeg
- Cyfrifiadureg
- Ieithoedd Tramor Modern
Gweler hefyd:
Gofynion Mynediad
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig 芒 pwnc astudio.
- Gradd C/Gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.聽
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. 聽聽
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn.聽 Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5)).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio 么l-radd safonol Prifysgol 亚洲色吧.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Mae'r cwrs TAR Uwchradd gyda SAC hwn yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* i fynd i'r proffesiwn dysgu mewn gwledydd eraill.聽 Mae'n eich paratoi'n llawn i weithio fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan gorff proffesiynol athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi at ystod eang o swyddogaethau ym maes addysg ac yn datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.聽 Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.聽 O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.聽 Mae'r arbenigedd hwn yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn ysgolion cynradd ac ysgolion arbennig, canolfannau awyr agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n cyd-fynd 芒'ch diddordebau.
Cysylltiadau 芒 diwydiant:
Mae'r rhaglen wedi ei llunio ar y cyd 芒 rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad 芒 hwy.