Pam Astudio Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd?
Rydym yn adran hygyrch a chyfeillgar gyda staff sydd wedi ymrwymo i addysgu o ansawdd uchel a chefnogaeth academaidd (a phersonol) gref drwy gydol astudiaethau ein myfyrwyr
Mae ein staff yn ymddiddori mewn trosglwyddo eu harbenigedd a'u gwybodaeth bwnc ac mae ein hymchwil yn sail wybodaeth i鈥檔 darpariaeth addysgu, gyda'n myfyrwyr yn elwa o ymholiadau a datblygiadau academaidd arloesol.
Mae gennym gyfleusterau ymchwil, labordai ac offer o'r radd flaenaf sy'n cynnwys recordio a phrosesu sain, olrhain llygaid, potensial digwyddiad-berthynol, technoleg iaith a pheiriannau a/neu adnoddau cyfrifiadurol perfformiad uchel.听
Rydym yn cynnig cefnogaeth a goruchwyliaeth bersonol gyda鈥檙 traethawd hir ar amrywiaeth eang o bynciau ieithyddiaeth gan ddefnyddio fframweithiau methodolegol cymhwysol, damcaniaethol, arbrofol, seiliedig ar gorpws neu ethnograffig.
Mae amgylchedd ymchwil bywiog hefyd yn amlwg trwy鈥檙 gwahanol ddigwyddiadau cyhoeddus a gweithdai a gynhelir trwy gydol y flwyddyn.
Profiad Myfyrwyr
Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol 亚洲色吧: Profiad Graddedig
Mae hwn yn gyfweliad gyda Elham Taheri, myfyriwr Ieithyddiaeth Gymhwysol ym Mhrifysgol 亚洲色吧. Mae hi'n gwisgo g诺n a het raddio ac yn siarad yn uniongyrchol 芒'r camera.
Fy Mhrofiad ym Mhrifysgol 亚洲色吧
Fy enw i yw Elham Taheri. Yn gyntaf oll, mwynheais gael fy nysgu gan athrawon proffesiynol iawn. Wrth gwrs, rwyf wedi astudio鈥檙 iaith Saesneg o鈥檙 blaen, ond y tro hwn roedd yn fwy proffesiynol, ac roeddwn i wrth fy modd 芒 hynny.
Amgylchedd Dysgu Cyfeillgar a Chynhaliol
Mae'n lle clyd a chyfeillgar. Ac roedd y cwrs, oherwydd ei fod yn cynnwys rhannau damcaniaethol yn ogystal 芒 rhan ymarferol, wir yn fy helpu. Rwyf wedi dysgu llawer, nid yn unig yn y dosbarthiadau ond hefyd mewn sefyllfaoedd ymarferol, gan ddefnyddio鈥檙 damcaniaethau a ddefnyddir yn fy nosbarthiadau. Ac fel y dywedais, oherwydd yr athrawon proffesiynol yma,rydw I wedi dysgu llawer.
Cyfleoedd Gyrfa ar 脭l Graddio
Ar hyn o bryd, yn union ar 么l i mi orffen fy nghwrs yma, symudais i Lundain ac, yn ffodus, cefais swydd mewn coleg yn Llundain. Doeddwn i ddim yn meddwl y byddwn wedi gwneud hynny mor hawdd, ond yn ffodus, gan fy mod wedi graddio o Brifysgol 亚洲色吧, roedd yn hawdd i mi ddod o hyd i swydd. Roeddwn i wrth fy modd 芒鈥檓 swydd fel athro.
听
Cyfleoedd Gyrfa o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd
Mae ein cyrsiau'n cynnig amrywiaeth o brofiadau a byddent yn apelio at unrhyw un sy'n awyddus i ddechrau ar yrfa sy'n cynnwys datblygu y natur a鈥檙 defnydd o iaith neu ieithoedd yn y gymdeithas fodern.
Bydd MA mewn Ieithyddiaeth yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut mae iaith yn gweithio a'r gallu i wneud ymchwil ar wahanol lefelau o ddadansoddiad ieithyddol. Mae myfyrwyr hefyd yn ennill sgiliau deallusol allweddol megis archwilio a gwerthuso damcaniaethau a modelau a rhagdybiaethau empirig sydd hefyd wedi'u cyfuno ag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy - megis llythrennedd cyfrifiadurol, gweithio gyda data, adalw gwybodaeth, dadansoddi beirniadol a datrys problemau. Mae graddedigion mewn sefyllfa dda i gael cyfleoedd gyrfa mewn cyfathrebu, addysgu, cyhoeddi, marchnata ac ymchwil. Mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir o astudio'r rhaglen hon yn fuddiol mewn ystod o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Ieithyddiaeth yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Ieithyddiaeth, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Ieithyddiaeth
Bydd ein MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer TEFL yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o sut i addysgu Saesneg fel iaith dramor at ddibenion proffesiynol amrywiol ar draws y byd. Yn ogystal 芒 chael profiad yn yr ystafell ddosbarth byddwch hefyd yn cael cyfle i ddatblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi cryf ynghyd 芒'r gallu i fabwysiadu/defnyddio gwahanol strategaethau ar gyfer cyfathrebu a chyflwyno yn Saesneg mewn amrywiaeth o gyd-destunau amlieithog a rhyngwladol. Er nad yw hwn yn gymhwyster addysgu ffurfiol, mae'n rhoi'r cefndir damcaniaethol a chefndir mewn ieithyddiaeth sydd ei angen ar fyfyrwyr sy'n dymuno mynd ymlaen i addysgu Saesneg i siaradwyr nad ydynt yn siaradwyr brodorol yn ogystal 芒 chynnig profiad ymarferol yn yr ystafell ddosbarth. Mae cyfleoedd yn bodoli i ddysgu mewn gwledydd ar draws y byd, e.e. mewn prifysgolion, colegau neu ysgolion iaith preifat. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Ieithyddiaeth Gymhwysol ar gyfer Dysgu Saesneg fel Iaith Dramor yn llwyddiannus, gallwch benderfynu dilyn gyrfa academaidd a gwneud cais i astudio am PhD.
