Yngl欧n 芒鈥檙 Cwrs Yma
Mae MA Prifysgol 亚洲色吧 mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor yn cynnig hyfforddiant ar lefel 么l-radd i fyfyrwyr sy'n dymuno dysgu am agweddau damcaniaethol, ymarferol ac addysgiadol Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL), yn ogystal 芒 chynnig cymhwysedd a dealltwriaeth feirniadol o amrywiol agweddau ar yr iaith Saesneg ac ieithyddiaeth Saesneg (agweddau sosioieithyddol ar Saesneg, gramadeg, system sain a semanteg Saesneg, hanes Saesneg, caffael iaith gyntaf ac ail iaith, seicoieithyddiaeth yn ogystal 芒 materion sy鈥檔 ymwneud 芒 Saesneg fel iaith ryngwladol a dwyieithrwydd).
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer myfyrwyr cartref neu ryngwladol sy'n dymuno dilyn gyrfa鈥檔 Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor (TEFL) i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol. Caiff y rhaglen ei hanelu'n benodol at fyfyrwyr sy'n chwilio am yrfaoedd mewn cyd-destunau amlieithog a rhyngwladol - lle mae ymwybyddiaeth o wahanol genres strategaethau cyfathrebu Saesneg, a'r gallu i'w defnyddio, o'r pwys mwyaf.
Rydym yn adran hygyrch, gyfeillgar mae鈥檙 staff yn frwd dros drosglwyddo eu harbenigedd a鈥檜 gwybodaeth am y pwnc ac rydym yn ymrwymo i ddarparu profiad dysgu o鈥檙 ansawdd uchaf i鈥檙 myfyrwyr. Mae ein hymchwil yn sail wybodaeth i鈥檔 darpariaeth addysgu ar bob lefel, gyda鈥檔 myfyrwyr yn elwa o staff brwdfrydig sy'n gweithio'n arloesol ym maes ymholiadau a datblygiadau academaidd. Mae ein staff wedi ymrwymo i ddarparu profiad rhagorol i鈥檙 myfyriwr gyda chefnogaeth gref bersonol i鈥檙 myfyrwyr trwy gydol yr MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer astudiaethau TEFL.
Ar 么l yr elfennau hyfforddedig bydd myfyrwyr y radd hon yn cwblhau project traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr sy鈥檔 seiliedig ar ymchwil. Mae staff yr Adran yn cynnig goruchwyliaeth bersonol ragorol a chefnogaeth academaidd ragorol gyda鈥檙 traethawd hir ar amrywiaeth eang o bynciau ieithyddol gan ddefnyddio fframweithiau methodolegol cymhwysol, damcaniaethol, arbrofol, sy鈥檔 seiliedig ar gorpws neu fframweithiau methodolegol ethnograffegol. Ymhlith y rheini mae鈥檙 canlynol:
- TEFL (Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor)
- SLA ac addysgu iaith
- seicoieithyddiaeth
- caffael iaith plant
- caffael ail iaith
- dadansoddi disgwrs
- ieithyddiaeth corpws
- iaith a chyfathrebu
- ffoneteg a ffonoleg
- morffogystrawen
- semanteg a phragmateg
- ieithyddiaeth hanesyddol
- amrywio a newid iaith
- iaith a chyfathrebu,
- dwyieithrwydd / amlieithrwydd.
Gall myfyrwyr ar MA TEFL Ieithyddiaeth Gymhwysol ddefnyddio cyfleusterau dysgu o鈥檙 radd flaenaf sy鈥檔 cynnwys:
- Stiwdio sain/recordio a labordy lleferydd o safon broffesiynol (gydag offer recordio Yamaha, Alesis a R脴DE)听
- Labordy olrhain llygaid (gyda thraciwr llygaid Tobii Pro X2-60)
- Labordy potensial digwyddiad-berthynol (ERP) (gyda pheiriant actiCHamp Plus ERP)
- Meddalwedd ac adnoddau ieithyddiaeth corpws pwrpasol.
Mae鈥檙 staff yn arbenigwyr yn eu meysydd canlynol a gallant gynnig cefnogaeth ynddynt:
- Meddalwedd ystadegol fel isod: SPSS, R-Statistics ac Excel.
- Meddalwedd seicoleg arbrofol fel E-Prime, GORILLA Experiment Builder, Open Sesame a Webexp.
