Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae'r cwrs hwn hefyd yn cael ei chynnig drwy Gyfrwng Saesneg.
Bwriad y rhaglen TAR Cynradd yw rhoi dealltwriaeth ddofn i chi o'r ffordd mae plant yn dysgu a rhoi i chi'r sgiliau a'r wybodaeth y bydd arnoch eu hangen i ddatblygu鈥檔 athro creadigol ac arloesol. Cewch gyfle i ddysgu am ddatblygiad plant drwy'r Gam Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 a chael cefnogaeth i ddod yn athro rhagorol/athrawes ragorol.聽 Mae'r cwrs TAR gyda SAC hwn* yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Bydd ysgolion ymroddedig gyda mentoriaid wedi'u hyfforddi'n dda yn cefnogi cynnydd Athrawon Cysylltiol tuag at ennill Statws Athro Cymwysedig yn unol 芒'r Safonau Proffesiynol ar gyfer Addysgu ac Arweinyddiaeth yng Nghymru.
Bydd tiwtoriaid ac ymchwilwyr profiadol yn y brifysgol a staff yn yr ysgolion yn rhoi cefnogaeth ragorol a sesiynau ysgogol, a bydd y cymhwyster a geir yn galluogi myfyrwyr i ddysgu o fewn Cymru a thu hwnt iddi.
Cyfleoedd Ymchwil
Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar draws Gogledd Cymru sy'n rhoi cyfleoedd i chi allu fod yn rhan o brosiectau ymchwil.
Profiad Myfyrwyr - Stori Guto聽
Fy enw i yw Guto Wyn Hughes. Rwy'n dod o Y Groeslon pentref bach ger Caernarfon. 聽Ar y funud dwi'n astudio TAR Cynradd Cymraeg.
Dwi wedi dewis fod yn athro oherwydd dwi wedi cael profiadau ar 么l chweched i weithio fel cymhorthydd, ac wedi cael blas y hynny wedyn nesi fynd i'r brifysgol a dim neud cwrs BA.
Ar 么l cwblhau fy nghwrs 3 mlynedd mewn chwaraeon, esi fynd ymlaen wedyn i weithio, a di penderfynu dod yn 么l i neud y cwrs TAR ym Mangor er mwyn cymhwyso fel athro.
Mae llawer o gyfleoedd gwahanol er mwyn gallu datblygu yn bersonol mae'r profiad o ddod i adnabod athrawon newydd hefyd yn cymhwyso ar y cwrs wedi bod yn brofiad gwych.
Be dwi wedi mwynhau gora o'r cwrs ydi ystod eang o brofiadau mewn ysgolion gwahanol da ni wedi cael dros y 9 mis diwethaf ysgolion sydd yn arbenigo mewn meysydd dysgu a phrofiad sydd wedi bod yn hollol wych a chael syniadau gan ysgolion eraill. Hefyd y 3 lleoliad gwahanol sydd wedi digwydd o fewn y cwrs.
Wedi bod mewn 3 ysgol wahanol yn dysgu gymaint o oedrannau gwahanol o blant o wahanol ardaloedd, cefndiroedd, cymunedau mae wedi bod yn hollol wych.
Yr adborth y buaswn yn rhoi ydi jest cer amdani mae wedi bod yn flwyddyn hynod werthfawr, o ran yr wythnos gyntaf, yr wythnos croesawu, hyd yma rydych yn dod i nabod gymaint o bobl ella efo'r un fath o werthoedd a chi. Hefyd yr un bobl sydd eisiau neud yr un peth a chyflawni'r un peth o fewn amgylchedd ysgol.
Dwi wedi bod digon ffodus i gael profiadau mewn ysgolion sydd yn ymfalch茂o o ddysgu trwy'r cyfrwng y Gymraeg, ac yn cymryd balchder mewn Cymreictod. Dwi wedi bod wrth fy modd yn cael creu'r portffolio Cymraeg yn y Brifysgol ac wedyn defnyddio'r sgiliau da ni'n defnyddio yn y Brifysgol ar lawr y dosbarth, mae wedi bod yn brofiad gwych.
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Fframwaith / Cynnwys y Cwrs (sut y caiff y cwrs ei ddysgu a'i asesu, rhestr o fodiwlau ac/neu ddisgrifiadau o fodiwlau).聽
- Astudiaethau Proffesiynol, Pedagogaidd a Chraidd mewn Addysg Gynradd
- Astudiaethau Pwnc mewn Addysg Gynradd (yn cynnwys ymchwil weithredol agos at ymarfer)
- Profiad Ysgol
Ariannu
Cymhellion Hyfforddi i Athrawon
Atodiad sylfaenol
Cymraeg, Saesneg, Mathemateg a Gwyddoniaeth yn unig (arbenigedd pwnc gradd er mwyn codi safonau mewn rhifedd a llythrennedd a chefnogi'r gwyddorau)
Gradd 1af a/neu ddoethuriaeth/gradd Meistr聽- 拢3,000,聽
Gweler hefyd:聽
Gofynion Mynediad
- O leiaf 2:2 mewn gradd anrhydedd neu gyfwerth mewn maes sy'n gysylltiedig ag addysg gynradd.