Mae ein MSc mewn Technolegau Iaith yn datblygu sgiliau a gwybodaeth y mae cyflogwyr eu hangen mewn nifer o feysydd sy'n ymwneud 芒 maes technolegau iaith, yn enwedig meysydd megis prosesu iaith naturiol, cyfieithu peirianyddol, trosi testun-i-leferydd. Byddwch hefyd yn gweld eich bod yn datblygu sgiliau trosglwyddadwy a fydd yn eich galluogi i symud ymlaen i feysydd gyrfa gwahanol neu i barhau 芒'ch astudiaethau ar lefel PhD mewn technolegau iaith neu faes cysylltiedig.
Bydd graddedigion o鈥檙 cwrs hwn yn apelio at gyflogwyr mewn amrywiaeth eang o feysydd sy'n ymwneud 芒 maes ehangach ieithyddiaeth (e.e. addysg, rheolaeth, llywodraeth, ymchwil, iechyd) yn enwedig lle mae angen dealltwriaeth o iaith a鈥檙 rhyngweithio rhwng pobl a pheiriannau. Efallai bydd eraill eisiau dilyn gyrfaoedd lle mae dealltwriaeth o broblemau iaith yn berthnasol (e.e. cyfieithu, datblygu meddalwedd, cryptograffeg, cynllunio ieithyddol). I'r perwyl hwnnw, efallai y bydd cael gradd Meistr mewn Technolegau Iaith yn arwain at fynd ymlaen i ennill cymwysterau proffesiynol neu i wella eu cyflogadwyedd ymhellach yn y maes o鈥檜 dewis. Yn dilyn cwblhau'r MSc mewn Technolegau Iaith yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Cyfrifiadureg neu Ieithyddiaeth Gyfrifiadurol, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Cyfrifiadureg neu Ieithyddiaeth.
Bydd ein MA mewn Dwyieithrwydd yn rhoi dealltwriaeth fanwl i chi o faterion sy'n ymwneud 芒 dwyieithrwydd ac amlieithrwydd a'r gallu i wneud gwaith ymchwil yn y meysydd hyn. Byddwch hefyd yn ennill sgiliau deallusol allweddol fel archwilio a gwerthuso damcaniaethau a rhagdybiaethau a modelau empirig. Wrth gyfuno hyn gydag amrywiaeth o sgiliau trosglwyddadwy - fel llythrennedd cyfrifiadurol, gweithio gyda data, adalw gwybodaeth, dadansoddi beirniadol a datrys problemau. Mae graddedigion yn cael cyfleoedd gyrfa mewn cyfathrebu, addysgu, therapi iaith a lleferydd, cyhoeddi, ymchwil, ac mae'r sgiliau trosglwyddadwy a geir trwy'r rhaglen hon yn fuddiol mewn amrywiaeth o yrfaoedd eraill, gan gynnwys hysbysebu, newyddiaduraeth, ymgynghori etc. Yn dilyn cwblhau'r MA mewn Dwyieithrwydd yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Dwyieithrwydd.
Bydd ein MSc mewn Caffael a Datblygiad Iaith yn rhoi'r sgiliau, y ddealltwriaeth a'r wybodaeth angenrheidiol i chi weithio'n effeithiol a gwella eich cyflogadwyedd mewn sefydliadau sy'n gweithio gyda phoblogaethau dwyieithog a dysgwyr ail iaith sydd ag amhariad iaith neu beidio, fel therapyddion ac iaith a lleferydd ac athrawon. Yn dilyn cwblhau'r MSc mewn Caffael a Datblygiad Iaith yn llwyddiannus efallai y byddwch yn penderfynu dilyn gyrfa academaidd mewn Ieithyddiaeth, trwy wneud cais i astudio am PhD mewn Ieithyddiaeth
Ein Hymchwil o fewn Ieithyddiaeth, Iaith Saesneg a Dwyieithrwydd
Fel adran, mae gan ein staff 听proffiliau ymchwil 听gweithredol ac amrywiol听 a gydnabyddir yn rhyngwladol mewn amrywiaeth o feysydd gan gynnwys:听 caffael iaith gyntaf ac ail iaith, amrywiad a newid iaith, cynnal iaith, datblygiad iaith annodweddiadol, ieithyddiaeth corpws, iaith a chyfathrebu, technolegau iaith / prosesu iaith naturiol, ieithoedd dadleuol eu statws, prosesu a chaffael mydryddiaeth a chystrawen, seicoieithyddiaeth, ieithyddiaeth hanesyddol, gramadegoli, Dadansoddiad Disgwrs Gwybyddol (CODA), Dadansoddiad Disgwrs Beirniadol (CDA), dadansoddiad amlfodd, iaith amseryddol a natur iaith ffigurol, addysgeg dysgu iaith wrth gaffael ail iaith ac wrth ddysgu Saesneg fel ail iaith neu iaith ychwanegol ac ieithyddiaeth Gymraeg.
Caiff ein hamgylchedd ymchwil bywiog ei gefnogi hefyd gyda nifer o ddigwyddiadau gwahanol trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys sgyrsiau unigol, seminarau a gweithdai anffurfiol a chynadleddau mawr. Mae llawer o'r rhain yn agored nid yn unig i staff academaidd, ond hefyd i fyfyrwyr ac i'r cyhoedd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.
Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y meysydd pwnc yma hefyd.