- Meddalwedd dadansoddi acwstig a ffoneteg fel: Audacity, Praat, a SIL Speech Analyzer
- Profion seicometrig / iaith safonol (e.e. EVT, BPVS, NARA, WISC, K-BIT, TROG, CELF)
- Amrywiaeth eang o feddalwedd corpws a choncordans arbenigol gan gynnwys PLANT a CLAN
Ym Mangor byddwch yn rhan o gymuned ymchwil 么l-radd fywiog ac arloesol. Bydd cefnogaeth trwy wahanol ddigwyddiadau trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.
Hyd y Cwrs
Blwyddyn yn llawn-amser, 2-3 blynedd yn rhan-amser.
Fy enw i ydi Elham Taheri, ac roeddwn yn astudio ieithyddiaeth gymhwysol ar gyfer TEFL i ddysgu Saesneg fel iaith dramor.
Yn gyntaf oll, mi wnes i fwynhau cael fy nysgu gan athrawon proffesiynol iawn.
Wrth gwrs, rydw i wedi astudio Saesneg yn y gorffennol, ond y tro yma roedd yn fwy proffesiynol ac roeddwn wrth fy modd efo hynny.
Mae'n lle clos a chyfeillgar.
Ac roedd y cwrs, oherwydd bod ganddo rannau damcaniaethol a rhan ymarferol, yn help mawr i mi.
Rydw i wedi dysgu llawer, nid yn unig yn y dosbarthiadau ond hefyd yn y sesiynau ymarferol, a defnyddio'r damcaniaethau oedd yn cael eu defnyddio yn fy nosbarthiadau.
Ac fel y dywedais, oherwydd yr athrawon proffesiynol sydd yma, rydw i wedi dysgu llawer
Ar hyn o bryd, yn union. Ar 么l i mi orffen fy nghwrs yma, symudais i Lundain ac roeddwn yn ddigon ffodus i gael swydd mewn coleg yn Llundain.
Doeddwn i ddim yn meddwl y byddai mor hawdd 芒 hynny, ond yn ddigon ffodus oherwydd fy mod yn graddio o Brifysgol 亚洲色吧,
roedd yn hawdd i mi ddod o hyd i swydd ac roeddwn wrth fy modd gyda fy swydd fel athro.
听
Cynnwys y Cwrs
Beth fyddwch chi鈥檔 ei astudio ar y cwrs yma?
Modiwlau Gorfodol
Theori Saesneg fel Iaith Dramor - Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno sail ddamcaniaethol dysgu Saesneg fel iaith dramor, ac mae鈥檔 archwilio'r meysydd a'r materion craidd sy鈥檔 wynebu athrawon a dysgwyr.
Caffael Ail Iaith ac Addysgu Iaith - Mae鈥檙 modiwl hwn yn archwilio sut mae ail iaith yn cael ei dysgu, y prosesau sydd ynghlwm 芒 hynny a鈥檙 goblygiadau pedagogaidd o ganlyniad i addysgu iaith.
Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor - Mae'r modiwl hwn yn cyflwyno鈥檙 myfyrwyr i fethodolegau addysgu perthnasol ac yn eu harfogi i werthuso a chymhwyso'r methodolegau hynny. Mae hwn hefyd yn fodiwl ymarferol lle mae myfyrwyr yn arsylwi ar wersi i fyfyrwyr nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ac yna'n gwneud rhywfaint o addysgu gyda chefnogaeth mentor.
Dulliau Ymchwil Ieithyddiaeth - Mae鈥檙 modiwl hwn yn darparu鈥檙 sylfeini, yr hyfforddiant a鈥檙 offer angenrheidiol i gynllunio a chyflawni ymchwil ansoddol, meintiol, arbrofol neu ethnograffig mewn ieithyddiaeth, yn ogystal 芒鈥檙 hyfforddiant a鈥檙 profiad i ddatblygu, dylunio a chyflawni project traethawd hir annibynnol ar lefel Meistr ar sail ymchwil, gan ddefnyddio confensiynau arferol llenyddiaeth ieithyddiaeth / ieithyddiaeth gymhwysol.