- Gradd C/gradd 4 mewn arholiad TGAU yn unrhyw un o'r canlynol: Iaith Saesneg, Llenyddiaeth Saesneg, Gymraeg Iaith Gyntaf, Llenyddiaeth Gymraeg.聽
- Rhaid cael gradd C/gradd 4 yn yr Arholiad TGAU mewn Mathemateg neu Mathemateg-Rhifedd hefyd.
- TGAU Gradd C/Gradd 4 mewn Gwyddoniaeth.
- Parodrwydd ac agwedd gadarnhaol tuag at wella eu defnydd personol o'r iaith Gymraeg.聽 聽
- Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gael gwiriad boddhaol y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer y gweithlu plant yn cynnwys gwirio'r rhestri rhai sydd wedi eu gwahardd rhag gweithio gyda phlant. Mae'n ofynnol hefyd i ymgeiswyr sydd wedi byw y tu allan i'r DU gael gwiriad cofnodion troseddol yn y wlad y buont yn byw ynddi. 聽聽
Dylai ymgeiswyr ystyried yn ofalus eu gallu i gyflawni gofynion y proffesiwn.聽 Edrychwch ar yr ystyriaethau i ymgeiswyr i Raglenni Addysg Gychwynnol Athrawon.
Rydym hefyd yn croesawu ceisiadau gan ymgeiswyr h欧n, unigolion gyda chymwysterau Ewropeaidd ac ymgeiswyr rhyngwladol (yn ddibynnol ar ofynion iaith Saesneg sylfaenol - IELTS Lefel 7 drwodd a thro (heb unrhyw elfen dan 6.5).
Gwneud Cais
Er mwyn mynd i ddysgu, mae angen ichi gwblhau Addysg Gychwynnol Athrawon (AGA) mewn prifysgol, ysgol neu goleg yn y DU. Dylai ymgeiswyr nodi bod y broses ymgeisio ar gyfer y rhaglenni TAR yn wahanol i drefn ymgeisio 么l-radd safonol Prifysgol 亚洲色吧.
Bydd angen i ymgeiswyr wneud cais drwy system Israddedig UCAS. Ewch i wefan UCAS am fwy o wybodaeth.
Gyrfaoedd
Mae TAR Cynradd gyda SAC (3-11) yn cael ei gydnabod ar draws Cymru a Lloegr ac mae'n aml yn drosglwyddadwy* ymhellach i ffwrdd i fynd i'r proffesiwn dysgu.聽 Mae'n eich paratoi'n llawn i weithredu fel athro/athrawes yng Nghymru a thu hwnt.
*Dylai rhai sydd eisiau dysgu y tu allan i Gymru a Lloegr wirio bod Statws Athro Cymwysedig yn cael ei gydnabod gan Gorff Proffesiynol Athrawon y wlad dan sylw ac y gellir ei drosglwyddo yno.
Mae rhaglenni CaBan yn eich paratoi ar gyfer ystod eang o swyddogaethau o fewn addysg a datblygu sgiliau arweinyddiaeth hanfodol.聽 Mae corff cynyddol o dystiolaeth bod arweinyddiaeth ysgol yn cael effaith ar ganlyniadau myfyrwyr sy'n ail yn unig i ddylanwad athrawon yn y dosbarth.聽 O fewn partneriaeth CaBan mae gennym arbenigedd a phrofiad rhyngwladol o'r theori a'r ymchwil diweddaraf ym maes arweinyddiaeth.聽 Mae'r arbenigedd hon yn effeithio ar gynnwys y rhaglen hon ac ar y datblygiadau pwysig a welir ar draws y rhanbarth ac ar lefel genedlaethol o ran datblygu timau arwain cryf ac effeithiol yn ein hysgolion.聽
Mae'r rhaglen yn cynnig lleoliadau byr/llawn mewn Ysgolion Cynradd ac Arbennig, Canolfannau Awyr Agored a lleoliadau eraill sy'n gysylltiedig ag addysg, er mwyn sicrhau eich bod yn cael profiad rhagorol sy'n benodol i'ch diddordebau.
Cysylltiadau 芒 diwydiant:
Mae'r rhaglen wedi'i llunio ar y cyd 芒 rhwydwaith o ysgolion partneriaeth rhagorol ar draws y rhanbarth, ac yn cael ei chyflwyno a'i hasesu mewn cydweithrediad 芒 hwy.