Ynglŷn â’r Cwrs Yma
Rhaglen Meistr hyfforddedig dwy flynedd o hyd yw’r cwrs hwn, sy'n arwain at radd o Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a gradd yng Nghanada (h.y. gradd ddeuol) mewn coedwigaeth a rheolaeth amgylcheddol. Caiff y rhaglen ei chynnig gan gonsortiwm o wyth prifysgol: tair yng Nghanada, pedair yn yr Undeb Ewropeaidd, a Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É yn y Deyrnas Unedig.
Bydd myfyrwyr yn treulio’r flwyddyn gyntaf ym Mhrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a'r ail flwyddyn mewn prifysgol bartner yng Nghanada.
Y partneriaid yn y consortiwm TRANSFOR-M yw:
- Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É, Cymru, y Deyrnas Unedig
- Prifysgol Dwyrain y Ffindir, y Ffindir
- Prifysgol Padova, yr Eidal
- Prifysgol Adnoddau Naturiol a Gwyddorau Bywyd, Fienna, Awstria
- Prifysgol Gwyddorau Amaethyddol Sweden, Sweden
- Prifysgol Lakehead, Canada
- Prifysgol Alberta, Canada
- Prifysgol British Columbia, Canada
Y graddau Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É sydd ar gael dan TRANSFOR-M yw:
- MSc Amaethgoedwigaeth a Diogelu'r Cyflenwad Bwyd
- MSc Cadwraeth a Rheoli Tir
- MSc Coedwigaeth Amgylcheddol
Y graddau o Ganada sydd ar gael dan TRANSFOR-M yw:
- Gradd Meistr mewn Rheoli Coedwigoedd (Prifysgol Lakehead)
- MSc (Prifysgol Alberta)
- Gradd Meistr mewn Amaethyddiaeth, MAg, gan gynnwys arbenigeddau ail lefel (Prifysgol Alberta)
- Gradd Meistr mewn Coedwigaeth, MF, gan gynnwys arbenigeddau ail lefel (Prifysgol Alberta)
- Gradd Meistr mewn Coedwigaeth, MF (Prifysgol British Columbia)
Bydd myfyrwyr yn gwneud cais i un o brifysgolion y consortiwm a rhaid iddynt gael eu dewis gan y brifysgol honno a phrifysgol bartner.Ìý Yn ystod y broses ddewis, caiff myfyrwyr sydd â hanes academaidd cryf eu ffafrio, ynghyd â phrofiad a chymwysterau sy'n dangos gwir ddiddordeb mewn gwaith rhyngwladol.
Ffioedd
ÑÇÖÞÉ«°É fydd prifysgol ‘gartref’ myfyrwyr TRANSFOR-M sy'n gwneud cais drwy Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a bydd eu prifysgol 'letyol' yng Nghanada.Ìý Prifysgol yng Nghanada fydd prifysgol ‘gartref’ myfyrwyr TRANSFOR-M o Ganada a Phrifysgol ÑÇÖÞÉ«°É fydd eu prifysgol letyol.Ìý Bydd myfyrwyr 'cartref' ÑÇÖÞÉ«°É yn talu eu ffioedd dysgu i Brifysgol ÑÇÖÞÉ«°É drwy gydol y ddwy flynedd o astudio.
Ìý
Gofynion Mynediad
Mae myfyrwyr yn gwneud cais i un o brifysgolion y consortiwm a rhaid iddynt gael eu dewis gan y brifysgol honno a'r brifysgol bartner. Rhaid i drigolion y Deyrnas Gyfunol ddewis ÑÇÖÞÉ«°É fel eu prifysgol gartref. Yn ystod y broses ddewis, caiff myfyrwyr sydd â hanes academaidd cryf eu ffafrio, ynghyd â phrofiad a chymwysterau sy'n dangos diddordeb o ddifrif mewn gwaith rhyngwladol.
Gyrfaoedd
Mae sawl un sydd wedi graddio'n ddiweddar o’r rhaglen TRANSFOR-M wedi mynd ymlaen i astudio gradd ymchwil, tra bo eraill wedi ymgymryd â swyddi proffesiynol mewn coedwigaeth a chadwraeth, yn aml yn y wlad bartner (h.y. mae Graddedigion Prifysgol ÑÇÖÞÉ«°É a gwledydd partner Ewropeaidd eraill bellach yn gweithio yng Nghanada, ac mae graddedigion o Ganada yn gweithio yn y Deyrnas Unedig a ledled gwahanol wledydd yr Undeb Ewropeaidd).