Traethawd Hir MA/MSc - Bydd y myfyrwyr yn gwneud ymchwil unigol ar raddfa fach ond sydd eto鈥檔 arwyddocaol, i lefel uwch, ac yn ysgrifennu traethawd estynedig 15-20,000 o eiriau arno. Pennir aelod staff i bob myfyriwr, sydd 芒 diddordebau ymchwil sydd 芒'r cysylltiad gorau a/neu agosaf 芒'r testun fel goruchwyliwr. Bydd y goruchwyliwr yn cynorthwyo'r myfyriwr i ganolbwyntio ar gwmpas, methodoleg a chynnwys eu traethawd hir, yn ogystal 芒 rhoi cyngor trwy gydol y project. O dan gyfarwyddyd y goruchwyliwr, bydd y myfyrwyr yn canolbwyntio ar gwestiwn eu hymchwil ac yn ei fireinio, ynghyd ag archwilio deunyddiau darllen perthnasol, cynllunio'r project, penderfynu ar fethodoleg, ystyried yr angen am gymeradwyaeth foesegol a gweithredu'n unol 芒 hynny, casglu a dadansoddi data (gan ddibynnu ar natur yr ymchwil) gan ddefnyddio fframwaith dadansoddol priodol, ac ysgrifennu am y project i ffurfio'r traethawd hir a fydd yn ymdrin 芒'r cwestiwn ymchwil yng ngoleuni'r canfyddiadau.
Modiwlau Dewisol
Mae鈥檙 Modiwlau鈥檔 amrywio o鈥檙 naill flwyddyn i鈥檙 llall, gan gynnwys:
- Iaith a Chyfathrebu
- Ieithyddiaeth Hanesyddol
- Seicoieithyddiaeth
- Newid Iaith
- Cysylltiad Iaith a Dwyieithrwydd
- Caffael Iaith Plant
- Anhwylderau Iaith a Dwyieithrwydd
- Dwyieithrwydd a Materion Caffael
- Gwyddor Lleferydd
- Ffonoleg a Chaffael Dwyieithrwydd
- Dysgu Siarad Ail Iaith
- Ieithyddiaeth Gymraeg
- Dadansoddi Disgwrs Gwybyddol
- Defnyddio Corpora: Theori ac Ymarfer
- Caffael Ail Iaith ac Addysgu Iaith
- Technolegau Iaith
Rhaid i rai nad ydynt yn siaradwyr Saesneg brodorol ddilyn cyrsiau di-gredyd gydag ELCOS i'w cynorthwyo gyda'u Saesneg, oni ch芒nt eu heithrio gan eu tiwtor.
Syniad bras o gynnwys y cwrs yn unig a geir yma a gall newid.
Modiwlau ar gyfer y flwyddyn academaidd gyfredol
Mae鈥檙 rhestrau modiwlau ar gyfer eich arwain yn unig ac fe allant newid. Cymerwch olwg ar yr hyn y mae ein myfyrwyr yn ei astudio ar hyn o bryd ar tudalen Modiwlau Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL.
Mae cynnwys y cwrs wedi鈥檌 nodi i鈥檆h arwain yn unig ac fe all newid.
Gofynion Mynediad
Gradd israddedig 2.ii neu gyfwerth mewn pwnc perthnasol (e.e. Ieithyddiaeth, Ieithoedd Modern, Cyfieithu, Seicoleg, Iaith/Llenyddiaeth Saesneg, Addysg Saesneg/Addysg Iaith Saesneg).
Bydd ymgeiswyr sydd 芒 chymwysterau neu brofiad cyfwerth a cheisiadau gan weithwyr proffesiynol nad oes ganddynt radd yn cael eu hystyried fesul un.
听
Gyrfaoedd
Bydd MA Ieithyddiaeth Gymhwysol Prifysgol 亚洲色吧 ar gyfer TEFL yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae dysgu Saesneg fel iaith dramor at ddibenion proffesiynol amrywiol ledled y byd. Yn ogystal ag ennill profiad yn yr ystafell ddosbarth byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf ynghyd 芒'r gallu i fabwysiadu/defnyddio gwahanol strategaethau ar gyfer cyfathrebu a chyflwyno yn Saesneg mewn amrywiaeth o gyd-destunau amlieithog a rhyngwladol.
Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu ffurfiol, mae'n rhoi'r cefndir damcaniaethol a chefndir mewn ieithyddiaeth sydd ei angen ar fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i ddysgu Saesneg i siaradwyr nad ydynt yn siaradwyr brodorol yn ogystal 芒 chynnig profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyfleoedd i ddysgu mewn gwledydd ledled y byd, e.e. mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion iaith preifat. Ar 么l cwblhau'r MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol TEFL yn llwyddiannus, gallech benderfynu dilyn gyrfa academaidd a gwneud cais i astudio am radd PhD.